xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CEISIADAU AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG AC EITHRIO UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan IIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ORGANEDDAUAU A ADDASWYD YN ENETIG

Nodweddion organeddau a addaswyd yn enetig

25.  Disgrifiad o nodweddion genetig neu nodweddion ffenotypig ac yn benodol unrhyw nodweddion newydd a allai gael eu mynegi neu nad ydynt bellach yn cael eu mynegi.

26.  Strwythur a swm unrhyw fector neu asid niwclëig rhoi sy'n parhau yng ngwneuthuriad terfynol yr organeddau a addaswyd.

27.  Sefydlogrwydd yr organeddau o safbwynt nodweddion genetig.

28.  Cyfradd a lefel mynegiant y deunydd genetig newydd yn yr organeddau, a dull a sensitifrwydd mesuriad y gyfradd a'r lefel honNo.

29.  Actifedd y cynnyrch genynnol.

30.  Y disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod, gan gynnwys technegau ar gyfer adnabod a chanfod y dilyniant a'r fector a fewnosodwyd.

31.  Sensitifrwydd, dibynadwyedd (yn nhermau meintiol), a sbesiffigedd y technegau canfod ac adnabod.

32.  Hanes gollyngiadau neu ddefnyddiau blaenorol yr organeddau.

33.  Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—

(a)effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,

(b)cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,

(c)gallu'r organeddau i gytrefu,

(ch)os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—

(i)yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,

(ii)heintusrwydd,

(iii)dogn heintiol,

(iv)ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,

(v)y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,

(vi)presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,

(vii)sefydlogrwydd biolegol,

(viii)patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,

(ix)alergenedd, a

(x)argaeledd therapïau priodol; a

(d)peryglon eraill y cynnyrch.