- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
7.—(1) Ni chaiff neb—
(a)symud mochyn neu beri iddo gael ei symud o farchnad neu ganolfan gasglu i farchnad neu ganolfan gasglu arall (ac eithrio i ganolfan gasglu ar gyfer moch y bwriedir eu cigydda ar unwaith);
(b)symud mochyn i ladd-dy ac eithrio er mwyn ei gigydda o fewn 48 awr ar ôl iddo gyrraedd yno;
(c)mynd â mochyn o ladd-dy ac eithrio ar ôl iddo gael ei gigydda; neu
(ch)dychwelyd mochyn i fferm o farchnad ar gyfer moch y bwriedir eu cigydda ar unwaith.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, pryd bynnag y mae unrhyw anifail wedi'i symud i unrhyw safle, ni chaiff neb symud unrhyw fochyn o'r safle hwnnw (nac o unrhyw safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol) cyn y daw i ben gyfnod o 20 diwrnod o'r diwrnod y danfonwyd yr anifail y cyfeiriwyd ato gyntaf i'r safle hwnnw.
(2) Ni fydd y cyfyngiad sydd wedi'i gynnwys ym mharagraff (1) yn gymwys yn unrhyw un o'r achosion a nodir yn erthygl 3(2) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(1).
(3) Er gwaethaf y gwaharddiad ym mharagraff (1), rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i'r symudiadau canlynol—
(a)unrhyw symudiad y cyfeirir ato yn erthygl 3(3) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002; na
(b)symudiad mochyn y bwriedir ei fridio neu beri iddo dyfu o ffynhonnell a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i unrhyw safle, pan fydd y symudiad hwnnw wedi'i awdurdodi yn unol ag amodau a nodwyd yn ysgrifenedig gan arolygydd milfeddygol.
9.—(1) Heb ragfarnu erthyglau 7 ac 8, ni chaiff neb symud mochyn (ac eithrio mochyn sy'n cael ei gadw fel anifail anwes yn unig) na pheri iddo gael ei symud o unrhyw safle, oni bai bod dogfen sydd wedi'i llofnodi gan berchennog y mochyn neu ei asiant yn cyd-fynd â'r mochyn a bod y ddogfen honno'n nodi—
(a)cyfeiriad gan gynnwys cod post a rhif daliad y safle y mae'r mochyn yn cael ei symud ohono, a'r safle y mae'n cael ei symud iddo;
(b)y dyddiad y mae'r symudiad yn digwydd;
(c)nifer y moch y mae'r ddogfen symud yn ymdrin ag ef;
(ch)marc adnabod pob un o'r moch sy'n cael eu symud;
(d)yn achos symudiad o farchnad, rhifau lot y moch sy'n cael eu symud.
(2) Pan fydd y moch yn cyrraedd eu cyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud y moch roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r ceidwad yn safle'r gyrchfan a rhaid iddo yntau ei gadw yn ei feddiant am gyfnod o 6 mis.
(3) Rhaid i'r ceidwad yn safle'r gyrchfan, o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r moch gyrraedd yno, anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae safle'r gyrchfan wedi'i leoli.
(4) Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud i safle y tu allan i Brydain Fawr anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r Awdurdod Lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle y mae'r moch yn cael eu symud ohono wedi'i leoli.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb symud mochyn sy'n cael ei gadw fel anifail anwes yn unig, na pheri iddo gael ei symud, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd o dan yr erthygl hon sydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys pan fydd y mochyn yn cael ei symud dros dro o'r safle er mwyn cael triniaeth filfeddygol frys.
(3) Caiff trwydded o dan yr erthygl hon gael ei dyroddi gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r symudiad yn dechrau neu gan un o arolygwyr yr Ysgrifennydd Gwladol.
11.—(1) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant moch ar fferm ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddwyd gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r fferm wedi'i lleoli.
(2) Rhaid peidio â dyroddi trwydded o dan baragraff (1) uchod, a rhaid peidio â chynnal gwerthiant, ac eithrio—
(a)os bydd y gwerthiant yn cynnwys dim ond moch sy'n ffurfio'r cyfan neu ran o genfaint sefydlog y fferm honno, a
(b)os nad oes unrhyw anifeiliaid (heblaw anifeiliaid sydd wedi'u symud i'r fferm yn unol â darpariaethau erthygl 3(3) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002) wedi'u symud i'r fferm honno ar ddiwrnod y gwerthiant neu o fewn cyfnod o 20 diwrnod cyn diwrnod y gwerthiant.
12.—(1) Bydd unrhyw drwydded a ddyroddir at ddibenion y Rhan hon yn ddilys am y cyfnod sydd wedi'i ddatgan ynddi yn unig.
(2) Rhaid i unrhyw drwydded, hysbysiad, awdurdod, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig ac—
(a)bod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir ynddynt; a
(b)caniateir i'r dogfennau hyn gael eu hamrywio, eu hatal neu eu dirymu gan yr awdurdod dyrannu drwy hysbysiad a roddir i'r person y mae'n cael ei ddyroddi iddo ond heb ragfarnu unrhyw beth a wneir neu yr hepgorir ei wneud cyn i unrhyw amrywiad, ataliad neu ddirymiad o'r fath ddod yn effeithiol.
(3) Pan fydd y Gorchymyn hwn yn cyfeirio at ffurflen sy'n ymddangos mewn Atodlen i'r Gorchymyn hwn, rhaid cymryd bod y cyfeiriad hwnnw yn cynnwys ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurflen yn yr Atodlen honNo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: