- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
35.—(1) Rhaid i'r gofrestr gynnwys y manylion a nodir ym mharagraffau (2) i (10).
(2) Mewn perthynas â hysbysiad gwahardd a gyflwynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 110 o'r Ddeddf—
(a)enw a chyfeiriad y person y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo,
(b)disgrifiad o'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy,
(c)y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig,
(ch)at ba ddiben y bwriedir gollwng neu farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig,
(d)y rheswm dros gyflwyno'r hysbysiad,
(dd)unrhyw ddyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad fel y dyddiad y daw'r gwaharddiad i rym.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf—
(a)enw a chyfeiriad y ceisydd,
(b)disgrifiad cyffredinol o'r organedd a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn cael ei wneud mewn perthynas ag ef,
(c)y man lle bwriedir gollwng yr organeddau, i'r graddau y mae'r wybodaeth hon wedi'i hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
(ch)at ba ddiben arfaethedig y bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys unrhyw ddefnydd y bwriedir ar eu cyfer yn y dyfodol) neu, mewn perthynas â chaniatâd i farchnata, at ba ddiben y byddant yn cael eu marchnata,
(d)dyddiad arfaethedig eu gollwng,
(dd)yr asesiad risg amgylcheddol,
(e)y dulliau a'r cynlluniau ar gyfer monitro'r organeddau a addaswyd yn enetig ac ar gyfer ymateb i argyfwng, ac
(f)crynodeb o unrhyw gyngor y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd ynghylch a ddylid caniatáu neu wrthod cais i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, a naill ai—
(i)yr amodau neu'r cyfyngiadau y mae'r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori y dylid rhoi'r caniatâd yn unol â hwy, neu
(ii)crynodeb o'r rhesymau pam y mae'r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori na ddylid rhoi'r caniatâd.
(4) Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymwybodol neu os daw'n ymwybodol fod gwybodaeth ynglŷn ag organeddau a addaswyd yn enetig neu ynglŷn â diben eu gollwng neu eu marchnata wedi'i gyhoeddi a bod honno'n fanylach na'r hyn a fyddai'n bodloni gofynion paragraff (3) uchod, rhaid iddo nodi cymaint o'r wybodaeth fanylach honno ar y gofrestr ag y bydd yn ystyried yn briodol.
(5) Mewn perthynas â chaniatadau a roddir o dan adran 111(1) o'r Ddeddf—
(a)copi o'r caniatâd, a chyfeiriad at y cais y cafodd ei roi mewn perthynas ag ef,
(b)unrhyw wybodaeth a gyflenwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd,
(c)y ffaith bod y caniatâd wedi cael ei amrywio neu ei ddiddymu, cynnwys yr hysbysiad y cafodd y caniatâd ei amrywio neu ei ddirymu ganddo, a chopi o'r caniatâd wedi'i amrywio,
(ch)crynodeb o unrhyw gyngor y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd ynghylch a ddylid amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig.
(6) Yr wybodaeth ganlynol ynghylch y risg y byddai niwed yn cael ei beri i'r amgylchedd gan organeddau a addaswyd yn enetig—
(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 111(6A) neu 112(5)(b)(i) o'r Ddeddf,
(b)unrhyw wybodaeth ynglŷn â digwyddiad anrhagweledig sy'n digwydd mewn cysylltiad â gollyngiad organedd a addaswyd yn enetig a allai effeithio ar y risgiau sy'n bodoli o beri niwed i'r amgylchedd a'r wybodaeth honno wedi'i hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 112(5)(b)(iii) o'r Ddeddf.
(7) Copi o unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall.
(8) Lleoliad unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig a dyfwyd yng Nghymru yn unol â chaniatâd i farchnata i'r graddau y mae'r wybodaeth honno yn cael ei chymhwyso i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r gofynion monitro a bennwyd ar gyfer y caniatâd.
(9) Unrhyw benderfyniad a fabwysiadwyd gan y Comisiwn yn unol ag Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.
(10) Mewn perthynas â chollfarnau am unrhyw dramgwydd o dan adran 118 o'r Ddeddf—
(a)enw a chyfeiriad y person a gafwyd yn euog,
(b)disgrifiad o unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig y cafwyd y gollfarn mewn perthynas â hwy,
(c)y dramgwydd a gyflawnwyd,
(ch)y gosb a bennwyd ac unrhyw orchymyn a wnaed gan y llys o dan adran 120 o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: