xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhan ILL+CCyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw; a

(b)mae cyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad hwnnw yn digwydd ynddo.

Dynodi awdurdod cymwysLL+C

3.  Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yr awdurdod cymwys mewn perthynas â Chymru at ddibenion y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Diben Rhan VI o'r Ddeddf ac ystyr “organeddau a addaswyd yn enetig” aybLL+C

4.—(1Mae diwygiadau adran 106 o'r Ddeddf (diben Rhan VI o'r Ddeddf ac ystyr “genetically modified organisms” ayb), a wnaed gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 yn effeithiol mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn:

(2Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 3(2) o'r Rheoliadau hynny sy'n rhoi'r canlynol yn lle is-adran (1)—

(1) This Part has effect for the purpose of ensuring that all appropriate measures are taken to avoid damage to the environment which may arise from the escape or release from human control of genetically modified organisms.,

(3Mae diwygiad is-adran (4) a wnaed gan reoliad 3(3) o'r Rheoliadau hynny, sy'n rhoi'r canlynol yn lle paragraff (a) —

(a)have been artificially modified, or,

(4Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 3(4) o'r Rheoliadau hynny (sy'n mewnosod is-adrannau (4A) i (4D)) yn cael ei addasu gan baragraff (5) ac, o'i addasu felly, mae'n effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

(5Yn is-adran (4D), fel y'i mewnosodwyd gan y rheoliad hwnnw, ar ôl “Secretary of State” mewnosodwch— “or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales”.

(6Mae testun is-adrannau (4A) i (4D), o'i fewnosod gan y rheoliad hwnnw a'i addasu gan baragraff (5), fel a ganlyn—

(4A) Genes or other genetic material in an organism are “artificially modified” for the purposes of subsection (4) above if they are altered otherwise than by a process which occurs naturally in mating or natural recombination.

(4B) For the purposes of subsection (4) above—

(a)genes or other genetic material shall be taken to be artificially modified if they are altered using such techniques as may be prescribed for the purposes of this paragraph;

(b)genes or other genetic material shall not be regarded as artificially modified by reason only of being altered by the use of such techniques as may be prescribed for the purposes of this paragraph.

(4C) An organism shall be taken not to be a genetically modified organism for the purposes of this Part if it is an organism of a prescribed description.

(4D) In subsections (4B) and (4C) above “prescribed” means prescribed by regulations made by the Secretary of State, or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales..

(7Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 3(5) o'r Rheoliadau hynny (sy'n hepgor is-adrannau (5) a (6)) yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Ystyr “damage to the environment” aybLL+C

5.—(1Mae diwygiadau adran 107 o'r Ddeddf (ystyr “damage to the environment” ayb) a wnaed gan reoliad 4 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, fel y'u disgrifir ym mharagraff (2), yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

(2Mae'r diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)yn rhoi yn lle is-adran (2) (ystyr “environment”)—

(2) The “environment” includes land, air and water and living organisms supported by any of those media,

(b)yn is-adran (3) (ystyr “damage to the environment”) yn hepgor “to the living organisms supported by the environment”,

(c)yn rhoi yn lle is-adran (6) (ystyr “harm”)—

(6) “Harm” means any adverse effects as regards the health of humans or the environment,

(ch)yn rhoi yn lle is-adran (9) (ystyr organedd sydd o dan “control” person)—

(9) Organisms of any description are under the “control” of a person where he keeps them contained by measures designed to limit their contact with humans and the environment and to prevent or minimise the risk of harm.,

(d)yn rhoi yn lle is-adran (11) (ystyr organedd sy'n cael ei farchnata (“marketed”))—

(11) Genetically modified organisms of any description are “marketed” by a person when products consisting of or including such organisms are placed on the market by being made available to other persons, whether or not for consideration..

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Technegau addasu genetigLL+C

6.—(1Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4B)(a)(7) o'r Ddeddf i rym, rhaid cymryd bod genynnau neu ddeunydd genetig arall, at ddibenion is-adran (4) o'r adran honno, wedi'u haddasu'n artiffisial os ydynt wedi'u newid drwy ddefnyddio unrhyw un o'r technegau canlynol:

(a)technegau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno sy'n cynnwys ffurfio cyfuniad newydd o ddeunydd genetig drwy fewnosod molecylau asid niwclëig a gynhyrchir drwy ba ddull bynnag y tu allan i organedd, i mewn i unrhyw firws, plasmid bacterol neu system fector arall a'u hymgorffori mewn organedd lletyol lle nad ydynt yn digwydd yn naturiol ond mae modd iddynt barhau i epilio;

(b)technegau sy'n cynnwys cyflwyno'n uniongyrchol i mewn i organedd ddeunydd etifeddadwy a baratowyd y tu allan i'r organedd gan gynnwys microbigiad, macrobigiad a microamgáu;

(c)ymasiad celloedd (gan gynnwys ymasiad protoplast) neu dechnegau croesiad pan gaiff celloedd byw gyda chyfuniadau newydd o ddeunydd genetig etifeddadwy eu ffurfio drwy ymasu dwy gell neu fwy drwy ddulliau nad ydynt yn digwydd yn naturiol.

(5Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4B)(b) o'r Ddeddf i rym, rhaid peidio ag ystyried bod genynnau neu ddeunydd genetig arall, at ddibenion is-adran (4) o'r adran honno, yn rhai sydd wedi'u haddasu'n artiffisial ond am eu bod wedi'u newid drwy ddefnyddio unrhyw un o'r technegau canlynol:

(a)ffrwythloni in vitro,

(b)prosesau naturiol megis cydgysylltiad, trosglwyddiad a thrawsnewid; ac

(c)anwythiad polyploidedd,

ar yr amod nad yw technegau o'r fath yn golygu defnyddio molecylau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno nac organeddau a addaswyd yn enetig ac a wnaed drwy dechnegau neu ddulliau ac eithrio—

(i)mwtagenesis;

(ii)ymasiad celloedd (gan gynnwys ymasiad protoplast) celloedd planhigion neu organeddau sy'n gallu cyfnewid deunydd genetig trwy ddulliau bridio traddodiadol.

(6Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4C) o'r Ddeddf i rym, rhaid cymryd nad yw organedd, at ddibenion Rhan VI o'r Ddeddf, yn organedd a addaswyd yn enetig os yw'n gynnyrch a gafwyd drwy'r technegau neu'r dulliau a restrir ym mharagraffau (2)(i) neu (ii) ar yr amod nad oedd y technegau neu'r dulliau hynny yn golygu defnyddio molecylau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno nac organeddau a addaswyd yn enetig ac eithrio'r rhai a wnaed drwy dechnegau neu ddulliau a restrir yn y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Asesiad risg amgylcheddolLL+C

7.—(1Rhaid i asesiad risg amgylcheddol sydd wedi'i gynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau wedi'u haddasu'n enetig—

(a)canfod a gwerthuso'r niwed posibl i'r amgylchedd, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, boed yn ddi-oed neu'n ohiriedig, a allai ddeillio o ganlyniad i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig;

(b)cael ei gyflawni yn unol ag Atodlen II o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol a chynnwys y casgliadau sy'n ofynnol yn Adran D o'r Atodlen honno; ac

(c)cynnwys unrhyw gyfeiriadau llyfryddol a dangos y dulliau a ddefnyddiwyd lle bo hynny'n berthnasol.

(2Pan fo'r genynnau a addaswyd yn enetig yn cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig, rhaid i'r asesiad risg amgylcheddol gynnwys archwiliad o'r risgau penodol o niwed i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng neu farchnata'r organeddau hynny a addaswyd yn enetig .

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Cyfathrebu â cheisydd am ganiatâdLL+C

8.—(1Pryd bynnag y bydd yn ofynnol i geisydd am ganiatâd neu am adnewyddu caniatâd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo neu ei bod hi'n ofynnol i ddeiliad caniatâd o'r fath o dan y Rheoliadau hyn gyflwyno unrhyw ddogfen yn ysgrifenedig, boed hynny cyn neu ar ôl i ganiatâd gael ei roi, mae'n ofynnol iddo gyflwyno'r ddogfen honno ar ffurf papur ac ar ffurf electronig a ddefnyddir yn gyffredin.

(2Pryd bynnag y bydd yn ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw gyfathrebiad oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru at y ceisydd am ganiatâd neu am adnewyddu caniatâd fod yn ysgrifenedig, bydd “ysgrifenedig” yn cynnwys cyfathrebiad electronig.

(3Rhaid i unrhyw ddogfennau y mae'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn iddynt fod yn ysgrifenedig ac nad ydynt yn dod o dan ddarpariaethau paragraff (1) neu (2) uchod fod ar ffurf papur.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

(1)

OJ Rhif L117, 8.5.90, t.15.

(2)

OJ Rhif L103, 22.4.94, t.20.

(3)

OJ Rhif L169, 27.6.97, t.72.

(5)

OJ Rhif L292, 12.11.1994, t.31.

(6)

O.S. 1992/3280. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y rheoliadau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Erthygl 3 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253).

(7)

Diwygiwyd adran 106(4) gan reoliad 3(3) ac mewnosodwyd adran 106(4A) i 106(4D) gan reoliad 3(4) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, a rhoddir effaith iddynt yng Nghymru yn ddarostyngedig i addasiadau pellach gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.