Search Legislation

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif2) 2002

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg, (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid ac anifeiliaid o deulu'r mochyn;

  • ystyr “canolfan gasglu” (“collecting centre”) yw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel canolfan hanner-ffordd ar gyfer derbyn anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall ac mae'n cynnwys unrhyw le a ddefnyddir, boed fel marchnad neu fel arall, ar gyfer gwerthu neu fasnachu anifeiliaid ond dim ond os bwriedir i'r anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu masnachu gael eu cigydda ar unwaith wedi hynny;

  • ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros anifeiliad hyd yn oed dros dro ac, at ddibenion erthygl 6(6)(a), yn cynnwys unrhyw berson sy'n cludo'r anifeiliaid;

  • mae i “cyfleuster ynysu ar gyfer bridio” (“breeding isolation facility”) yr ystyr a briodolir iddo yn erthygl 3(3)(e)(i);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;

  • ystyr “diheintio” (“disinfect”) yw diheintio â diheintydd a gymeradwyir;

  • ystyr “diheintydd a gymeradwyir” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a restrir yn Atodlen 1 i Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwyir) 1978(1) fel un a gymeradwyir i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â Gorchymynion Traed a'r Genau;

  • ystyr “gorchymyn ardal a reolir” (“controlled area order”) yw unrhyw orchymyn datganiadol a wneir o dan erthygl 30 o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983(2);

  • ystyr “grŵ p meddiannaeth unigol” (“sole occupancy group”) yw unrhyw grŵp o safleoedd y mae awdurdod wedi'i roi gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn caniatáu symudiadau rhwng pob un o'r safleoedd yn y grŵ p;

  • mae i “Gweinidogion yr Alban” yr ystyr a roddir i “ Scottish Ministers” yn adran 44 o Ddeddf yr Alban 1998(3);

  • ystyr “hawl gofrestredig i gomin” (“registered right of common”) yw hawl i gomin a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cofrestru Cominoedd 1965(4);

  • ystyr “hela” (“hunting”) yw defnyddio helgwn, beglgwn neu gŵ n eraill, er mwyn hela neu gwrsio unrhyw garw, llwynog, minc, ysgyfarnog neu gwningen neu er mwyn hela ar drywydd unrhyw abwyd neu ar drywydd arall;

  • mae i “lladd-dy” yr ystyr a roddir i “slaughterhouse” yn y Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(5);

  • mae i “Marc S” (“S Mark”) yr un ystyr ag sydd iddo yng Ngorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002;

  • ystyr “milfeddyg cymwysedig” (“qualified veterinary surgeon”) yw cymrawd neu aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon;

  • mae i “pasbort gwartheg” yr ystyr a roddir i “cattle passport” yn y Rheoliadau Adnabod Gwartheg ond nid yw'n cynnwys pasbort lloi fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hynny;

  • ystyr “Rheoliadau Adnabod Gwartheg” (“Cattle Identification Regulations”) yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(6);

  • mae i “rhif adnabod unigol” yr un ystyr ag “individual identification number” yng Ngorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(7);

  • ystyr “rhif daliad” a “rhif y daliad” (“CPH number”) yw'r rhif daliad fferm a neilltuir o dro i dro i unrhyw safle neu ran o unrhyw safle gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae “safle” (“premises”) yn cynnwys tir, gydag adeiladau neu hebddynt;

  • mae “tir” (“land”) yn cynnwys tir comin neu dir sydd heb ei amgáu;

  • ystyr “tir tac” (“tack land”) yw tir yr aethpwyd ag anifeiliaid sy'n perthyn i rywun arall iddo er mwyn eu porthi neu eu pori am dâl gan borfelwr;

  • mae “triniaeth filfeddygol” (“veterinary treatment”) yn cynnwys, yn achos geifr, casglu semen; ac

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources