xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2303 (Cy.228)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

Wedi'i wneud

am 11:30 a.m ar 5 Medi 2002

Yn dod i rym

6 Medi 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, gan weithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8 a 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeilaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol—

RHAN IRHAGARWEINIOL

Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

(2Bydd yn ffordd ddigonol o gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i wneud cais, dyroddi trwydded, hysbysiad, awdurdod neu awdurdodiad, adneuo dogfen neu anfon neu roi dogfen, neu sy'n caniatáu gwneud hynny, os cyflawnir hyn drwy gyfrwng gwasanaeth trosglwyddo ffacsimili.

RHAN IICOFNODION AC ADNABOD MOCH

COFNODION MOCH

Cofnodion a hysbysiadau daliadau

3.—(1Rhaid i berchennog unrhyw fochyn ar ddaliad neu berson sydd â gofal drosto i hysbysu'n ysgrifenedig y Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad o'r canlynol—

(a)cyfeiriad y daliad;

(b)enw a chyfeiriad perchennog neu feddiannydd y daliad;

(c)rhif adnabod y daliad (os yw'n hysbys i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad); ac

(ch)rhywogaeth unrhyw anifail sy'n cael ei gadw ar y daliad.

(2Yn achos daliad a sefydlwyd ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) o fewn un mis o sefydlu'r daliad.

(3O fewn un mis o wneud unrhyw newid i'r manylion a hysbyswyd neu unrhyw ychwanegiad at yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1), rhaid i berchennog neu geidwad unrhyw fochyn ar ddaliad hysbysu'r Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol yn ysgrifenedig o'r newid neu'r ychwanegiad.

(4Rhaid i berchennog neu geidwad mochyn ar ddaliad roi'r manylion a hysbyswyd i arolygydd os gofynnir iddo wneud hynny.

(5Yn yr erthygl hon ystyr “Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol” yw'r arolygydd milfeddygol a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i'r swydd honno ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad.

Cofnodion moch

4.—(1Rhaid i berchennog neu geidwad mochyn ar ddaliad wneud cofnod a'i gadw—

(a)ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1 mewn perthynas â phob symudiad moch i'r daliad neu ohono; a

(b)o uchafswm y moch sy'n bresennol fel arfer ar y daliad (a hynny'n cael ei ddiwygio o leiaf bob blwyddyn).

(2Yn achos unrhyw berson sy'n gwerthu unrhyw fochyn (p'un ai drwy arwerthiant neu drwy gytundeb preifat) ar safle sy'n cael ei ddefnyddio fel marchnad ar gyfer moch drwy arwerthiant, rhaid iddo wneud cofnod ysgrifenedig (yn ychwanegol at y cofnodion sy'n ofynnol o dan baragraff (1) uchod) o enw a chyfeiriad gwerthwr a phrynwr pob lot foch, a rhif y gorlan neu'r corlannau lle'r oedd pob lot yn cael ei chadw, a chadw'r cofnod hwnnw yn ei feddiant.

(3Rhaid i bob cofnod o dan yr erthygl hon—

(a)cael ei wneud o fewn 36 awr ar ôl i'r symudiad neu'r gwerthiant gael ei gofnodi; a

(b)cael ei gadw yn ei feddiant gan berchennog neu geidwad y mochyn neu berchennog y daliad neu'r person sydd â'r gofal drosto am gyfnod o dair blynedd o ddiwedd y flwyddyn y gwnaed y cofnod diwethaf ynddi.

(4Os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd ar unrhyw adeg resymol, rhaid i unrhyw berson sydd â gofal am y tro dros unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan yr erthygl hon ddangos y cofnod hwnnw a chaniatáu i gopi gael ei wneud ohoNo.

(5Os yw cofnod y mae'n ofynnol ei gwneud o dan yr erthygl hon yn cael ei gwneud ar ffurf electronig neu fagnetig, mae cyfeiriadau ym mharagraff (4)—

(a)at ddangos y cofnod yn gyfeiriadau at ei ddangos ar ffurf ysgrifenedig, os dyna beth y mae ar yr arolygydd yn ei fynnu; a

(b)at gymryd darnau neu gopïau o'r cofnod yn gyfeiriadau at eu cymryd ar ffurf ysgrifenedig.

ADNABOD MOCH

Marciau adnabod

5.—(1Ni chaiff neb symud mochyn gyda golwg ar ei symud i le y tu allan i Brydain Fawr oni bai ei fod yn cael ei farcio, cyn i'r symudiad ddechrau, â marc adnabod (y mae'n rhaid iddo fod yn ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn y mae'n cael ei ddodi arno) ar ffurf tag clust neu datŵ .

(2Rhaid i'r marc adnabod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)—

(a)gynnwys y cod gwlad 'UK' a marc cenfaint y daliad lle mae'r marc yn cael ei ddodi; a

(b)rhaid iddo gynnwys rhif gwahaniaethol a neilltuwyd i'r mochyn gan ei berchennog neu geidwad, ac yn achos tag clust, rhaid dodi'r llythyren “P” o flaen y rhif hwnnw.

(3Ni fydd yn gyfreithlon symud mochyn o ddaliad (ac eithrio gyda golwg ar ei symud i le y tu allan i Brydain Fawr) oni bai ei fod yn cael ei farcio, cyn i'r symudiad ddechrau—

(a)yn achos mochyn sy'n cael ei symud i arddangosfa neu sioe neu at ddibenion bridio ac y bwriedir ei ddychwelyd i'r safle y mae'n cael ei symud ohono, â marc adnabod sy'n cynnwys marc cenfaint y daliad lle dodir y marc a rhif adnabod unigol unigryw a neilltuwyd i'r mochyn gan ei berchennog neu geidwad; neu

(b) ym mhob achos arall—

(i)â marc adnabod sy'n cydymffurfio â pharagraff (2) neu (3)(a); neu

(ii)â marc adnabod a fydd yn para o leiaf tan yr amser y bydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan ac sy'n caniatáu, naill ar ei ben ei hun neu drwy gyfeiriad at ddogfen sy'n cyd-fynd â'r mochyn yn ystod y symudiad, i'r daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf gael ei adnabod.

(4Ac eithrio yn unol ag awdurdod a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, ni fydd yn gyfreithlon i unrhyw berson—

(a)tynnu oddi ar fochyn farc adnabod sydd wedi'i ddodi arno neu wedi'i roi ynghlwm wrtho yn unol â darpariaethau blaenorol yr erthygl hon; na

(b)amnewid marc adnabod a ddodwyd ar fochyn neu a roddwyd ynghlwm wrtho yn unol â'r darpariaethau hynny ac eithrio er mwyn amnewid un sydd wedi mynd yn anarllenadwy neu sydd wedi mynd ar goll.

Tagiau clust

6.—(1Ni chaiff neb roi marc adnabod ar ffurf tag clust ynghlwm wrth fochyn oni bai bod y tag clust yn bodloni darpariaethau paragraff (2); ac yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriadau at dag clust yn gyfeiriadau at dag clust sy'n bodloni'r darpariaethau hynny.

(2Rhaid i dag clust fod wedi'i lunio yn y fath fodd—

(a)ag i beidio ag effeithio'n andwyol ar lesiant y mochyn y mae ynghlwm wrtho;

(b)ag i fod yn amhosibl ei newid mewn ffordd nad yw'n caniatáu sylwi'n rhwydd fod newid wedi digwydd; a

(c)ag i fod yn amhosibl ei ailddefnyddio.

RHAN IIISYMUD MOCH

Gwahardd rhai symudiadau moch

7.—(1Ni chaiff neb—

(a)symud mochyn neu beri iddo gael ei symud o farchnad neu ganolfan gasglu i farchnad neu ganolfan gasglu arall (ac eithrio i ganolfan gasglu ar gyfer moch y bwriedir eu cigydda ar unwaith);

(b)symud mochyn i ladd-dy ac eithrio er mwyn ei gigydda o fewn 48 awr ar ôl iddo gyrraedd yno;

(c)mynd â mochyn o ladd-dy ac eithrio ar ôl iddo gael ei gigydda; neu

(ch)dychwelyd mochyn i fferm o farchnad ar gyfer moch y bwriedir eu cigydda ar unwaith.

Cyfyngiad ar symud moch o fewn 20 diwrnod o symudiad blaenorol

8.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, pryd bynnag y mae unrhyw anifail wedi'i symud i unrhyw safle, ni chaiff neb symud unrhyw fochyn o'r safle hwnnw (nac o unrhyw safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol) cyn y daw i ben gyfnod o 20 diwrnod o'r diwrnod y danfonwyd yr anifail y cyfeiriwyd ato gyntaf i'r safle hwnnw.

(2Ni fydd y cyfyngiad sydd wedi'i gynnwys ym mharagraff (1) yn gymwys yn unrhyw un o'r achosion a nodir yn erthygl 3(2) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(4).

(3Er gwaethaf y gwaharddiad ym mharagraff (1), rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i'r symudiadau canlynol—

(a)unrhyw symudiad y cyfeirir ato yn erthygl 3(3) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002; na

(b)symudiad mochyn y bwriedir ei fridio neu beri iddo dyfu o ffynhonnell a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i unrhyw safle, pan fydd y symudiad hwnnw wedi'i awdurdodi yn unol ag amodau a nodwyd yn ysgrifenedig gan arolygydd milfeddygol.

Rheoleiddio symud moch (heblaw moch anwes)

9.—(1Heb ragfarnu erthyglau 7 ac 8, ni chaiff neb symud mochyn (ac eithrio mochyn sy'n cael ei gadw fel anifail anwes yn unig) na pheri iddo gael ei symud o unrhyw safle, oni bai bod dogfen sydd wedi'i llofnodi gan berchennog y mochyn neu ei asiant yn cyd-fynd â'r mochyn a bod y ddogfen honno'n nodi—

(a)cyfeiriad gan gynnwys cod post a rhif daliad y safle y mae'r mochyn yn cael ei symud ohono, a'r safle y mae'n cael ei symud iddo;

(b)y dyddiad y mae'r symudiad yn digwydd;

(c)nifer y moch y mae'r ddogfen symud yn ymdrin ag ef;

(ch)marc adnabod pob un o'r moch sy'n cael eu symud;

(d)yn achos symudiad o farchnad, rhifau lot y moch sy'n cael eu symud.

(2Pan fydd y moch yn cyrraedd eu cyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud y moch roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r ceidwad yn safle'r gyrchfan a rhaid iddo yntau ei gadw yn ei feddiant am gyfnod o 6 mis.

(3Rhaid i'r ceidwad yn safle'r gyrchfan, o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r moch gyrraedd yno, anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae safle'r gyrchfan wedi'i leoli.

(4Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud i safle y tu allan i Brydain Fawr anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r Awdurdod Lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle y mae'r moch yn cael eu symud ohono wedi'i leoli.

Rheoleiddio symudiadau moch anwes

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb symud mochyn sy'n cael ei gadw fel anifail anwes yn unig, na pheri iddo gael ei symud, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd o dan yr erthygl hon sydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys pan fydd y mochyn yn cael ei symud dros dro o'r safle er mwyn cael triniaeth filfeddygol frys.

(3Caiff trwydded o dan yr erthygl hon gael ei dyroddi gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r symudiad yn dechrau neu gan un o arolygwyr yr Ysgrifennydd Gwladol.

Rheoleiddio gwerthiannau moch

11.—(1Ni chaiff neb gynnal gwerthiant moch ar fferm ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddwyd gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r fferm wedi'i lleoli.

(2Rhaid peidio â dyroddi trwydded o dan baragraff (1) uchod, a rhaid peidio â chynnal gwerthiant, ac eithrio—

(a)os bydd y gwerthiant yn cynnwys dim ond moch sy'n ffurfio'r cyfan neu ran o genfaint sefydlog y fferm honno, a

(b)os nad oes unrhyw anifeiliaid (heblaw anifeiliaid sydd wedi'u symud i'r fferm yn unol â darpariaethau erthygl 3(3) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002) wedi'u symud i'r fferm honno ar ddiwrnod y gwerthiant neu o fewn cyfnod o 20 diwrnod cyn diwrnod y gwerthiant.

Darpariaethau ynghylch trwyddedau, a.y.y.b

12.—(1Bydd unrhyw drwydded a ddyroddir at ddibenion y Rhan hon yn ddilys am y cyfnod sydd wedi'i ddatgan ynddi yn unig.

(2Rhaid i unrhyw drwydded, hysbysiad, awdurdod, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig ac—

(a)bod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir ynddynt; a

(b)caniateir i'r dogfennau hyn gael eu hamrywio, eu hatal neu eu dirymu gan yr awdurdod dyrannu drwy hysbysiad a roddir i'r person y mae'n cael ei ddyroddi iddo ond heb ragfarnu unrhyw beth a wneir neu yr hepgorir ei wneud cyn i unrhyw amrywiad, ataliad neu ddirymiad o'r fath ddod yn effeithiol.

(3Pan fydd y Gorchymyn hwn yn cyfeirio at ffurflen sy'n ymddangos mewn Atodlen i'r Gorchymyn hwn, rhaid cymryd bod y cyfeiriad hwnnw yn cynnwys ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurflen yn yr Atodlen honNo.

RHAN IVAMRYWIOL

Gorfodi

13.  Rhaid i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, ac eithrio lle darperir fel arall, gael eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.

Dirymu a.y.y.b.

14.—(1Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(5).

(2Bydd effaith Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) 1995(6) yn darfod tra bydd y Gorchymyn hwn mewn grym.

Ffurflenni

15.  Er gwaethaf erthygl 9 o Orchymyn Anifeiliaid (Darpariaethau Amrywiol) 1927(7), caiff yr awdurdod lleol ddarparu a chyflenwi copïau printiedig o unrhyw ddogfen neu ffurflen sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

Jane Davidson

Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

am 2:31 p.m. ar 4 Medi 2002

Llofnodwyd

Whitty

Is-ysgrifennydd Seneddol

Yr Adran Amgylchedd,

Bwyd a Materion Gwledig

am 11:30 a.m. ar 5 Medi 2002

Erthygl 4

ATODLEN 1COFNOD DALIAD O SYMUDIADAU

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

Erthygl 10

ATODLEN 2SYMUD MOCH ANWES

TRWYDDED AR GYFER SYMUD MOCH ANWESGorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru ac y mae ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003, yn datgymhwyso a disodli dros dro Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11, fel y'i diwygiwyd) (“Gorchymyn 1995”). Mae'n cydgrynhoi (gyda diwygiadau) y newidiadau dros dro i Orchymyn 1995, a wnaed gan Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/281 (Cy.33)) (“Gorchymyn 2002”).

Yn ychwanegol at y newidiadau a wnaed gan Orchymyn 2002, mae'r Gorchymyn hwn—

(a)yn estyn y cyfnod y mae'r mesurau yn parhau mewn grym i 1 Chwefror 2003;

(b)yn dileu'r ffurfiau amrywiol ar ddatganiad a nodwyd yn yr Atodlenni i Orchymyn 1995 ac yn eu lle yn ei gwneud yn ofynnol i ddogfen symud sy'n cynnwys gwybodaeth benodol gyd-fynd â phob symudiad moch (heblaw moch anwes) (erthygl 9); a

(c)yn ei gwneud yn ofynnol cael trwydded symud ar gyfer symud moch anwes, ac yn nodi ffurf y drwydded honno (erthygl 10).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.

(1)

1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o “the Ministers”. Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd pwerau “the Ministers” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac i'r graddau yr oedd y pwerau hynny yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, fe'u trosglwyddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/ 794).

(3)

O.S. 1995/539, y mae diwygiadau iddynt, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.