Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2940 (Cy.281)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Diwygio) 2002

Wedi'i wneud

27 Tachwedd 2002

Yn dod i rym

31 Mawrth 2003

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 8(1) a (2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Diwygio) 2002 a daw i rym ar 31 Mawrth 2003.

Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998

2.  Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998(3) trwy ychwanegu ar ddiwedd erthygl 3 y geiriau canlynol—

subject to the following modifications of Schedule 1—

(a)omit paragraph 2(3);

(b)(i)in paragraph 4(1)(a), (3) and (4) for “the Secretary of State” substitute “they”;

(ii)for paragraph 4(1)(b) substitute—

shall, as regards any member in whose case they may so determine; pay or make provision for the payment of such sums by way of pension, allowances and gratuities to or in respect of that member as they may determine.; and

(iii)in paragraph 4(2) for the words “Secretary of State” in the first place they appear substitute “Council”, and for the words “the Secretary of State may direct the Council to make to that person a payment of such amount as the Secretary of State may determine” substitute “the Council may make to that person a payment of such amount as they may determine”;

(c)omit paragraph 5(4);

(d)in paragraph 6(1) and (3) omit the words “with the consent of the Secretary of State” in each place they appear; and

(e)omit paragraph 11(1)..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

Dafydd Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Tachwedd 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 er mwyn addasu cymhwyso Atodlen 1 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”) er mwyn gwaredu rheolaethau ar y Cyngor sy'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).

Caiff y rheolaethau canlynol eu gwaredu—

  • Y gofyniad i'r Cyngor gael caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol cyn y gall arfer pwerau penodedig;

  • Pŵer y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu cyflogau, lwfansau, pensiynau a thaliadau eraill aelodau'r Cyngor;

  • Y gofyniad i gael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â thâl, lwfansau, amodau a thelerau gweithwyr y Cyngor;

  • Y gofyniad i gael caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â phensiynau neu arian rhodd gweithwyr y Cyngor;

  • Yr hawl i gynrychiolwyr y Cynulliad Cenedlaethol neu gynrychiolydd corff dynodedig i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Cyngor.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).