- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
6.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn ôl a yw'n ofynnol asesu ansawdd yr aer amgylchynol yn y parth hwnnw ar gyfer y llygryn hwnnw—
(a)drwy fesuriadau;
(b)drwy gyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu; neu
(c)drwy ddefnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig.
(2) Rhaid i fesuriadau gael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth—
(a)os yw'r parth yn grynhoad;
(b)os yw lefelau'r llygryn yn y parth rhwng y gwerthoedd terfyn perthnasol a'r trothwyon asesu uchaf; neu
(c) os yw lefelau'r llygryn hwnnw yn y parth yn uwch na gwerthoedd terfyn y llygryn hwnnw.
(3) Gellir defnyddio cyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn unrhyw barth mewn perthynas â llygryn perthnasol os yw lefelau'r llygryn hwnnw dros gyfnod cynrychioliadol yn is na'r trothwyon asesu uchaf perthnasol.
(4) Os yw lefelau llygryn perthnasol mewn unrhyw barth yn is na'r trothwyon asesu isaf perthnasol, caniateir defnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig i asesu lefelau'r llygryn hwnnw oni bai—
(a)mai crynhoad yw'r parth; a
(b)mai sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid yw'r llygryn sy'n cael ei asesu.
(5) Rhaid penderfynu ar y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer y llygrynnau perthnasol yn unol ag Atodlen 2.
(6) Os oes parth wedi'i ddosbarthu mewn perthynas â llygryn o dan baragraff (1)(a), gellir defnyddio technegau modelu i gydategu'r mesuriadau a gymerir er mwyn rhoi lefel ddigonol o wybodaeth am ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth.
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol hefyd ddynodi parth a ddosbarthir o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â llygryn perthnasol fel a ganlyn:
(a)os sylffwr deuocsid yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth o dan y paragraff hwn(1) os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn yn y parth oherwydd crynodiadau sylffwr deuocsid yn yr aer amgylchynol oherwydd ffynonellau naturiol;
(b)os PM10 yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth—
(i)o dan yr is-baragraff hwn(2) os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd digwyddiadau naturiol yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol;
(ii)o dan yr is-baragraff hwn(3) os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd ail?ddal gronynnau ar ôl i ffyrdd gael eu trin â thywod yn y gaeaf yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol.
Gweler rheoliad 10(8).
Gweler rheoliad 10(10).
Gweler rheoliad 10(11).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: