Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN VIIAMRYWIOL

Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraill

38.—(1Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os digwydd—

(a)marwolaeth unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth, gan nodi amgylchiadau'r farwolaeth;

(b)brigiad unrhyw glefyd heintus yn y cartref gofal sydd ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gofalu am bersonau yn y cartref gofal yn ddigon difrifol i gael ei hysbysu felly;

(c)unrhyw anaf difrifol i ddefnyddiwr gwasanaeth;

(ch)salwch difrifol defnyddiwr gwasanaeth mewn cartref gofal nad oes nyrsio'n cael ei ddarparu ynddo;

(d)unrhyw ddigwyddiad yn y cartref gofal sy'n effeithio ar les neu ddiogelwch unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth;

(dd)unrhyw ladrad, bwrgleriaeth neu ddamwain ddifrifol yn y cartref gofal;

(e)unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref gofal.

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

Hysbysu absenoldeb

39.—(1Os yw—

(a)darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r cartref gofal; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

i fod yn absennol o'r cartref gofal am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.

(2Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y gellir cytuno arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu mewn perthynas â'r absenoldeb—

(a)pa mor hir y bydd neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;

(b)y rheswm drosto;

(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg y cartref gofal;

(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am y cartref gofal yn ystod yr absenoldeb; a

(d)y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud i benodi person arall i reoli'r cartref plant yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig y bydd y penodiad yn cael ei wneud.

(3Os yw'r absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(4Os bydd—

(a)darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r cartref gofal; neu

(b)rheolwr cofrestredig;

wedi bod yn absenol o'r cartref gofal am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, ac nad yw swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael hysbysiad o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r perwyl hwnnw, gan bennu'r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(5Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (4) yn dychwelyd i'r gwaith heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod wedi iddo ddychwelyd.

Hysbysu newidiadau

40.  Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny—

(a)os yw person heblaw'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r cartref gofal, neu'n bwriadu rhedeg neu reoli'r cartref gofal;

(b)os yw person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r cartref gofal, neu'n bwriadu rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r cartref gofal;

(c)os unigolyn yw'r person cofrestredig, ei fod yn newid ei enw neu ei fod yn bwriadu newid ei enw;

(ch)os corff yw'r darparydd cofrestredig—

(i)bod enw neu gyfeiriad y corff yn newid neu y bwriedir ei newid;

(ii)bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd neu y bwridedir i hynny ddigwydd;

(d)os oes unrhyw newid yn yr unigolyn cyfrifol neu y bwriedir unrhyw newid o'r fath;

(dd)os yw darparydd cofrestredig yn unigolyn, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar ei gyfer, neu fod cyfamod neu drefniant yn cael, neu'n debygol o gael ei wneud, gyda'i gredydwyr;

(e)os yw darparydd cofrestredig yn gwmni, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael, neu'n debygol o gael ei benodi;

(f)os yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei fusnes yn cynnwys rhedeg cartref plant, bod derbynnydd neu reolwr yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar gyfer y bartneriaeth; neu

(ff)bod safle'r cartref yn cael ei newid neu ei estyn yn arwyddocaol, neu fod bwriad i'w newid neu i'w estyn, neu fod safle ychwanegol yn cael ei sicrhau, neu fod bwriad i'w sicrhau.

Hysbysu terfynu llety

41.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig beidio â therfynu'r trefniadau ar gyfer llety defnyddiwr gwasanaeth oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad rhesymol o'i fwriad i wneud hynny—

(a)i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(b)i'r person y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y defnyddiwr gwasanaeth; ac

(c)os yw awdurdod lleol wedi gwneud y trefniadau ar gyfer darparu llety, gofal nyrsio neu ofal personol i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, i'r awdurdod hwnnw.

(2Os nad yw'n ymarferol i'r person cofrestredig gydymffurfio â'r gofyniad ym mharagraff (1)—

(a)rhaid iddo wneud hynny cyn gynted ag y bo'n ymarferol; a

(b)rhaid iddo ddarparu datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr amgylchiadau a'i gwnaeth yn anymarferol iddo gydymffurfio â'r gofyniad.

Penodi datodwyr etc

42.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—

(a)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob cartref gofal y mae'r penodiad yn berthnasol iddo ar unwaith ei fod wedi'i benodi, gan nodi'r rhesymau dros hynny;

(b)penodi rheolwr i gymryd gofal llawn amser o ddydd i ddydd o'r cartref gofal mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac

(c)o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'i fwriadau ynghylch gweithredu pob cartref gofal y mae ei benodiad yn berthnasol iddynt yn y dyfodol.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)fel derbynnydd neu reolwr eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal;

(b)fel datodwr neu ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig cartref gofal; neu

(c)fel derbynnydd neu reolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg cartref gofal; neu

(ch)fel ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig cartref gofal.

Marwolaeth person cofrestredig

43.—(1Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i berson cofrestredig sy'n dal yn fyw hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.

(2Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal, a'i fod yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig—

(a)yn ddi-oed o'r farwolaeth yn ysgrifenedig; a

(b)o fewn 28 diwrnod, o'u bwriadau ynghylch rhedeg y cartref yn y dyfodol.

(3Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y cartref gofal heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef—

(a)am gyfnod heb fod yn hirach na 28 diwrnod; a

(b)am unrhyw gyfnod pellach y gellir penderfynu arno yn unol â pharagraff (4).

(4Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu cyfnod, heb fod yn fwy na blwyddyn, at ddibenion paragraff (3)(b), a rhaid iddo hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.

(5Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref gofal yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y cartref gofal yn unol â pharagraff (3) heb fod wedi'u cofrestru ar ei gyfer.

Tramgwyddau

44.—(1Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 4 i 27 a 38 i 41 yn dramgwydd.

(2Heb ragfarnu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 29 o'r Ddeddf i ddwyn achos yn erbyn personau a fu unwaith, ond nad ydynt mwyach, yn bersonau cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal, gall y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 17 a ddigwyddodd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ar ôl i'r person beidio â bod yn berson cofrestredig.

Cydymffurfio â'r rheoliadau

45.  Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Lleoliadau oedolion

46.—(1At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 47, mae darparydd cofrestredig yn ofalwr lleoliadau oedolion mewn perthynas â chartref gofal—

(a)os ef yw'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal, a'i fod yn ei reoli;

(b)os nad oes person heblaw'r darparydd cofrestredig yn rheoli'r cartref gofal;

(c)os yw'r cartref gofal—

(i)yn gartref i'r darparydd cofrestredig; neu

(ii)os oes gan y darparydd cofrestredig fwy nag un cartref, yn gartref iddo lle mae'n preswylio fel arfer, neu'n ffurfio rhan ohono;

(ch)(i)os nad oes mwy na dau ddefnyddiwr gwasanaeth yn cael eu lletya yn y cartref gofal; neu

(ii)os nad oes mwy na thri defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu lletya yn y cartref gofal os yw pob defnyddiwr gwasanaeth o'r fath wedi cael eu lletya dan gytundeb a ddisgrifir yn is-baragraff (d) ar unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2002;

(d)os oes cytundeb lleoliad wedi'i wneud mewn perthynas â phob un o'r defnyddwyr gwasanaeth;

(dd)os yw pob defnyddiwr gwasanaeth dros 18 oed.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “cytundeb lleoliad” yw cytundeb sydd—

(a)wedi'i wneud rhwng—

(i)y darparydd cofrestredig;

(ii)y defnyddiwr gwasanaeth; a

(iii)yr awdurdod lleol neu gorff arall sy'n rheoli cynllun (“cynllun lleoliadau oedolion” (“adult placement scheme”)) y mae wedi trefnu neu y mae'n bwriadu trefnu i'r defnyddiwr gwasanaeth gael ei letya mewn cartref gofal odano;

(b)yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion canlynol—

(i)nodau'r trefniadau y mae'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya yn y cartref gofal odanynt;

(ii)yr ystafell y mae'r defnyddiwr gwasanaeth i'w meddiannu;

(iii)y gwasanaethau sydd i'w darparu ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth;

(iv)y ffioedd sydd i'w codi;

(v)cymwysterau a phrofiad y darparydd cofrestredig;

(vi)y telerau a'r amodau mewn perthynas â'r llety a'r gwasanaethau sydd i'w darparu;

(vii)y gwasanaethau a'r cymorth sydd i'w darparu o dan y cynllun lleoliadau oedolion y mae'r llety yn cael ei drefnu neu wedi cael ei drefnu odano.

Addasu'r rheoliadau mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion

47.—(1Bydd darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys os yw'r darparydd cofrestredig yn ofalwr lleoliadau oedolion mewn perthynas â chartref gofal.

(2Ni fydd rheoliadau 4, 8, 18, 19, 21, 22, 25, 27 i 37 a 42 (datganiad o ddiben; penodi rheolwr; staffio; ffitrwydd y gweithwyr; barn y staff ynghylch rhedeg y cartref gofal; gweithdrefn disgyblu'r staff; adolygu ansawdd y cartref gofal; ymweliadau gan y darparydd cofrestredig; plant; penodi datodwyr) nac Atodlenni 1, 5 a 6 (yr wybodaeth sydd i'w cynnwys yn y datganiad o ddiben; gwybodaeth ychwanegol sydd i'w cynnwys yn y datganiad o ddiben pan fydd plant yn cael eu lletya; materion sydd i'w monitro mewn cartref gofal y mae plant yn cael eu lletya ynddo) yn gymwys.

(3Bydd rheoliad 5 (arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai is-baragraff (a) o baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw wedi'i hepgor.

(4Bydd rheoliad 6 (adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai—

(a)y geiriau “ac yn ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)” a “ddatganiad o ddiben” wedi'u hepgor yn is-baragraff (a) o baragraff (1) y rheoliad hwnnw;

(b)paragraff (2) wedi'i hepgor.

(5Bydd rheoliad 16 (cyfleusterau a gwasanaethau) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “ac ymgynghori â'r awdurdod iechyd amgylchedd ynghylch y trefniadau hynny” wedi'u hepgor yn is-baragraff (g) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw.

(6Bydd rheoliad 24 (ffitrwydd safleoedd) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau yn is-baragraff (a) o baragraff (1) yn cael eu disodli â'r geiriau “bod y safle'n addas ar gyfer ei ddiben” ac fel pe bai is-baragraffau (a), (dd), (e), (f), (g), (ng) a (j) o baragraff (2) a pharagraffau (3) i (5) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor.

(7Bydd rheoliad 26 (y sefyllfa ariannol) yn effeithiol fel pe bai—

(a)paragraff (1) o'r rheoliad hwnnw wedi'i hepgor;

(b)is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor;

(c)paragraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor.

(8Bydd Atodlen 3 (y cofnodion sydd i'w cadw mewn cartref gofal mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai is-baragraff (ff) o baragraff 3 o'r Atodlen honno wedi'i hepgor.

(9Bydd Atodlen 4 yn effeithiol fel pe bai paragraffau 1, 3, 5, 6, 7 a 12 i 16 o'r Atodlen honno wedi'u hepgor.

Pennu swyddfeydd priodol

48.  Caiff y Cynulliad bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chartrefi gofal sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol o Gymru.

Diddymu

49.  Mae'r rheoliadau canlynol yn cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—

(a)Rheoliadau Cartrefi Gofal Preswyl 1984(1);

(b)Rheoliadau Cartrefi Nyrsio a Chartrefi Nyrsio'r Meddwl 1984(2).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources