xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) At ddibenion y Ddeddf, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn gartref gofal—
(a)os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, ar gyfer perthynas i'r person sy'n ei redeg yn unig;
(b)os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, am lai na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
(c)os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd lle darperir gwasanaeth nyrsio;
(ch)os yw'n darparu llety, ynghyd â nyrsio, a'i fod wedi'i freinio—
(i)yn y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion ei swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), neu
(ii)mewn ymddiriedolaeth NHS(2);
(d)os yw'n brifysgol;
(dd)os yw'n sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3); neu
(e)os yw'n ysgol.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae “prifysgol” yn cynnwys—
(a)unrhyw goleg prifysgol;
(b)unrhyw goleg, neu sefydliad sydd o ran ei natur yn goleg, i brifysgol.
(3) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(ch) yn gymwys—
(a)os yw'r sefydliad yn darparu llety ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol i unrhyw berson; a
(b)os yw nifer personau o'r fath yn fwy na degfed ran nifer y myfyrwyr y mae'n darparu addysg a llety iddynt.
Gweler adran 5 o Ddeddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) fel y'i diwygiwyd gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ac adran 13(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).