- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
9.—(1) Ni chaiff person weithredu sefydliad neu asiantaeth oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad oni bai bod y person—
(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)yn gorff a—
(i)bod y corff wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd yr unigolyn yn y corff (unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) a hwnnw'n unigolyn sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall y corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw—
(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg y sefydliad neu, yn ôl fel y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad;
(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y sefydliad neu, yn ôl fel y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad; ac
(c)bod gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r unigolyn—
(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 7 o Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw faterion a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(1) wedi'i dwyn i rym.
(5) Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad—
(a)os yw'r person wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw ei ystad wedi'i hatafaelu ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw'r person wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdalwr wedi'i ddirymu na'i ddiddymu; neu
(b)os yw'r person wedi cyfamodi neu wedi trefnu gyda chredydwyr y person ac nad ydyw wedi'i ryddhau mewn perthynas â hynny.
10.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg y sefydliad—
(a)os nad oes unrhyw rheolwr cofrestredig ar gyfer y sefydliad, a
(b)bod y darparydd cofrestredig
(i)yn gorff;
(ii)yn berson nad yw'n ffit i reoli sefydliad; neu
(iii)yn berson nad yw'r sefydliad o dan ei ofal amser-llawn o ddydd i ddydd neu nad yw'n bwriadu iddo fod o dan ei ofal felly.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r sefydliad, rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r canlynol—
(a)enw'r person a benodwyd felly; a
(b)y dyddiad y mae effaith y penodiad i fod i ddechrau.
(3) Os y darparydd cofresredig sydd i fod i reoli'r cartref, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r dyddiad y mae ei reolaeth i fod i ddechrau.
11.—(1) Ni chaiff person reoli sefydliad oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli sefydliad oni bai:
(a)Ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r sefydliad;
(b)o ystyried maint y sefydliad, y datganiad o ddiben a niferoedd ac anghenion y cleifion—
(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad angenrheidiol i reoli'r sefydliad; a
(ii)bod y person yn gorfforol ac yn feddyliol ffit i wneud hynny; ac
(c)bod gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person—
(i)ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 7 o Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw faterion a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(2) wedi'i dwyn i rym.
12.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig redeg neu, yn ôl fel y digwydd, reoli'r sefydliad gyda gofal, cymhwysedd a medr digonol, o ystyried maint y sefydliad, y datganiad o ddiben a niferoedd ac anghenion y cleifion.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig—
(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
(b)yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r medrau angenrheidiol i weithredu'r sefydliad.
(3) Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r sefydliad, o bryd i'w gilydd, ymgymryd â hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r medrau angenrheidiol i reoli'r sefydliad.
13.—(1) Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid i'r person a gollfarnwyd hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith yn ysgrifenedig o'r canlynol—
(a)dyddiad a lleoliad y gollfarn;
(b)y tramgwydd y collfarnwyd y person o'i herwydd; ac
(c)y gosb a osodwyd ar y person mewn perthynas â'r tramgwydd.
(2) Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(3) (Amddiffyn Plant) rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith yn ysgrifenedig o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono a dyddiad a man y cyhuddiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: