xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Erthygl 3

ATODLENGOFYNION CYFFREDINOL YNGHYLCH DEFNYDDIO TIR AC ADEILADAU AT DDIBENION CRYNOADAU ANIFEILIAID

Cyfnod cyfyngedig 28 diwrnod cyn crynhoad anifeiliaid

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu i grynhoad anifeiliaid ddigwydd ar dir ac mewn adeiladau lle mae anifeiliaid wedi'u cadw hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd—

(a)yr ymadawodd yr anifail olaf â'r tir a'r adeiladau hynny; a

(b)y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.

Cyfnod cyfyngedig 28 diwrnod ar ôl crynhoad anifeiliaid

2.—(aYn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu anifeiliaid i fynd i dir ac adeiladau lle bu crynhoad anifeiliaid hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd—

(i)yr ymadawodd yr anifail olaf â'r tir a'r adeiladau hynny; a

(ii)y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.

(b)Yn ystod y cyfnod 28 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) uchod, rhaid i bob person beidio â symud o'r tir a'r adeiladau unrhyw gorlan, clwyd neu gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd atynt oni bai eu bod wedi'u hysgubo neu eu crafu'n lân, eu glanhau drwy olchi â diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr.

Eithriad i'r cyfnod cyfyngedig

3.  Nid yw'r cyfyngiadau ym mharagraff 1 a 2 uchod yn gymwys os yw'r rhannau o'r tir a'r adeiladau y mae'r anifeiliaid yn cael mynd atynt wedi'u palmantu â sment, concrid, asffalt neu unrhyw ddeunydd caled, anhydraidd y mae modd ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol ac os yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol â Pharagraffau 4, 5, a 6 isod.

Glanhau a diheintio tir ac adeiladau wedi'u palmantu

4.  Rhaid ysgubo neu grafu'n lân pob rhan o'r tir a'r adeiladau y cafodd yr anifeiliaid fynd iddynt (gan gynnwys corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall) ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr.

5.  Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio a nodir ym mharagraff 4 uchod—

(a)beidio â dechrau hyd nes i'r anifeiliaid gael eu symud o'r rhan o'r tir a'r adeiladau sydd i'w glanhau a'u diheintio; a

(b)gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf ymadael â'r tir a'r adeiladau a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.

6.  Os (am reswm nad yw'n ymwneud â phresenoldeb anifeiliaid yno) yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu halogi gan ysgarthion anifeiliaid neu ddeunydd arall o darddiad anifeilaidd neu unrhyw halogyn o darddiad anifeilaidd yna rhaid ysgubo neu grafu'n lân y tir a'r adeiladau neu'r rhannau hynny a halogwyd felly,ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.

Gwaredu gwastraff o grynoadau anifeiliaid

7.  Rhaid i bob bwyd y cafodd yr anifeiliaid fynd ato, a phob sarn, ysgarthion, a deunydd arall o darddiad anifeilaidd a halogion eraill sy'n deillio o'r anifeiliaid yn y crynhoad anifeiliaid, cyn gynted â phosibl a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto, gael—

(a)eu distrywio;

(b)eu trin er mwyn tynnu'r perygl o drosglwyddo afiechyd; neu

(c)eu gwaredu fel nad yw'r anifeiliaid yn cael mynd atynt.