2002 Rhif 3054 (Cy.289)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cnedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2:

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

2

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19923.

Diwygio Rheoliadau 19922

Ynglŷn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—

a

ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.995” rhoddir “0.999”; a

b

yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLEN

Rheoliad 2

SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Regulation 6

Billing authority area

Prescribed figure

Blaenau Gwent

53,200

Bridgend

99,100

Caerphilly

128,400

Carmarthenshire

234,600

Cardiff

135,400

Ceredigion

60,800

Conwy

86,800

Denbighshire

72,400

Flintshire

114,200

Gwynedd

91,400

Isle of Anglesey

52,000

Merthyr Tydfil

42,300

Monmouthshire

65,800

Neath Port Talbot

104,500

Newport

102,600

Pembrokeshire

86,800

Powys

98,700

Rhondda Cynon Taff

177,500

Swansea

175,400

Torfaen

69,000

Vale of Glamorgan (The)

90,400

Wrexham

99,700

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau ynglŷn â'r swm gros), ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).