2002 Rhif 2941 (Cy.282)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1) a (2), 19(1), (2), (4), (5) a (6), 20(1) a (2), 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001:—

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 20 Rhagfyr 2002.

2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 20022.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.

Diwygio'r prif Reoliadau2

Yn lle paragraff (1) o reoliad 12 o'r prif Reoliadau (aelodau cyd-bwyllgorau) rhowch—

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, ni fydd y gofynion am gydbwysedd gwleidyddol yn gymwys i benodiadau a wneir i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 11 uchod gan weithrediaeth, aelod o weithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002, a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, gwnaed darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau gweithrediaeth gan bwyllgorau ardal, gweithrediaeth awdurdod lleol arall neu ar y cyd ag un neu fwy o awdurdodau lleol eraill drwy gyd-bwyllgor.

Mae Rheoliad 12(1) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 yn darparu mai dim ond aelod o'r weithrediaeth y gellir ei benodi i gyd-bwyllgor sy'n arfer swyddogaethau gweithrediaeth.

Er mwyn sicrhau y caniateir i weithrediaethau awdurdod lleol benodi naill ai aelodau o'r awdurdod lleol nad ydynt yn aelodau gweithrediaeth neu swyddogion yr awdurdod i wasanaethu ar gyd-bwyllgorau ar eu rhan, diwygir rheoliad 12(1) yn unol â hynny.