2002 Rhif 3157 (Cy.293)
Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 18(1)(c), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, ac wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor3 ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso1
Ar gyfer y Rheoliadau hyn—
a
eu henw fydd Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002;
b
deuant i rym ar 9 Ionawr2003;
c
byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) yw—
mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a gyfansoddywd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 19844), awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honNo.
ystyr “Cafa-cafa” (“Kava-kava”) yw planhigyn, neu unrhyw ran ohono neu ddarn o blanhigyn, sy'n perthyn i'r rhywogaeth Piper methysticum;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
Gwaharddiad ar werthu etc. bwyd sydd wedi'i wneud o Cafa-cafa neu sy'n ei gynnwys3
Ni chaiff urnhyw berson—
a
werthu, neu
b
feddu ar gyfer gwerthu neu gynnig, amlygu neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, neu
c
fewnforio i Gymru o'r tu allan I'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig unrhyw fwyd sy'n cynnwys Cafa-cafa.
Cosb a gorfodi4
1
Bydd unrhyw berson sy'n tramgwyddo neu sy'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
3
Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 19905
1
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehnogli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
a
adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc);
b
adran 3 (rhagdybiaeth fod bwyd wedi'i fwriadu i gael ei fwyta gan bobl);
c
adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall);
ch
adran 21 (amddiffyiniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
d
adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes);
dd
adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
e
adran 33(1) (rhwystro etc swyddogion);
f
adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above” yn cael ei ystyried fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybywllir yn adran 33(1)(b) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e);
ff
adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e);
g
adran 35(2) a (3), i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (f);
ng
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
h
adran 58(1) (sy'n ymwneud â dyfroedd tiriogaethol).
2
Bydd adran 8(3) o'r Ddeddf (sy'n gwneud rhagdybiaethau yn achos sypiau etc. o fwyd) yn gymwys i fwyd y mae'n dramgwydd ei werthu o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i fwyd nad yw'n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
3
Bydd adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd dan amheuaeth) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai bwyd y mae'n dramgwydd ei werthu oddi tanynt yn fwyd a fethodd a chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)