- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Wedi'u gwneud
10 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cnedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(3).
2. Ynglŷn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
(a)ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.995” rhoddir “0.999”; a
(b)yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Rhagfyr 2002
Rheoliad 2
Regulation 6
Billing authority area | Prescribed figure |
---|---|
Blaenau Gwent | 53,200 |
Bridgend | 99,100 |
Caerphilly | 128,400 |
Carmarthenshire | 234,600 |
Cardiff | 135,400 |
Ceredigion | 60,800 |
Conwy | 86,800 |
Denbighshire | 72,400 |
Flintshire | 114,200 |
Gwynedd | 91,400 |
Isle of Anglesey | 52,000 |
Merthyr Tydfil | 42,300 |
Monmouthshire | 65,800 |
Neath Port Talbot | 104,500 |
Newport | 102,600 |
Pembrokeshire | 86,800 |
Powys | 98,700 |
Rhondda Cynon Taff | 177,500 |
Swansea | 175,400 |
Torfaen | 69,000 |
Vale of Glamorgan (The) | 90,400 |
Wrexham | 99,700” |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau ynglŷn â'r swm gros), ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672
O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439, 2000/3382 (Cy.220) a 2001/3910 (Cy.322).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: