2002 Rhif 3184 (Cy.300)
Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 20021.
Enw, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 19 Rhagfyr 2002.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Arolygiadau Ysgolion 19962;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19983;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “adroddiad arolygydd” (“an inspector’s report”) yw adroddiad a wneir o dan adran 5(2)(b), adran 13 neu adran 14 o Ddeddf 1996.
2
Yn y rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.
Addasiadau sy'n ymwneud ag ysgolion sy'n peri pryder3
Os bydd adroddiad arolygydd wedi cael ei wneud cyn 19 Rhagfyr 2002:
a
bydd adran 15(4) a (6) o Ddeddf 1998 yn effeithiol fel pe na bai'r diwygiadau a wneir gan adran 55 wedi dod i rym;
b
caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer unrhyw bwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1) neu 19(1) o Ddeddf 1998 fel pe bai'r adroddiad wedi'i baratoi ar ôl y dyddiad hwnnw a bod hysbysiad wedi'i roi o dan adran 16A(2)4 o Ddeddf 1996;
c
caiff awdurdod addysg lleol arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 14(2)(a) neu (b), 16 neu 17 o Ddeddf 1998 fel pe bai'r adroddiad wedi'i baratoi ar ôl y dyddiad hwnnw a bod hysbysiad wedi'i roi o dan adran 16A(2) o Ddeddf 1996.
Addasu darpariaeth sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion4
Bydd adran 41(2) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “subsection (1)” wedi'u hamnewid gan y geiriau “subsection (2)”.
Addasu darpariaethau sy'n ymwneud â'r Cwricwlwm5
1
Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gyfnod yr addasiad yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar 19 Rhagfyr 2002 ac yn diweddu ar y dyddiad pan ddaw adrannau 102, 104 a 108(2) i rym.
2
Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adrannau 99(1), 100(1)(a), (2)(a) a (3), 111(1), 114(1) a (5) a 115(4)(a) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “or maintained nursery school” wedi'u hepgor, a bydd adran 111(3) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “or a maintained nursery school” wedi'u hepgor.
3
Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 100 yn effeithiol fel pe bai paragraff (4)(b) wedi'i amnewid gan—
b
functions relating to religious education and religious worship.
4
Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 101 yn effeithiol fel pe bai paragraff (1)(b) wedi'i amnewid gan—
b
a curriculum for all registered pupils at the school of compulsory school age (known as “the National Curriculum for Wales”),
5
Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 108 yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'u hepgor—
a
yn is-adran (1)(b), y geiriau “the foundation stage and”;
b
yn is-adran (4), “(2) or”, “the foundation stage or”, “educational programme or” a “(or the timetables of any person providing funded nursery education)”;
c
yn is-adran (5) “(2) or”;
ch
yn is-adran (8) “(2)(b) (iii) or” ;
d
yn is-adran (10) “(6) or” ac “or, as the case may be, premises on which the funded nursery education is being provided”; a
dd
yn is-adran (11) “(2)(b)(iii) or” a “(6) or”.
6
Bydd paragraff 6(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 19965 yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “section 351(1)” wedi'u hamnewid gan y geiriau “section 78(1) or 99(1) of the Education Act 2002”.
Addasu darpariaethau sy'n ymwneud ag athrawon
6
1
Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 19 Rhagfyr 2002 ac yn diweddu ar y dyddiad pan ddaw'r rheoliadau o dan adran 132 i rym, bydd yr adran honno'n effeithiol fel pe bai is-adran (1) wedi'i hamnewid gan—
A reference in the Education Acts to a “qualified teacher” is to a qualified teacher within the meaning of section 218(2) of the Education Reform Act 19886.
2
Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw adran 122(3)(d) i rym7 ac yn diweddu ar y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau o dan adran 133 i rym, ni fydd adran 122(3)(d) yn gymwys.
7
1
Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 31 Mawrth 2003 ac yn diweddu ar y diwrnod y daw paragraff 3(3) o Atodlen 12 i rym bydd adran 134(1) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “with full registration” wedi'u hepgor.
2
Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 31 Mawrth 2003 ac yn diweddu ar y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau o dan adran 134(1) i rym, bydd yr adran 12(2)(b) newydd o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a amnewidir gan baragraff 81(a) o Atodlen 21 yn effeithiol fel pe amnewidiwyd y canlynol ar ei chyfer—
b
required as a consequence of their employment to be so registered by virtue of section 218(1)(aa)8) of the Education Reform Act 1988.
Addasiad o ddarpariaeth yn ymwneud â gofal plant8
Bydd paragraff (c) o adran 113(3E) o Ddeddf yr Heddlu 19979 yn effeithiol fel pe bai'r geiriau o “for child minding” hyd at “that Act” wedi'u hamnewid gan y geiriau “for child minding or providing day care under section 71 of the Children Act 1989”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199810
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)