- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
5.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw gafr ar ddaliad (heblaw canolfan gynnull, marchnad, sioe, lladd-dy neu ganolfan gasglu) gofnodi, ar 31 Ionawr ym mhob blwyddyn neu cyn hynny, y nifer o eifr ar y daliad hwnnw ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honNo.
(2) O fewn 36 awr o symud gafr i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad gofnodi—
(a)dyddiad y symudiad;
(b)cyfanswm y geifr a symudwyd;
(c)un o'r marciau canlynol—
(i)y Marc S diweddaraf a ddodwyd ar yr afr;
(ii)pan nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad neu'r marc a wnaed o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000;
(iii)pan nad oes unrhyw farc a grybwyllir yn is-baragraffau (c)(i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R; neu
(iv)y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;
(ch)yn achos gafr a symudwyd i'r daliad, cyfeiriad y daliad y daeth ohono; yn achos gafr sy'n cael ei symud oddi ar y daliad, cyfeiriad y daliad y mae'n mynd iddo;
(d)yn achos gafr a symudwyd o farchnad, y rhif lot a ddyranwyd yn y farchnad;
(dd)yn achos gafr a symudwyd i sioe neu ohoni, rhif adnabod unigol yr afr ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;
(e)yn achos gafr sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull, y rhif adnabod unigol (os oes mwy nag un, y rhif adnabod unigol diweddaraf a ddodwyd);
(f)yn achos gafr sy'n cael ei symud i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr, un o'r canlynol—
(i)Marc Tarddiad sy'n cynnwys y llythrennau “UK”, a'r rhif adnabod unigol,
(ii)Marc F sy'n cynnwys y llythrennau “UK”, a'r rhif adnabod unigol, neu
(iii)Marc X a'r rhif adnabod unigol; ac
(ff)yn achos gafr sy'n cael ei symud at ddibenion erthygl 3(2)(b)(xix) neu 3(3)(d) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol hwnnw ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif hwnnw.
(3) Ni fydd paragraff 2(c) yn gymwys yn achos gafr—
(a)a symudwyd yn uniongyrchol i ladd-dy;
(b)a symudwyd yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;
(c)a symudwyd i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu
(ch)a ddychwelwyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i hanfon iddi er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;
ar yr amod bod y ceidwad yn cofnodi'r marc dros dro a ddodwyd ar yr afr.
(4) Yn achos gafr sy'n cael ei gwerthu heb gael ei symud i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r gwerthwr gofnodi, o fewn 36 awr o'r gwerthiant—
(a)dyddiad y gwerthiant;
(b)y nifer o eifr a werthwyd; ac
(c)enw a chyfeiriad y prynwr.
(5) Yn achos gafr sydd wedi'i marcio yn unol ag erthygl 11 neu wedi'i hailfarcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) neu (c), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r afr (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc gyr a'r un blaenorol, os yw'n hysbys.
(6) Pan fydd ceidwad yn marcio gafr â Marc X, rhaid iddo wneud y canlynol o fewn 36 awr—
(a)os yw'r Marc X yn cael ei ddodi mewn canolfan gasglu, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c) ac â'r rhif adnabod unigol sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(e); a
(b)os yw'r Marc X yn cael ei ddodi ar ddaliad heblaw canolfan gynnull, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c);
(7) Rhaid i'r person sy'n gwneud cofnod o dan yr erthygl hon gadw'r cofnod am gyfnod o chwe blynedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: