- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999 (O.S. 1999/1103, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1999/1554, O.S. 2000/656 ac O.S. 2002/1174 (Cy.122) —“y Prif Reoliadau”) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Prif Rheoliadau yn rhoi eu heffaith i Benderfyniadau'r Comisiwn 98/692/EC (OJ Rhif L328, 4.12.98, t.28) a 98/564/EC (OJ Rhif L273, 9.10.98, p.37) a ddiwygiodd Benderfyniad y Cyngor 98/256/EC (OJ Rhif L113, 15.4.98, t.32).
Effaith y diwygiadau yn rheoliad 2 yw rhoi ei effaith i Benderfyniad y Comisiwn 2002/670/EC (OJ Rhif L228, 24.8.2002, t.22) sy'n diwygio Penderfyniad y Cyngor 98/256/EC i ganiatáu anfon o Gymru embryonau buchol a charcasau cig llo ag esgyrn ynddo o loi rhwng 6 a 9 mis oed sy'n cael eu hallforio o dan y Cynllun Allforio ar Sail Dyddiadau (CASD). Mae'r penderfyniad yn diwygio ymhellach y dulliau gweithredu a fynnir ar gyfer yr CASD yn benodol er mwyn caniatáu i gwmnïau sy'n cymryd rhan gigydda a phrosesu anifeiliaid buchol nad ydynt yn gymwys ar gyfer CASD yn ogystal ag anifeiliaid buchol sy'n gymwys ar gyfer CASD ar yr amod bod trefniadau gwahanu digonol wedi'u sefydlu.
Yn ychwanegol mae rheoliad 2(4) yn gwahardd cynnig anfon neu draddodi nwyddau na chaniateir eu hanfon na'u traddodi o dan y Rheoliadau hyn, boed ar y rhyngrwyd neu fel arall. Mae rheoliad 2(7) yn diwygio rheoliad 17 i ddarparu ar gyfer talu'r costau sy'n cael eu tynnu yn rhesymol mewn cysylltiad â storio gan berchennog y llwyth ac o dan rai amgylchiadau ar gyfer talu iawndal i'r perchennog am unrhyw ostyngiad yng ngwerth y llwyth.
Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: