Search Legislation

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif2) 2002

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Trwyddedau, awdurdodau, caniatadau a hysbysiadau

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i unrhyw drwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, cânt fod yn gyffredinol neu'n benodol, rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir ynddynt a chaniateir eu hamrywio, eu hatal dros dro neu eu dirymu ar unrhyw adeg drwy hysbysiad ysgrifenedig a ddyroddir—

(a)gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos trwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd o unrhyw fath;

(b)gan arolygydd milfeddygol, yn achos trwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o arolygwyr eraill yr Ysgrifennydd Gwladol;

(c)gan un o arolygwyr yr Ysgrifennydd Gwladol (ar wahân i arolygydd milfeddygol), yn achos trwydded, awdurdod neu hysbysiad a ddyroddwyd gan unrhyw arolygydd o'r fath; neu

(ch)gan arolygydd awdurdod lleol, yn achos trwydded, awdurdod neu hysbysiad a ddyroddir gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol hwnnw.

(2Rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (1) uchod—

(a)cael ei gyflwyno, os yw'r drwydded, yr awdurdod, y caniatâd neu'r hysbysiad yn ddogfen benodol sydd i'w hamrywio, ei hatal dros dro neu ei diddymu, i'r person y dyroddwyd neu y cyflwynwyd y drwydded honno, yr awdurdod hwnnw y caniatâd hwnnw neu'r hysbysiad hwnnw iddo; neu

(b)cael ei gyflwyno neu ei gyhoeddi, os yw'r drwydded, yr awdurdod, y caniatâd neu'r hysbysiad yn ddogfen gyffredinol sydd i'w hamrywio, ei hatal dros dro neu ei ddiddymu, yn y dull mwyaf priodol ym marn resymol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu, yn ôl fel y digwydd, yr arolygydd milfeddygol neu arolygydd arall i dynnu sylw'r rhai y byddai'n effeithio arnynt ati.

(3Wrth benderfynu a ddylid dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), hysbysiad o dan erthygl 3(2)(b)(xi), 3(7) neu 3(10) neu ganiatâd o dan erthygl 3(2)(c) neu 5(2)(b), rhaid i arolygydd, neu yn ôl fel y digwydd, arolygydd milfeddygol, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a all fod wedi'u dyroddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag unrhyw drwyddedau, hysbysiadau neu ganiatadau o'r fath.

(4Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 3(1)(a), awdurdod a ddyroddir er mwyn gwneud dau neu ragor o safleoedd yn grŵp meddiannaeth unigol o dan erthygl 3(2)(b)(vi), neu ganiatâd a ddyroddir o dan erthygl 3(2)(c) bennu gofynion ar gyfer glanhau a diheintio unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer symud anifeiliaid yn ychwanegol at y gofynion mewn perthynas â hynny a nodir yng Ngorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001(1) a rhaid i'r person sy'n gyfrifol am symud yr anifeiliaid sicrhau, ac eithrio lle bo'r drwydded, yr awdurdod neu'r caniatâd yn darparu fel arall, fod pob gofyniad o'r fath yn cael ei fodloni cyn gynted â phosibl ar ôl i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho a, beth bynnag, cyn bod y cerbyd yn cael ei symud o'r safle y mae'r anifeiliad wedi'u symud iddo.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a) uchod, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi hysbysiad yn gwahardd—

(a)symud o dan awdurdod y drwydded honno unrhyw anifail o unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b)unrhyw berson rhag symud anifeiliaid o dan awdurdod y drwydded honno naill ai'n gyffredinol neu i unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad neu ohoNo.

(6Ni chaniateir dyroddi unrhyw hysbysiad o dan bargraffau (5) ac eithrio yn unol â chyngor arolygydd sydd o'r farn—

(a)nad yw'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yn cydymffurfio neu nad yw wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Gorchymyn hwn neu'r drwydded gyffredinol a enwyd eisoes mewn perthynas ag anifeiliad a symudwyd i'r safle o dan sylw neu ohono neu mewn perthynas â symud unrhyw anifeiliaid eraill y mae'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yn geidwad arnynt neu wedi bod yn geidwad arnynt ar unrhyw bryd; a

(b)bod cyflwyno hysbysiad yn angenrheidiol i atal ymlediad posibl clefyd.

(7Rhaid cyflwyno hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (5)(a) i feddianwyr pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad a rhaid cyflwyno hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (5)(b) i'r person sy'n cael ei wahardd rhag symud anifeiliaid odano ac i feddianwyr unrhyw safle sydd wedi'i enwi'n unigol ar yr hysbysiad.

(8Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys yn achos hysbysiad a roddir o dan erthygl 3(10).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources