xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3183 (Cy.299)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

17 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) ac is-adran (2) o adran 2 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2), a chan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion yr is-adran honno gan Erthygl 2 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000(3) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, ac amcanion, ansawdd aer, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diffiniadau

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Cyfrifoldeb dros weithredu Cyfarwyddeb Fframwaith Aer

3.  At ddibenion Erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol(4) y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru dros y canlynol—

(a)gweithredu'r Gyfarwyddeb honno;

(b)asesu ansawdd aer amgylchynol;

(c)cymeradwyo dyfeisiadau mesur (dulliau, cyfarpar, rhwydweithiau a labordai);

(ch)sicrhau cywirdeb mesur drwy ddyfeisiadau mesur a gwirio bod y dyfeisiadau hynny yn parhau'n gywir, yn benodol drwy reoli ansawdd yn fewnol a gyflawnir yn unol â safonau sicrwydd ansawdd cymwysadwy, gan gynnwys safonau Ewropeaidd;

(d)dadansoddi dulliau asesu; a

(dd)cydlynu rhaglenni sicrwydd ansawdd ledled y Gymuned Ewropeaidd yng Nghymru, ac eithrio i'r graddau y mae'r cydlynu hwnnw yn golygu cyfathrebu â'r Gymuned Ewropeaidd.

Dyletswydd i sicrhau bod ansawdd aer amgylchynol yn cael ei gwella

4.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol i sicrhau ym mhob parth ledled Cymru nad yw crynodiadau'r llygrynnau perthnasol yn yr aer amgylchynol, o'u hasesu yn unol â rheoliadau 5 i 8, yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a nodir yn Atodlen 1—

(a)os pennir dyddiad yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r gwerth terfyn ar gyfer y llygryn hwnnw, o'r dyddiad hwnnw ymlaen;

(b)mewn unrhyw achos arall, o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

(2Rhaid i'r mesurau a gymerir—

(a)cymryd i ystyriaeth ymagwedd integredig at ddiogelu aer, dŵr a phridd;

(b)peidio â thorri deddfwriaeth y Gymuned ar ddiogelu diogelwch ac iechyd gweithwyr wrth eu gwaith; ac

(c)peidio â dwyn unrhyw effeithiau negyddol arwyddocaol ar yr amgylchedd yn yr Aelod-wladwriaethau eraill.

Asesu ansawdd aer amgylchynol

5.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn unol â rheoliadau 6 i 8.

Dosbarthu parthau

6.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn ôl a yw'n ofynnol asesu ansawdd yr aer amgylchynol yn y parth hwnnw ar gyfer y llygryn hwnnw—

(a)drwy fesuriadau;

(b)drwy gyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu; neu

(c)drwy ddefnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig.

(2Rhaid i fesuriadau gael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth—

(a)os yw'r parth yn grynhoad;

(b)os yw lefelau'r llygryn yn y parth rhwng y gwerthoedd terfyn perthnasol a'r trothwyon asesu uchaf; neu

(c) os yw lefelau'r llygryn hwnnw yn y parth yn uwch na gwerthoedd terfyn y llygryn hwnnw.

(3Gellir defnyddio cyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn unrhyw barth mewn perthynas â llygryn perthnasol os yw lefelau'r llygryn hwnnw dros gyfnod cynrychioliadol yn is na'r trothwyon asesu uchaf perthnasol.

(4Os yw lefelau llygryn perthnasol mewn unrhyw barth yn is na'r trothwyon asesu isaf perthnasol, caniateir defnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig i asesu lefelau'r llygryn hwnnw oni bai—

(a)mai crynhoad yw'r parth; a

(b)mai sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid yw'r llygryn sy'n cael ei asesu.

(5Rhaid penderfynu ar y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer y llygrynnau perthnasol yn unol ag Atodlen 2.

(6Os oes parth wedi'i ddosbarthu mewn perthynas â llygryn o dan baragraff (1)(a), gellir defnyddio technegau modelu i gydategu'r mesuriadau a gymerir er mwyn rhoi lefel ddigonol o wybodaeth am ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth.

(7Caiff y Cynulliad Cenedlaethol hefyd ddynodi parth a ddosbarthir o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â llygryn perthnasol fel a ganlyn:

(a)os sylffwr deuocsid yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth o dan y paragraff hwn(5) os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn yn y parth oherwydd crynodiadau sylffwr deuocsid yn yr aer amgylchynol oherwydd ffynonellau naturiol;

(b)os PM10 yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth—

(i)o dan yr is-baragraff hwn(6) os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd digwyddiadau naturiol yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol;

(ii)o dan yr is-baragraff hwn(7) os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd ail?ddal gronynnau ar ôl i ffyrdd gael eu trin â thywod yn y gaeaf yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol.

Adolygu dosbarthiadau

7.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad pob parth o dan reoliad 6 o leiaf unwaith bob pum mlynedd yn unol â Rhan II o Atodlen 2.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad unrhyw barth o dan reoliad 6 hefyd os ceir newidiadau arwyddocaol mewn gweithgarwch sy'n effeithio ar grynodiadau amgylchynol unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol yn y parth.

(3Yn y rheoliad hwn, mae “dosbarthiad” yn cynnwys unrhyw ddynodiad o dan reoliad 6(7).

Dull asesu ansawdd aer amgylchynol

8.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth drwy ddilyn y dull penodedig ar gyfer pob llygryn perthnasol yn unol â'i ddosbarthiad cyfredol.

(2Os oes parth wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(a) neu (b) mewn perthynas â llygryn perthnasol—

(a)rhaid i fesuriadau'r llygryn hwnnw gael eu cymryd ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap; a

(b)rhaid i nifer y mesuriadau fod yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod lefelau'r llygryn hwnnw yn gywir.

(3Bydd Atodlen 3 yn effeithiol er mwyn penderfynu ar leoliad y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol.

(4Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(a), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod isafswm nifer y pwyntiau samplu sefydlog y penderfynwyd arnynt yn unol ag Atodlen 4 yn cael ei ddefnyddio i samplu crynodiadau'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw.

(5Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod nifer y pwyntiau samplu sefydlog a ddefnyddir i samplu'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw, a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad, yn ddigon i ganfod crynodiadau'r llygryn hwnnw yn unol â Rhan I o Atodlen 3 a Rhan I o Atodlen 5.

(6Nodir dulliau cyfeirio ar gyfer—

(a)dadansoddi sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocisdau nitrogen;

(b)samplu a dadansoddi plwm;

(c)samplu a mesur PM10;

(ch)samplu a dadansoddi bensen; a

(d)dadansoddi carbon monocsid

yn Atodlen 6, a rhaid i'r dulliau hyn gael eu defnyddio oni bai bod dulliau eraill yn cael eu defnyddio y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod modd dangos eu bod yn rhoi canlyniadau cyfwerth.

(7Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod gorsafoedd mesur i roi data cynrychioliadol ar grynodiadau PM2.5 wedi'u gosod ac yn cael eu gweithredu, gan ddefnyddio unrhyw ddull ar gyfer samplu a mesur PM2.5 y mae'n credu ei fod yn addas, a bod pwyntiau samplu PM2.5 yn cael eu cyd-leoli â phwyntiau samplu PM10 lle bynnag y bo modd.

(8Ar gyfer parthau sydd wedi'u dosbarthu o dan reoliad 6(1)(b) neu (c), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth a nodir yn Rhan II o Atodlen 5 yn cael ei chrynhoi.

(9Ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, ocsidau nitrogen, bensen a charbon monocsid rhaid i'r cyfaint gael eu safoni ar dymheredd o 293°K a mesuriadau phwysedd o 101.3 kPa.

Cynlluniau gweithredu

9.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi'r mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os ceir unrhyw risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid, er mwyn lleihau'r risg hwnnw ac i gyfyngu ar barhad digwyddiad o'r fath.

(2Y trothwy sydd wedi'i nodi ym mharagraff 1.2 o Ran I o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid, a'r trothwy a nodir ym mharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid.

Y camau sydd i'w cymryd os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn

10.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch—

(a)na'r gwerth terfyn, mewn achos lle nad oes goddefiant yn cael ei ddangos yn Atodlen 1 mewn perthynas â gwerth terfyn;

(b)na'r gwerth terfyn plws y goddefiant a ddangosir yn Atodlen 1, mewn unrhyw achos arall.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol rhwng y gwerth terfyn a'r gwerth terfyn plws unrhyw oddefiant.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (10) a (11), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio, ar gyfer pob parth a restrir o dan baragraff (1), gynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer y llygrynnau o dan sylw a rhaid iddo sicrhau y caiff y cynllun neu'r rhaglen eu gweithredu.

(4Lle y pennir dyddiad yn Atodlen 1 ar gyfer cyrraedd y gwerth terfyn, mae'r cynllun neu'r rhaglen i fod i gyrraedd y gwerth terfyn hwnnw erbyn y dyddiad hwnnw.

(5Lle nad oes dyddiad wedi'i bennu yn Atodlen 1 ar gyfer cyrraedd y gwerth terfyn, mae'r cynllun neu'r rhaglen i fod i gyrraedd y gwerth terfyn o'r dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym(8).

(6Rhaid i'r cynllun neu'r rhaglen gynnwys o leiaf yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 7.

(7Os yw lefel mwy nag un llygryn yn uwch na'r gwerthoedd terfyn mewn unrhyw barth, rhaid paratoi cynllun integredig sy'n ymdrin â'r holl lygrynnau o dan sylw.

(8Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(a) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni o dan y rheoliad hwn ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd allyriannau sydd wedi'u creu gan bobl.

(9Rhaid i gynlluniau neu raglenni ar gyfer PM10 a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn anelu hefyd at leihau crynodiadau PM2.5.

(10Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(b)(i) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd achosion heblaw digwyddiadau naturiol.

(11Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(b)(ii) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd lefelau PM10 heblaw'r rhai sy'n cael eu hachosi gan drin ffyrdd â thywod yn y gaeaf.

Parthau lle mae'r lefelau yn is na'r gwerth terfyn

11.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol yn is na'r gwerthoedd terfyn.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod lefelau'r llygrynnau perthnasol yn y parthau hyn yn cael eu cadw yn is na'r gwerthoedd terfyn a rhaid iddo ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gyson â datblygu cynaliadwy.

Gwybodaeth gyhoeddus

12.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r drefn.

(2Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid a mater gronynnol gael ei diweddaru—

(a)yn achos gwerthoedd fesul-awr ar gyfer sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid, bob awr os yw hynny'n ymarferol;

(b)ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.

(3Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol plwm cael ei diweddaru bob tri mis.

(4Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol bensen, fel gwerth cyfartalog dros y 12 mis diwethaf, gael ei diweddaru—

(a)yn fisol os yw hynny'n ymarferol;

(b)ym mhob achos arall, bob tri mis o leiaf.

(5Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol carbon monocsid, fel gwerth cyfartalog cyfredol dros wyth awr, gael ei diweddaru—

(a)bob awr os yw hynny'n ymarferol;

(b)ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.

(6Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)nodyn i ddweud i ba raddau yr aed yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a'r trothwyon rhybuddio ar gyfer llygrynnau penodol dros y cyfnodau cyfartaleddu a bennir yn Atodlen 1; a

(b)asesiad byr o'r enghreifftiau hynny lle'r aed yn uwch na'r gwerthoedd a'r trothwyon a'r effeithiau a gawsant ar iechyd.

(7Pan eir yn uwch na throthwy rhybuddio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i roi gwybod i'r cyhoedd, a rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael gynnwys o leiaf yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1.

(8Rhaid i'r wybodaeth y mae'n rhaid trefnu ei bod ar gael i'r cyhoedd o dan y rheoliad hwn gynnwys y map o'r parthau y cyfeirir ato yn rheoliad 2, a chynlluniau gweithredu, cynlluniau a rhaglenni a baratoir o dan reoliadau 9 a 10 yn ôl eu trefn.

(9At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyhoedd yn cynnwys cyrff gofal iechyd a mudiadau sydd â diddordeb yn ansawdd yr aer amgylchynol a mudiadau sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd, ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhain.

(10Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan y rheoliad hwn fod yn glir, cynhwysfawr a hawdd ei chael.

Diddymu Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansowdd (Aer) (Cymru) 2001 a Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 a darpariaethau trosiannol

13.—(1Mae Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru)2001(9) drwy hyn yn cael eu diddymu.

(2Mae Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer 1989(10), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn cael eu diddymu yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

(a)diddymir rheoliad 2(1) (gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr a gronynnau mewn daliant) a rheoliad 4(1) (gwerth terfyn ar gyfer plwm mewn aer) gydag effaith o 1 Ionawr 2005 ymlaen;

(b)diddymir rheoliad 6 (gwerth terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr atmosffer) gydag effaith o 1 Ionawr 2010 ymlaen.

(3Tan 1 Ionawr 2005, os caiff y dulliau a ragnodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer asesu mater gronynnol mewn daliant eu defnyddio er mwyn dangos cydymffurfedd ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 80/779/EEC dyddiedig 15 Gorffennaf 1980 ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a gwerthoedd bras ar gyfer cyfanswm y gronynnau mewn daliant(11), rhaid i'r data a gesglir fel hyn gael ei luosi â ffactor o 1.2.

(4Lle—

(a)yr oedd yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gam, neu yr oedd wedi'i awdurdodi i gymryd cam, drwy unrhyw ddarpariaeth o Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001;

(b)yr oedd cam o'r fath wedi'i gymryd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn i'r Rheoliadau hyn ddirymu'r Rheoliadau hynny; ac

(c)y mae'r ddarpariaeth dan sylw yn cael ei hailddeddfu gan y Rheoliadau hyn,

mae'r cam i'w drin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel pe bai wedi'i gymryd o dan y Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad.

17 Rhagfyr 2002

Rheoliadau 4(1), 9(2), 10(1) a (4), 12(6) a (7)

ATODLEN 1GWERTHOEDD TERFYN, GODDEFIANNAU, ETC.

RHAN ISYLFFWR DEUOCSID (SO2)

Gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid

1.1  

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiant(13)Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn

1.  Terfyn gwerth fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl

1 awr350 μg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 24 gwaith y flwyddyn galendr60 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 20051 Ionawr 2005

2.  Gwerth terfyn dyddiol ar gyfer diogelu iechyd pobl

24 awr125 μg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith y flwyddyn galendrDim un1 Ionawr 2005

3.  Gwerth terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau

Y flwyddyn galendr a'r gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth)20 μg/m3Dim un

Trothwy rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid

1.2  500 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn mannau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.

Isafswm y manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid

1.3  Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf :

RHAN IINITROGEN DEUOCSID (NO2) AC OCSIDAU NITROGEN (NOx)

Gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen

2.1  

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiantErbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn

1.  Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl

1 awr200μg/m3 o NO2 y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn galendr70 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 20101 Ionawr 2010

2.  Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl

Y flwyddyn galendr40μg/m3 o NO214 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 20101 Ionawr 2010

3.  Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant

Y flwyddyn galendr30 μg/m3 o NOxDim un

Trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid

2.2  400 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.

Isafswm y manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid

2.3  Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf:

RHAN IIIMATER GRONYNNOL (PM10)

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiantErbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn

1.  Gwerth terfyn 24-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl

24 awrRhaid peidio â mynd yn uwch na 50μg/m3 o PM10 fwy na 35 gwaith y flwyddyn galendr10 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005.1 Ionawr 2005

2.  Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl

Blwyddyn galendr40 μg/m3 o PM103.2 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005.1 Ionawr 2005

RHAN IVPLWM (Pb)

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiantErbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd poblBlwyddyn galendr0.5 μg/m30.2 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005.1 Ionawr 2005

RHAN VBENSEN (C6H6)

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiantErbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd poblBlwyddyn galendr5 μg/m35 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr 2006 a phob 12 mis wedyn gan 1 μg/m3 nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2010.1 Ionawr 2010

RHAN VCARBON MONOCSID (CO)

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiantErbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
Detholir crynodiad mwyafswm cymedr o 8-awr yn ddyddiol drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8-awr, wedi'u cyfrifo o ddata fesul awr a'u diweddaru bob awr. Priodolir pob 8-awr gyfartalog a gyfrifir felly i'r diwrnod pan ddaw i ben, h.y. y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod blaenorol hyd at 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod fydd y cyfnod o 16:00 hyd at 24:00 ar y diwrnod hwnnw.
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd poblMwyafswm cymedr o 8-awr yn ddyddiol10 mg/m34 mg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng pob 12 mis wedyn gan 2 mg/m3 nes cyrraedd 0 mg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005.1 Ionawr 2005

Rheoliadau 6(5) a 7(1)

ATODLEN 2TROTHWYON ASESU UCHAF AC ISAF A GORMODEDDAU

RHAN ITrothwyon asesu uchaf ac isaf

Bydd y trothwyon asesu uchaf ac isaf canlynol yn gymwys:

SYLFFWR DEUOCSID (SO2)

Diogelu iechydDiogelu ecosystemau
Trothwy asesu uchaf60 % o'r gwerth terfyn 24-awr (75 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)60 % o werth terfyn y gaeaf (12 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf40 % o'r gwerth terfyn 24-awr (50 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)40 % o werth terfyn y gaeaf (8 μg/m3 )

NITROGEN DEUOCSID (NO2) AC OCSIDAU NITROGEN (NOx)

Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl (NO2)Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl(NO2)Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant(NOx)
Trothwy asesu uchaf70 % o'r gwerth terfyn (140 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)80 % o'r gwerth terfyn (32 μg/m3 )80 % o'r gwerth terfyn (24 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf50 % o'r gwerth terfyn (100 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)65 % o'r gwerth terfyn (26 μg/m3 )65 % o'r gwerth terfyn (19.5 μg/m3 )

MATER GRONYNNOL (PM10)

(c)

Cyfartaledd 24-awrCyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf60 % o'r gwerth terfyn (30 μg/m3, y mae'n rhaid peidio mynd yn uwch nag ef fwy na saith gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)70 % o'r gwerth terfyn(14 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf40 % o'r gwerth terfyn (20 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio mynd yn uwch nag ef fwy na saith gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)50 % o'r gwerth terfyn (10 μg/m3 )

PLWM (Pb)

Cyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf70 % o'r gwerth terfyn (0.35 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf50 % o'r gwerth terfyn (0.25 μg/m3 )

BENSEN (C6H6)

Cyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf70 % o'r gwerth terfyn (3.5 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf40 % o'r gwerth terfyn (2 μg/m3 )

CARBON MONOCSID (CO)

Cyfartaledd wyth-awr
Trothwy asesu uchaf70 % o'r gwerth terfyn (7 mg/m3 )
Trothwy asesu isaf50 % o'r gwerth terfyn (5 mg/m3 )

RHAN IICanfod gormodeddau sy'n uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf

Rhaid crynhoi gormodeddau sy'n uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar sail crynodiadau yn ystod y pum mlynedd blaenorol os oes data digonol ar gael. Bernir yr aed yn uwch na'r trothwy asesu os bu gormodedd yn ystod o leiaf tair blwyddyn wahanol allan o'r pum mlynedd flaenorol.

Os oes llai na phum mlynedd o ddata ar gael, gall ymgyrchoedd mesur byr eu parhad yn ystod y cyfnod hwnnw yn y flwyddyn ac yn y mannau sy'n debyg o fod yn nodweddiadol o'r lefelau llygredd uchaf gael eu cyfuno â chanlyniadau a geir o'r wybodaeth o restrau allyriannau a gwaith modelu er mwyn canfod gormodeddau sy'n uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf.

Rheoliad 8(3) ac 8(5)

ATODLEN 3LLEOLI PWYNTIAU SAMPLU AR GYFER MESUR LLYGRYNNAU PERTHNASOL YN YR AER AMGYLCHYNOL

Caiff yr ystyriaethau canlynol eu cymhwyso at fesuriadau sefydlog.

RHAN ILleoli ar y raddfa macro

Diogelu iechyd pobl

(a)Dylai pwyntiau samplu a gyferir at ddiogelu iechyd pobl gael eu lleoli:

(i)i ddarparu data am yr ardaloedd mewn parthau a chrynoadau lle ceir y crynodiadau uchaf y mae'r boblogaeth yn debyg o gael ei datguddio iddynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol am gyfnod sy'n arwyddocaol mewn perthynas â chyfnod cyfartaleddu y gwerth(oedd) terfyn;

(ii)i ddarparu data am lefelau mewn ardaloedd eraill yn y parthau a'r crynoadau sy'n gynrychioliadol o ddatguddiad y boblogaeth gyffredinol.

Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli i osgoi mesur micro-amgylcheddau bach iawn yn y cyffiniau. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol heb fod yn llai na 200 m2 ar safleoedd sy'n ymwneud â thraffig ac o sawl cilometr sgwâr ar safleoedd â chefndir trefol.

Diogelu ecosystemau a llystyfiant

(b)Dylai pwyntiau samplu sydd wedi'u targedu ar ddiogelu ecosystemau neu lystyfiant gael eu lleoli fwy nag 20 km o grynoadau neu fwy na 5 km o fannau adeiledig eraill, sefydliadau diwydiannol neu draffyrdd. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol o 1000 km2 o leiaf. Gall pwynt samplu gael ei leoli yn llai pell i ffwrdd neu i fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardal lai estynedig, gan gymryd yr amodau daearyddol i ystyriaeth.

Dylid cymryd i ystyriaeth yr angen i asesu ansawdd yr aer ar ynysoedd.

RHAN IILleoli ar raddfa micro

Dylid bodloni'r canllawiau canlynol cyn belled ag y bo'n ymarferol:

Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd:

RHAN IIIDogfennu ac adolygu'r gwaith o ddewis safleoedd

Dylai'r gweithdrefnau ar gyfer dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r ardal amgylchynol a map manwl. Dylid adolygu'r safleoedd yn rheolaidd, gan ailadrodd y gwaith dogfennu, i sicrhau bod y meini prawf dewis yn aros yn ddilys dros amser.

Rheoliad 8(4)

ATODLEN 4MEINI PRAWF AR GYFER CANFOD ISAFSYMIAU'R PWYNTIAU SAMPLU AR GYFER MESURIADAU SEFYDLOG CRYNODIADAU'R LLYGRYNNAU PERTHNASOL YN YR AER AMGYLCHYNOL

RHAN IIsafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu a ydys yn cydymffurfio â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl a throthwyon rhybuddio mewn parthau a chrynoadau os mesuriadau sefydlog yw'r unig ffynhonnell wybodaeth

Ffynonellau gwasgarog

Poblogaeth y crynhoad neu'r parth (miloedd)Os yw'r crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchafOs yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isafAr gyfer SO2 ac NO2 mewn crynoadau lle mae'r crynodiadau uchaf islaw'r trothwyon asesu isaf
0—25011ddim yn gymwys
250—499211
500—749211
750—999311
1 000—1 499421
1 500—1 999521
2 000—2 749632
2 750—3 749732
3 750—4 749842
4 750— 5 999942
> 6 0001053
Ar gyfer NO2 a mater gronynnol: i gynnwys o leiaf un orsaf â chefndir trefol ac un orsaf sy'n cyfeirio at draffig — bydd y gofyniad hwn yn gymwys i bensen a charbon monocsid ar yr amod nad yw'n cynyddu nifer y pwyntiau samplu.

Ffynonellau pwynt

(b)I asesu llygredd yng nghyffiniau ffynonellau pwynt, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth ddwyseddau allyriannau, patrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl y boblogaeth.

RHAN IIIsafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu a ydys yn cydymffurfio â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau heblaw crynoadau

Os yw'r crynodiadau uchaf yn uwch na'r trothwy asesu uchafOs yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isaf
Mewn parthau ar ynysoedd, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth batrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl yr ecosystemau neu'r llystyfiant.
1 orsaf i bob 20,000 km21 orsaf i bob 40,000 km2

Rheoliad 8(5) a (8)

ATODLEN 5AMCANION ANSAWDD DATA A LLUNIO CANLYNIADAU ASESIADAU ANSAWDD AER

RHAN 1Amcanion ansawdd-data

Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer y cywirdeb y mae ei angen ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.

Sylffwr deuocsid (SO2), nitrogen deuocsid (NO2) ac ocsidau nitrogen (NOx)Mater gronynnol (PM10) a phlwm (Pb)

Diffinnir cywirdeb y gwaith mesur fel y mae wedi'i nodi yn y “Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements” (ISO 1993)(15) neu ISO 5725-1 “Accuracy (trueness and precision) of measurement methods and results” (ISO 1994)(16). Mae'r canrannau yn y tabl yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu, dros y cyfnod a ystyrir, gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 95% (bias + dwy waith y gwyriad safonol). Dylai'r cywirdeb ar gyfer mesuriadau di-dor gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol.

Mae'r cywirdeb ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth.

Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn.

Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer mater gronynnol a phlwm drwy ddulliau y dangoswyd bod eu cywirdeb o fewn y cyfwng hyder 95% mewn perthynas â monitro di-dor wedi bod o fewn 10%. Rhaid i samplu ar hap gael ei gynnal yn gyson dros y flwyddyn.

Mesur di-dor
Cywirdeb15 %25 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data90 %90 %
Mesur dangosol
Cywirdeb25 %50 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data90 %90 %
Isafswm amser14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.)14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.)
Modelu
Cywirdeb:
Cyfartaleddau fesul-awr50 %—60 %
Cyfartaleddau dyddiol50 %
Cyfartaleddau blynyddol30 %50 %
Amcangyfrif gwrthrychol
Cywirdeb:75 %100 %

Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer yr ansicrwydd a ganiateir ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.

Bensen (C6H6)Carbon monocsid (CO)

Caiff ansicrwydd (mewn cyfwng hyder o 95%) y dulliau asesu eu gwerthuso yn unol â'r “Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements” (ISO 1993)(17) neu fethodoleg ISO 5725:1994(18). Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl uchod yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 95%. Dylai'r ansicrwydd ar gyfer y mesuriadau sefydlog gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol.

Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir, gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth.

Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn.

Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer bensen os yw'r ansicrwydd, gan gynnwys yr ansicrwydd oherwydd samplu ar hap, yn cyrraedd yr amcan ansawdd o 25%. Rhaid i samplu ar hap gael ei gynnal yn gyson dros y flwyddyn.

Mesuriadau sefydlog
Ansicrwydd25 %15 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data90 %90 %
Isafswm amser35% cefndir trefol a safleoedd traffig (a ddosbarthwyd dros y flwyddyn i gynrychioli amgylchia dau amrywiol mewn tywydd a thraffig) 90% safleodd diwydiannol
Mesuriadau dangosol
Ansicrwydd30 %25 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data90 %90 %
Isafswm amser14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.)14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.)
Modelu
Ansicrwydd:
Cyfartaleddau wyth-awr50%
Cyfartaleddau blynyddol50 %
Amcangyfrif gwrthrychol
Ansicrwydd:100 %75 %

RHAN IICanlyniadau asesiadau ansawdd aer

Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau neu grynoadau y defnyddir ffynonellau heblaw mesuriadau ynddynt i gydategu'r wybodaeth o fesuriadau neu fel yr unig ddull o asesu ansawdd yr aer:

Os oes modd rhaid llunio mapiau sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth a chrynhoad.

Rheoliad 8(6)

ATODLEN 6DULLIAU CYFEIRIO AR GYFER ASESU CRYNODIADAU O LYGRYNNAU PERTHNASOL

RHAN IDull cyfeirio ar gyfer dadansoddi sylffwr deuocsid (SO2)

ISO/FDIS 10498 (Safon ar ffurf drafft) Ambient air — determination of sulphur dioxide — ultraviolet fluorescence method(19).

RHAN IIDull cyfeirio ar gyfer dadansoddi nitrogen deuocsid (NO2) ac ocsidau nitrogen (NOx)

ISO 7996: 1985 Ambient air — determination of the mass concentrations of nitrogen oxides — chemiluminescence method.(20)

RHAN IIIADull cyfeirio ar gyfer samplu plwm (Pb)

Y dull cyfeirio ar gyfer samplu plwm fydd y dull a ddisgrifir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/884/EEC(21) nes yr amser pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, pryd y bydd y dull cyfeirio yr un fath ag ar gyfer PM10 sydd wedi'i nodi yn Rhan IV o'r Atodlen hon.

RHAN IIIBDull cyfeirio ar gyfer dadansoddi plwm (Pb)

ISO 9855: 1993 Ambient air — Determination of the particulate lead content of aerosols collected in filters. Atomic absorption spectroscopy method(22).

RHAN IVDull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10

Y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10 fydd y dull a ddisgrifir yn EN 12341 “Air Quality — Field Test Procedure to Demonstrate Reference Equivalence of Sampling Methods for the PM10 fraction of particulate matter”(23). Mae'r egwyddor fesur wedi'i seilio ar gasglu'r gyfran PM10 o fater gronynnol amgylchynol ar hidlwr a darganfod y màs grafimetrig.

RHAN VDull cyfeirio ar gyfer samplu a dadansoddi bensen (C6H6)

Y dull cyfeirio ar gyfer samplu bensen fydd samplu pwmpio ar getrisen sorbent a ddilynir gan benderfyniad cromatograffig nwy.

RHAN VIDull cyfeirio ar gyfer dadansoddi carbon monocsid (CO)

Y dull cyfeirio ar gyfer mesur bensen fydd dull wedi'i seilio ar y dull sbectrometrig anwasgarol is-goch (NDIR).

Rheoliad 10(6)

ATODLEN 7GWYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y CYNLLUN NEU'R RHAGLEN AR GYFER GWELLA ANSAWDD AER

Lleoli llygredd gormodol

Gwybodaeth gyffredinol

Yr awdurdodau cyfrifol

3.  Enwau a chyfeiriadau'r personau sy'n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau gwella a'u rhoi ar waith.

Natur y llygredd a'i asesu

Tarddiad y llygredd

Dadansoddiad o'r sefyllfa

Manylion y mesurau neu'r projectau ar gyfer gwelliannau a oedd yn bodoli cyn 21 Tachwedd 1996

Manylion y mesurau neu'r projectau hynny a fabwysiadwyd gyda golwg ar leihau llygredd ar ôl 21 Tachwedd 1996

Manylion y mesurau neu'r projectau sydd wedi'u cynllunio neu sy'n cael eu hymchwilio at y tymor hir.

Rhestr o'r cyhoeddiadau, y dogfennau, y gwaith, etc. a ddefnyddiwyd i gydategu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn yr Atodlen hon.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ynghylch asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol, Cyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm mewn aer amgylchynd, a Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/69/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol.

Maent yn disodli Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2683) (Cy. 224), a oedd yn rhoi Cyfarwyddebau'r Cyngor 96/62/EC a 99/30/EC ar waith yn effeithiol o 19 Gorffennaf 2001 ymlaen.

Mae rheoliad 3 yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) fel yr awdurdod cymwys ar gyfer gweithredu Erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC.

Mae rheoliad 4 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd ym mhob parth yng Nghymru grynodiadau o sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol, plwm, bensen a charbon monocsid (“y llygrynnau perthnasol”) yn uwch na'r gwerthoedd terfyn. Nodir gwerthoedd terfyn pob llygryn, ac erbyn pa bryd y mae'n rhaid eu cyrraedd, yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr aer amgylchynol yn cael ei asesu ar gyfer pob parth.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol. Mae'n darparu, ynghyd ag Atodlen 2, ar gyfer pennu'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer pob llygryn perthnasol. Mae rheoliad 6 hefyd yn nodi'r gofynion ar gyfer mesur ansawdd aer, neu ei asesu fel arall, yn dibynnu ar lefelau'r llygredd mewn perthynas â'r trothwyon hyn. Mae hefyd yn darparu ar gyfer dynodi parthau nad yw'n ofynnol cael rhaglenni gweithredu ar eu cyfer mewn amgylchiadau penodol, er bod sylffwr deuocsid neu ronynnau yn y parthau hynny yn uwch na'r gwerthoedd terfyn.

Mae rheoliad 7 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu dosbarthiad y parthau bob pum mlynedd neu os ceir newidiadau arwyddocaol sy'n effeithio ar lefelau unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod dulliau penodedig yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer ar gyfer pob llygryn ym mhob parth. Mae Atodlen 3 yn nodi sut y mae'n rhaid pennu'r pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol. Mae Atodlen 4 yn nodi'r meini prawf ar gyfer isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn mewn parthau lle nad oes unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall, ac â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau penodol eraill. Yn Atodlen 5 gwneir darpariaeth ar gyfer amcanion ansawdd data ar gyfer cywirdeb angenrheidiol y dulliau asesu, ac ar gyfer llunio canlyniadau'r asesiadau ansawdd aer. Mae Atodlen 6 yn rhagnodi'r dulliau cyfeirio ar gyfer dadansoddi'r llygrynnau perthnasol, eu samplu neu eu mesur. Mae rheoliad 8(7) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod gorsafoedd mesur yn cyflenwi data ar grynodiadau mater gronynnol PM2.5.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os oes risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid. Nodir trothwyon rhybuddio sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid ym mharagraff 1.2 o Ran I a pharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1, yn y drefn honNo.

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestrau o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch na'r gwerth terfyn, neu rhwng y gwerth terfyn ac unrhyw oddefiant a ddangosir yn Atodlen 1. Ar gyfer parthau o'r fath, mae rheoliad 10 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i lunio cynllun neu raglen, y mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 7 (gan gynnwys lleoliad a tharddiad y llygredd, yr awdurdodau cyfrifol a'r mesurau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r llygredd).

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol restru parthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol o dan y gwerthoedd terfyn, a hynny er mwyn sicrhau bod lefelau'r llygrynnau hyn yn cael eu cadw o dan y gwerthoedd terfyn, ac er mwyn ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gydnaws â datblygu cynaliadwy.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y trefnir bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd, a hynny fel rhan o'r drefn. Mae'n rhagnodi amlder a chynnwys yr wybodaeth hon. Os eir yn uwch na'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid, rhaid darparu gwybodaeth bellach, a nodir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys manylion lle ac amser y digwyddiad, rhagolygon, a'r rhagofalon sydd i'w cymryd gan boblogaethau sensitif.

Mae rheoliad 13 yn diddymu Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001. Mae hefyd, ar gyfer Cymru, ac ar y dyddiadau a bennir, yn diddymu rhannau o Reoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989; cafodd rhannau eraill o'r rheoliadau hynny eu diddymu gan Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001. Yr oedd Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1995/3146, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 80/779/EEC ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a chanllawiau ar gyfer sylffwr deuocsid a gronynnau mewn daliant; Cyfarwyddeb y Cyngor 82/884/EEC ynghylch gwerth terfyn ar gyfer plwm yn yr aer; a Chyfarwyddeb y Cyngor 85/203/EEC ynghylch safonau ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid. Mae'r Cyfarwyddebau hyn wedi'u diddymu, gyda darpariaethau trosiannol hyd at 2005 a 2010, gan Gyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC.

Lle y cymerodd y Cynulliad Cenedlaethol gam o dan Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001, o dan ddarpariaeth o'r Rheoliadau hynny sydd wedi ei hailddeddfu gan y Rheoliadau hyn, mae i'w drin fel cam sydd wedi ei gymryd o dan y Rheoliadau hyn. Er enghraifft, mae'r dosbarthu parthau o ran llygrynnau perthnasol a wnaed o dan reoliad 5 o Reoliadau 2001 i'w drin fel pe bai wedi'i wneud o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau hyn. Mae'r ddyletswydd i adolygu'r dosbarthiad hwnnw bob 5 mlynedd felly yn gymwys drwy gyfeirio at ddyddiad y dosbarthu gwreiddiol.

Mae nifer o ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn rhoi pwerau i gyrff cyhoeddus sy'n berthnasol ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol, plwm, bensen a charbon monocsid yn yr aer amgylchynol. Dyma'r mwyaf nodedig ohonynt—

1.  Darpariaethau sy'n rhoi pŵer i'r awdurdodau lleol—

(a)ynghylch “local air quality management” o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25);

(b)ar gyfer rheoli allyriannau mwg o dan Ddeddf Aer Glân 1993 (p.11);

(c)ar gyfer cymryd materion ansawdd aer i ystyriaeth wrth wneud cynlluniau ar gyfer cynllunio defnyddio tir a thrafnidiaeth;

(ch)ar gyfer rheoli twf traffig ac ar gyfer rheoli traffig, o dan Ddeddf Lleihau Traffig Ffyrdd 1997 (p.54), Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) a Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40).

2.  Rheoli allyriannau diwydiannol—

(a)gan awdurdodau lleol drwy gyfrwng “local air pollution control” a chan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan “integrated pollution control” o dan Ran I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43);

(b)gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r awdurdodau lleol drwy ddefnyddio “integrated pollution prevention and control” o dan Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24) a Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973).

3.  Rheoli allyriannau trafnidiaeth

(4)

OJ Rhif L296, 21.11.96, t. 55.

(5)

Gweler rheoliad 10(8).

(6)

Gweler rheoliad 10(10).

(7)

Gweler rheoliad 10(11).

(8)

Gosododd rheoliad 9(3) o Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001 ddyletswydd gyfatebol i baratoi cynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn perthnasol, o ran y llygrynnau hyn, erbyn dyddiadau cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(10)

O.S. 1989/317, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/3146 ac a ddiddymwyd yn rhannol, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/2683 (Cy. 224).

(11)

OJ L229, 30.8.1980, t.30.

(12)

1998 p.38.

(13)

Mae'r ffigurau ar gyfer Goddefiannau ar gyfer pob un o'r llygrynnau perthnasol a roddir yn yr Atodlen hon wedi'u cyfrifo o'r rhai a roddir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 99/30/EC ac Atodiadau I a II o Gyfarwyddeb 2000/69/EC.

(14)

Mae'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer PM10 wedi'u seilio ar y gwerthoedd terfyn dangosol ar gyfer 1 Ionawr 2010, a gaiff eu hadolygu yng ngoleuni gwybodaeth bellach am yr effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd, ymarferoldeb technegol a phrofiad wrth gymhwyso gwerthoedd terfyn presennol “Cyfnod 1”. Gweler Erthygl 10 o Gyfarwyddeb 99/30/EC.

(15)

Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.

(16)

Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” fel yn nhroednodyn (a) uchod.

(17)

Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.

(18)

Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” fel yn nhroednodyn (a) uchod

(19)

Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.

(20)

Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” fel yn nhroednodyn (a) uchod.

(21)

OJ L378, 31.12.1982, p.15.

(22)

Gellir prynu copiau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.

(23)

Cyhoeddiad y “CEN”, Sefydliad Safonau Ewrop, cyfeirnod BSEN 12341, sydd ar gael oddi wrth Sefydliad Safonau Prydain “BSI” fel ar gyfer troednodyn (b) uchod.