xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 283 (Cy.34)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002

Wedi'i wneud

8 Chwefror 2002

Yn dod i rym

11 Chwefror 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 a 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) a phob pŵ er arall sy'n eu galluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, Cymhwyso a Chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru.

(2Daw i rym ar 11 Chwefror 2002 ac fe fydd yn peidio a bod mewn grym ar 1 Rhagfyr 2002.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall:

Defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynoadau anifeiliaid

3.—(1Yn ddarostyngedig i erthygl 4 isod, rhaid i bob person beidio â defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynhoad anifeiliaid—

(a)yn groes i ddarpariaethau'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn; a

(b)oni bai fod y tir a'r adeiladau hynny wedi'u trwyddedu i'r diben hwnnw gan arolygydd milfeddygol.

(2Rhaid i'r drwydded y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod—

(a)fod yn ysgrifenedig;

(b)fod yn bosibl ei diwygio, ei hatal dros dro neu ei diddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig wedi ei gyhoeddi gan arolygydd milfeddygol; ac

(c)fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol yn angenrheidiol er mwyn rheoli cyflwyno neu ledaenu clefyd o fewn neu oddi wrth y tir a'r adeiladau y mae'r drwydded yn perthyn â hwy.

Eithriadau i erthygl 3

4.—(1Ni fydd erthygl 3 uchod yn gymwys pan fydd—

(a)yr holl anifeiliaid sy'n mynychu'r crynoad â'r un perchennog a'r un ceidwad; a

(b)y crynoad anifeiliad i ddigwydd ar dir neu mewn adeilad sydd yn eiddo i neu ym meddiant perchennog yr anifeiliaid.

(2At ddibenion yr erthygl hwn, ystyr “ceidwad” yw person sydd â'r prif gyfrifoldeb am ofal a rheoli'r anifeiliaid o ddydd i ddydd.

Gorfodi

5.  Ac eithrio lle y darperir yn wahanol, rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.

Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925

6.  Ni fyddGorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925(3) yn gymwys tra bod y Gorchymyn hwn mewn grym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

Carwyn Jones

Ysgrifennydd Cynulliad

8 Chwefror 2002

Lord Whitty

Is - Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd

8 Chwefror 2002

Erthygl 3

ATODLENGOFYNION CYFFREDINOL YNGHYLCH DEFNYDDIO TIR AC ADEILADAU AT DDIBENION CRYNOADAU ANIFEILIAID

Cyfnod cyfyngedig 28 diwrnod cyn crynhoad anifeiliaid

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu i grynhoad anifeiliaid ddigwydd ar dir ac mewn adeiladau lle mae anifeiliaid wedi'u cadw hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd—

(a)yr ymadawodd yr anifail olaf â'r tir a'r adeiladau hynny; a

(b)y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.

Cyfnod cyfyngedig 28 diwrnod ar ôl crynhoad anifeiliaid

2.—(aYn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu anifeiliaid i fynd i dir ac adeiladau lle bu crynhoad anifeiliaid hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd—

(i)yr ymadawodd yr anifail olaf â'r tir a'r adeiladau hynny; a

(ii)y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.

(b)Yn ystod y cyfnod 28 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) uchod, rhaid i bob person beidio â symud o'r tir a'r adeiladau unrhyw gorlan, clwyd neu gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd atynt oni bai eu bod wedi'u hysgubo neu eu crafu'n lân, eu glanhau drwy olchi â diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr.

Eithriad i'r cyfnod cyfyngedig

3.  Nid yw'r cyfyngiadau ym mharagraff 1 a 2 uchod yn gymwys os yw'r rhannau o'r tir a'r adeiladau y mae'r anifeiliaid yn cael mynd atynt wedi'u palmantu â sment, concrid, asffalt neu unrhyw ddeunydd caled, anhydraidd y mae modd ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol ac os yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol â Pharagraffau 4, 5, a 6 isod.

Glanhau a diheintio tir ac adeiladau wedi'u palmantu

4.  Rhaid ysgubo neu grafu'n lân pob rhan o'r tir a'r adeiladau y cafodd yr anifeiliaid fynd iddynt (gan gynnwys corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall) ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr.

5.  Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio a nodir ym mharagraff 4 uchod—

(a)beidio â dechrau hyd nes i'r anifeiliaid gael eu symud o'r rhan o'r tir a'r adeiladau sydd i'w glanhau a'u diheintio; a

(b)gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf ymadael â'r tir a'r adeiladau a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.

6.  Os (am reswm nad yw'n ymwneud â phresenoldeb anifeiliaid yno) yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu halogi gan ysgarthion anifeiliaid neu ddeunydd arall o darddiad anifeilaidd neu unrhyw halogyn o darddiad anifeilaidd yna rhaid ysgubo neu grafu'n lân y tir a'r adeiladau neu'r rhannau hynny a halogwyd felly,ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.

Gwaredu gwastraff o grynoadau anifeiliaid

7.  Rhaid i bob bwyd y cafodd yr anifeiliaid fynd ato, a phob sarn, ysgarthion, a deunydd arall o darddiad anifeilaidd a halogion eraill sy'n deillio o'r anifeiliaid yn y crynhoad anifeiliaid, cyn gynted â phosibl a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto, gael—

(a)eu distrywio;

(b)eu trin er mwyn tynnu'r perygl o drosglwyddo afiechyd; neu

(c)eu gwaredu fel nad yw'r anifeiliaid yn cael mynd atynt.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn datgymhwyso dros dro ac yn cymryd lle Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (O.S. 1925/1349) (fel y'i diwygiwyd) mewn perthynas â Chymru.

Y mae'n gwahardd defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynoadau anifeiliaid oni bai fod trwydded i ganiatáu'r gweithgarwch hwnnw (erthygl 3).

Mae'n gofyn bod—

Ni pharatowyd arfarniad o'r rheoliadau hyn ar gyfer y Gorchymyn hwn.

(1)

1981 p.22. Gweler adran 86(1) ar gyfer diffiniadau o “the Ministers” a “the Minister”. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” cyn belled â'u bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); a chyn belled â'u bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141).

(2)

O.S. 1978/32. Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1978/934; O.S. 1999/919 ac mewn perthynas â Chymru, O.S. 2001/641 (Cy. 31).