Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

RHAN VRHEOLI

Adolygu ansawdd y gofal

25.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer—

(a)adolygu ansawdd y gofal a ddarperir yn y cartref gofal, gan gynnwys ansawdd y gwasanaeth nyrsio os darperir gwasanaeth o'r fath yn y cartref gofal, ar adegau priodol; a

(b)ei wella.

(2Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth.

(3Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr.

Y sefyllfa ariannol

26.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg y cartref gofal mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y cartref gofal yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt, unrhyw wybodaeth a dogfennau y gall ofyn amdanynt er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y cartref gofal, gan gynnwys—

(a)cyfrifon blynyddol y cartref gofal, wedi'u hardystio gan gyfrifydd;

(b)tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparydd cofrestredig;

(c)gwybodaeth am ariannu'r cartref gofal a'i adnoddau ariannol;

(ch)os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o'i gwmnïau cysylltiedig;

(d)tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r rhwymedigaeth y gallai ei thynnu mewn perthynas â'r cartref ynghylch marwolaeth, niwed, rhwymedigaeth gyhoeddus, difrod neu golled arall.

(3Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cadw mewn perthynas â'r cartref gofal a'u cadw'n gyfoes;

(b)sicrhau bod y cyfrifon yn rhoi manylion costau rhedeg y cartref gofal, gan gynnwys rhent, taliadau o dan forgais a gwariant ar fwyd, gwres a chyflogau misol ac wythnosol y staff; ac

(c)rhoi copi o'r cyfrifon i'r Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano.

(4Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.

Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig

27.—(1Os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, ond nad yw'n rheoli'r cartref gofal, rhaid iddo ymweld â'r cartref gofal yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r cartref gofal yn unol â'r rheoliad hwn—

(a)yr unigolyn cyfrifol;

(b)un arall o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff sy'n addas i ymweld â'r cartref; neu

(c)cyflogai i'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y cartref gofal sy'n addas i ymweld â'r cartref.

(3Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith bob tri mis a gallant fod yn ddi-rybudd.

(4Rhaid i'r person sy'n ymweld—

(a)cyfweld, gyda'u cydsyniad ac yn breifat, ag unrhyw un o'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr ac unrhyw un o'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal y mae'n ymddangos iddo ei bod yn angenrheidiol cyfweld â hwy er mwyn ffurfio barn am safon y gofal sy'n cael ei ddarparu yn y cartref gofal;

(b)archwilio safle'r cartref gofal, ei gofnod o ddigwyddiadau a'i gofnodion o unrhyw gwynion; ac

(c)paratoi adroddiad ysgrifenedig ynghylch sut mae'r cartref gofal yn cael ei redeg.

(5Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c)—

(a)i'r rheolwr cofrestredig a fydd yn cadw'r copi yn y cartref gofal; a

(b)yn achos ymweliad o dan baragraff (2), i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources