- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
24.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle fel sefydliad oni bai bod y safle hwnnw mewn lleoliad, a'i fod o ddyluniad a chynllun ffisegol, sy'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod y safle o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei gadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn;
(b)bod maint a chynllun yr ystafelloedd yn addas at y dibenion y maent i'w defnyddio ar eu cyfer a'u bod wedi'u cyfarparu a'u dodrefnu'n addas;
(c)bod pob rhan o'r sefydliad yn cael ei gadw'n lân ac yn bodloni safonau hylendid priodol;
(ch)bod pob rhan o'r sefydliad y gall y cleifion fynd atynt yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol; a
(d)os ymgymerir â gweithdrefnau llawfeddygol, os yw systemau cynnal bywyd yn cael eu defnyddio, neu os yw gwasanaethau obstetrig a gwasanaethau meddygol, mewn perthynas â geni plant, yn cael eu darparu yn y sefydliad, bod y cyflenwad trydan y mae ei angen i ddiogelu bywydau'r cleifion.yn cael ei ddarparu pan fydd y cyflenwad cyhoeddus yn cael ei dorri.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu'r canlynol ar gyfer y cyflogeion ac ymarferwyr meddygol gyda breintiau ymarfer—
(a)cyfleusterau a llety addas, ac eithrio lle cysgu, gan gynnwys—
(i)cyfleusterau ar gyfer newid; a
(ii)cyfleusterau storio; a
(b)pan fydd angen llety o'r fath ar gyflogeion mewn cysylltiad â'u gwaith, lle cysgu.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)cymryd rhagofalon digonol yn erbyn y risg o dân, gan gynnwys darparu a chynnal a chadw cyfarpar digonol i atal a darganfod tân;
(b)darparu dulliau boddhaol ar gyfer dianc os bydd tân;
(c)gwneud trefniadau ar gyfer personau a gyflogir yn y sefydliad ac ymarferwyr meddygol y rhoddwyd breintiau ymarfer iddynt i gael hyfforddiant addas mewn atal tân;
(ch)sicrhau, trwy gyfrwng driliau ac ymarferion tân a gynhelir bob hyn a hyn fel y bo'n addas, fod y sawl a gyflogir yn y sefydliad ac, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, fod y cleifion a'r ymarferwyr meddygol y rhoddwyd breintiau ymarfer iddynt, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan fydd tân;
(d)adolygu'r rhagofalon tân, addasrwydd y cyfarpar tân a'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan fydd tân, bob hyn a hyn heb fod cyfnod o fwy na deuddeg mis rhwng pob adolygiad; a
(dd)ymgynghori â'r awdurdod tân am y materion a ddisgrifir yn is-bargraffau (a) i (d).
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod tân”, mewn perthynas â sefydliad, yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal lle mae'r sefydliad wedi'i leoli, swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: