Dogfennau symud12
1
Rhaid i berson beidio â symud dafad na gafr oni bai bod dogfen sydd wedi'i llofnodi gan berchennog yr anifail neu ei asiant yn cyd-fynd â'r ddafad neu'r afr honno a bod y ddogfen yn pennu—
a
cyfeiriadau (gan gynnwys rhif daliad a chod post) y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono a'r daliad y mae'n cael ei symud iddo;
b
dyddiad y symudiad a chyfanswm yr anifeiliad sy'n cael eu symud;
c
y marc a ddisgrifir ym mharagraff (2);
ch
y rhif lot mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud o farchnad; a
d
y rhif adnabod unigol mewn perthynas â'r anifail sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull.
2
Rhaid i'r ddogfen nodi hefyd
a
un o'r canlynol—
i
y Marc S a ddodwyd ar yr anifail;
ii
os nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad, na'r marc a ddodwyd o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000; neu
iii
os nad oes unrhyw farc fel a grybwyllwyd yn is-baragraffau (i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R;
iv
y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;
b
unrhyw farc dros dro yn achos anifail—
i
sy'n cael ei symud yn uniongyrchol i ladd-dy;
ii
sy'n cael ei symud yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei werthu i'w gigydda;
iii
sy'n cael ei symud i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy;
iv
sy'n dychwelyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i anfon iddi er mwyn ei werthu i'w gigydda; neu
v
sy'n dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad yr oedd yn cael ei gadw arno yn union cyn cael ei symud i'r tir pori dros dro;
c
os yw anifail yn cael ei symud i sioe neu ohoni, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol; neu
ch
os yw hwrdd neu afr yn cael ei symud at ddibenion bridio yn unol ag erthygl 3(2)(b)(xviii), 3(2)(b)(xix), 3(3)(ch), 3(3)(d), 3(3)(e) neu 3(3)(f) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod.
3
Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos anifail sy'n cael ei symud—
a
rhwng daliad ac unrhyw dir y mae hawl i bori ar y cyd â pherchenogion eraill yn arferadwy mewn perthynas ag ef;
b
at ddibenion triniaeth filfeddygol, dipio neu gneifio;
c
yn achos geifr, er mwyn eu tatŵ io; neu
ch
o safle mewn grŵ p meddiannaeth unigol i safle arall yn yr un grŵ p;
4
Pan fydd yr anifail yn cyrraedd ei gyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud yr anifail roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan.
5
Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan, o fewn tri diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd yno, anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad.
6
Rhaid i geidwad anifail sy'n cael ei symud y tu allan i Brydain Fawr anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr Awdurdod Lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle y mae'r anifail yn cael ei symud ohoNo.