- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
32.—(1) Mae rheoliadau 33 i 35 yn gymwys i ysbytai annibynnol o'r mathau canlynol—
(a)y rhai a ddiffinnir yn adran 2(3)(a)(i) o'r Ddeddf ac eithrio sefydliadau sydd wedi'u heithrio gan reoliad 3(3); a
(b)y rhai lle mae triniaeth feddygol, gan gynnwys llawdriniaeth gosmetig, yn cael ei darparu o dan anesthesia neu dawelydd.
(2) Mae rheoliad 33 hefyd yn gymwys i unrhyw sefydliad sy'n darparu gwasanaethau patholeg.
33. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod ystod ddigonol o wasanaethau patholeg ar gael i fodloni anghenion yr ysbyty;
(b)bod y gwasanaethau hynny yn cael eu darparu yn ôl safon briodol;
(c)bod trefniadau priodol yn cael eu gwneud ar gyfer casglu sbesimenau patholeg, ac ar gyfer eu cludo (pan ddarperir gwasanaethau patholeg y tu allan i'r ysbyty); a
(ch)bod modd bob amser adnabod y person y cymerwyd sbesimen ohono, a'r sbesimen hwnnw.
34.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a rhoi ar waith ddatganiad ysgrifenedig o'r polisïau sydd i'w cymhwyso a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn yn yr ysbyty mewn perthynas â dadebru cleifion a rhaid iddo adolygu'r datganiad hwnnw bob blwyddyn.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y polisïau a'r gweithdrefnau sy'n cael eu rhoi ar waith yn unol â pharagraff (1)—
(a)yn cymryd ystyriaeth briodol o hawl pob claf sy'n gymwys i wneud hynny i roi neu i wrthod rhoi cydsyniad i driniaeth;
(b)ar gael os gwneir cais amdanynt i bob claf ac unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran claf; ac
(c)yn cael eu cyfathrebu i bob cyflogai ac ymarferydd meddygol â breintiau ymarfer a allai fod yn gysylltiedig â phenderfyniadau ynghylch dadebru claf, gan sicrhau eu bod yn eu deall.
35. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, pan fo plentyn yn cael ei drin yn yr ysbyty—
(a)bod y plentyn yn cael ei drin mewn llety sydd ar wahân i'r llety y mae cleifion sy'n oedolion yn cael eu trin ynddo;
(b)bod anghenion meddygol, corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac addysgol penodol ac anghenion penodol am oruchwyliaeth sy'n deillio o oedran y plentyn yn cael eu bodloni;
(c)bod triniaeth y plentyn yn cael ei darparu gan bersonau â chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad priodol mewn trin plant;
(ch)bod rhieni'r plentyn yn cael eu hysbysu'n llawn o gyflwr y plentyn ac i'r graddau y bo hynny'n ymarferol ymgynghorir â hwy ynghylch pob agwedd o driniaeth y plentyn, heblaw pan fo'r plentyn yn gymwys i roi cydsyniad i driniaeth ac nad ydyw am i'w rieni gael eu hysbysu a'u hymgynghori ynghylch hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: