- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
19.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)beidio â chyflogi person i weithio yn y cartref gofal dan gytundeb cyflogaeth oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny;
(b)beidio â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
(c)beidio â chaniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y cartref gofal mewn swydd lle gall y person yng nghwrs ei ddyletswyddau ddod i gysylltiad rheolaidd â defnyddwyr gwasanaeth neu ag unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir yn adran 3(2) o'r Ddeddf(1) yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref gofal oni bai—
(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i weithio yn y cartref gofal;
(b)bod ganddo'r cymwysterau, y medrau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
(c)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni;
(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person mewn perthynas â'r materion canlynol—
(i)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
(ii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn yr Atodlen honno.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth ar unrhyw un o'r materion a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997 wedi ei dwyn i rym.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson sy'n dod o dan baragraff (1) neu drefniant arall ynghylch gweithio yn y cartref plant a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a
(b)oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, na fydd person yn dechrau gweithio yn y cartref gofal nes y cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.
(5) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y cartref gofal er gwaethaf paragraff (4)(b)—
(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 yn Atodlen 2 yn anghyflawn;
(b)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—
(i)y mater a bennir ym mharagraff 1 yn Atodlen 2;
(ii)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 yn yr Atodlen honno;
(iii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 yn yr Atodlen honno;
(c)bod yr amgylchiadau'n eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
(ch)bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.
(6) Ni fydd paragraff (2)(ch), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 2 yn Atodlen 2, yn gymwys tan 1 Ebrill 2003 mewn perthynas â pherson a gyflogir yn union o flaen 1 Ebrill 2002 i weithio yn y cartref gofal.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson yn y cartref gofal nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol bob amser.
Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn cyfeirio at bersonau sy'n sâl neu wedi bod yn sâl; sy'n anabl neu'n fethedig; ac sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau neu wedi bod yn dibynnol arnynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: