- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliadau 4(1), 9(2), 10(1) a (4), 12(6) a (7)
| Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant(1) | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
|---|---|---|---|---|
1. Terfyn gwerth fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl | 1 awr | 350 μg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 24 gwaith y flwyddyn galendr | 60 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005 | 1 Ionawr 2005 |
2. Gwerth terfyn dyddiol ar gyfer diogelu iechyd pobl | 24 awr | 125 μg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith y flwyddyn galendr | Dim un | 1 Ionawr 2005 |
3. Gwerth terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau | Y flwyddyn galendr a'r gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth) | 20 μg/m3 | Dim un |
1.2 500 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn mannau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.
1.3 Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf :
dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys;
unrhyw ragolygon ar gyfer:
newidiadau mewn crynodiad (gwella, sefydlogi, neu ddirywio), ynghyd â'r rhesymau dros y newidiadau hynny,
yr ardal ddaearyddol o dan sylw,
parhad y digwyddiad;
y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad;
rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.
| Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
|---|---|---|---|---|
1. Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl | 1 awr | 200μg/m3 o NO2 y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn galendr | 70 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2010 | 1 Ionawr 2010 |
2. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Y flwyddyn galendr | 40μg/m3 o NO2 | 14 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2010 | 1 Ionawr 2010 |
3. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant | Y flwyddyn galendr | 30 μg/m3 o NOx | Dim un |
2.2 400 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.
2.3 Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf:
dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys;
— unrhyw ragolygon ar gyfer:
newidiadau mewn crynodiad (gwella, sefydlogi, neu ddirywio), ynghyd â'r rhesymau dros y newidiadau hynny,
yr ardal ddaearyddol o dan sylw,
parhad y digwyddiad;
y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad;
y rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.
| Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
|---|---|---|---|---|
1. Gwerth terfyn 24-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl | 24 awr | Rhaid peidio â mynd yn uwch na 50μg/m3 o PM10 fwy na 35 gwaith y flwyddyn galendr | 10 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. | 1 Ionawr 2005 |
2. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Blwyddyn galendr | 40 μg/m3 o PM10 | 3.2 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. | 1 Ionawr 2005 |
| Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
|---|---|---|---|---|
| Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Blwyddyn galendr | 0.5 μg/m3 | 0.2 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. | 1 Ionawr 2005 |
| Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
|---|---|---|---|---|
| Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Blwyddyn galendr | 5 μg/m3 | 5 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr 2006 a phob 12 mis wedyn gan 1 μg/m3 nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2010. | 1 Ionawr 2010 |
| Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
|---|---|---|---|---|
| Detholir crynodiad mwyafswm cymedr o 8-awr yn ddyddiol drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8-awr, wedi'u cyfrifo o ddata fesul awr a'u diweddaru bob awr. Priodolir pob 8-awr gyfartalog a gyfrifir felly i'r diwrnod pan ddaw i ben, h.y. y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod blaenorol hyd at 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod fydd y cyfnod o 16:00 hyd at 24:00 ar y diwrnod hwnnw. | ||||
| Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Mwyafswm cymedr o 8-awr yn ddyddiol | 10 mg/m3 | 4 mg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng pob 12 mis wedyn gan 2 mg/m3 nes cyrraedd 0 mg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. | 1 Ionawr 2005 |
Mae'r ffigurau ar gyfer Goddefiannau ar gyfer pob un o'r llygrynnau perthnasol a roddir yn yr Atodlen hon wedi'u cyfrifo o'r rhai a roddir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 99/30/EC ac Atodiadau I a II o Gyfarwyddeb 2000/69/EC.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: