Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3054 (Cy.289)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2002

Wedi'u gwneud

10 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cnedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(3).

Diwygio Rheoliadau 1992

2.  Ynglŷn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—

(a)ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.995” rhoddir “0.999”; a

(b)yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Rhagfyr 2002