Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

RHAN VIPLANT

Cymhwyso'r Rhan hon

28.  Bydd darpariaethau'r Rhan hon yn gymwys pan fydd unrhyw blentyn yn cael ei letya yn y cartref gofal.

Dehongli

29.  Yn rheoliad 2, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai—

(a)y geiriau “, neu unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd y diffiniad o “defnyddiwr gwasanaeth”;

(b)y diffiniadau canlynol wedi'u hychwanegu yn y mannau priodol—

  • mae i “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 12 (Cynllun lleoliad y plentyn) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002;

  • mae i “awdurdod lleoli” (“placing authority”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(1).

Datganiad o ddiben

30.  Yn rheoliad 4, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—

  • ac

    (ch)

    yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 5..

Y person cofrestredig

31.—(1Yn rheoliad 7, bydd paragraff (3) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—

  • ac

    (ch)

    bod ei brofiad a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant..

(2Yn rheoliad 9, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—

  • ac

    (ch)

    bod ei brofiad a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant a naill ai—

    (i)

    bod ei gymwysterau'n addas at ddibenion gweithio gyda phlant; neu

    (ii)

    bod person arall wedi'i benodi er mwyn ei helpu wrth reoli'r cartref gofal, a bod cymwysterau'r person a benodwyd felly yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant..

(3Yn rheoliad 10, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth,” wedi'u disodli gan y geiriau “nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth a'r angen i ddiogelu a hybu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,”.

Darpariaeth ar wahân ar gyfer plant

32.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod y ddarpariaeth sydd i'w gwneud ar gyfer gofal, triniaeth a goruchwyliaeth plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal; a

(b)y cyfleusterau a'r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer,

yn cael eu gwneud ar wahân i ddefnyddwyr gwasanaeth eraill i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny.

(2Ni fydd paragraff (1) yn atal y person cofrestredig rhag gwneud darpariaeth ar y cyd ar gyfer plant a defnyddwyr gwasanaeth eraill nad yw eu hoedran yn arwyddocaol o wahanol i oedran y plant hynny.

Lles a diogelwch plant

33.—(1Bydd rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer diogelu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd is-baragraff (a) o baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.

(2Bydd darpariaethau rheoliadau 12, 15 i 18, 23 a 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 (cynlluniau lleoliadau plant; cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu; trefniadau ar gyfer amddiffyn plant; rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal; addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden; peryglon a diogelwch; digwyddiadau hysbysadwy), ac Atodlen 5 iddynt, yn gymwys i'r person cofrestredig fel pe bai—

(a)unrhyw gyfeiriad at y person cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig fel y mae wedi'i ddiffinio yn y Rheoliadau hyn;

(b)unrhyw gyfeiriad at y cartref plant neu at y cartref yn gyfeiriadau at y cartref gofal.

(3Os bydd y person cofrestredig yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol, sef—

(a)salwch difrifol neu ddamwain ddifrifol y mae plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal wedi dioddef;

(b)brigiad unrhyw glefyd heintus yn y cartref gofal neu yn ymwneud â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,

ni fydd yn ofynnol iddo roi hysbysiad o'r digwyddiad hwnnw ar wahân i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 38 (hysbysu marwolaeth, etc.) o'r Rheoliadau hyn.

Ffitrwydd y gweithwyr

34.  Yn rheoliad 19, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—

  • ac

    (d)

    bod ei gymwysterau, ei brofiad, ei gymhwysedd a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant..

Gweithdrefn disgyblu'r staff

35.  Yn rheoliad 22, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “neu, mewn perthynas â phlentyn a letyir yn y cartref, swyddog o'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.” wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw.

Adolygu ansawdd y gofal

36.  Bydd rheoliad 25 yn effeithiol fel pe bai—

(a)y system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) o reoliad 25 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r materion a nodir yn Atodlen 6 gael eu monitro a'u hadolygu ar adegau priodol;

(b)y geiriau “a'u cynrychiolwyr” wedi'u disodli gan y geiriau “, eu cynrychiolwyr, rhieni'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ac, mewn perthynas â'r plant hynny, yr awdurdodau lleoli” ym mharagraff (3) o reoliad 25;

(c)y paragraff canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd rheoliad 25—

(4) Rhaid i'r person cofrestredig beidio ag anelu at sicrhau ymgynghoriad â rhiant plentyn o dan baragraff (3) os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu neu'n rhoi terfynau ar gysylltiadau rhwng y plentyn a'r rhiant a'i bod yn angenrheidiol gwahardd ymgynghoriad o'r fath, neu gyfyngu arno, er mwyn hybu neu ddiogelu lles y plentyn.

Tramgwyddau

37.  Bydd rheoliad 44 yn effeithiol fel pe bai'r paragraff canlynol yn disodli paragraff (1)—

(1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol yn dramgwydd—

(a)rheoliadau 4 i 27 a 38 i 41, i'r graddau y mae'r rheoliadau hynny'n effeithiol yn ddarostyngedig i Ran VI o'r Rheoliadau hyn;

(b)rheoliadau 32 a 35; ac

(c)y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) o reoliad 33..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources