- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 15(8)
1. Yn yr Atodlen hon ystyr “person a benodwyd” yw person a benodwyd o dan reoliad 15(8) ac ystyr “penodiad” yw penodiad o dan y rheoliad hwnnw.
2. Rhaid i benodiad gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—
(a)gall ymwneud ag unrhyw apêl neu fater penodol a bennir yn y penodiad neu ag apelau neu faterion o ddisgrifiad a bennir felly;
(b)gall ddarparu bod unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi yn arferadwy gan y person a benodwyd naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i gyflawni unrhyw amodau o'r fath a bennir yn y penodiad; ac
(c)gall, drwy roi rhybudd ysgrifenedig i'r person a benodwyd, gael ei ddiddymu ar unrhyw adeg gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater nad yw wedi cael ei benderfynu gan y person a benodwyd cyn yr amser hwnnw.
3. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, rhaid bod gan berson a benodwyd, mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater y mae eu penodiad yn ymwneud ag ef, yr un pwerau a dyletswyddau â'r rhai sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (7), (10), (11) a (12) o reoliad 15.
4.—(1) Bydd darpariaethau'r paragraff hwn, yn hytrach na rheoliad 15(6), yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu gan berson a benodwyd.
(2) Os bydd yr apelydd yn mynegi ei fod yn dymuno ymddangos gerbron y person a benodwyd ac i gael ei glywed ganddo , rhaid i'r person a benodwyd roi cyfle i'r apelydd ymddangos a chael ei glywed.
(3) P'un a yw apelydd wedi gofyn am gyfle i ymddangos gerbron ac i gael ei glywed ai peidio—
(a)caiff y person a benodwyd gynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall mewn perthynas â'r apêl neu'r mater, a
(b)rhaid iddo gynnal ymchwiliad lleol mewn cysylltiad â'r apêl neu'r mater, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo i wneud hynny.
(4) Os yw'r naill neu'r llall o is-baragraffau (2) neu (3) uchod yn gymwys, rhaid i'r person a benodwyd hysbysu'r apelydd ac unrhyw bersonau eraill sydd wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod am wneud sylwadau yn unol â rheoliad 15(5) fod gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, yn ôl fel y digwydd, i'w gynnal.
(5) Pan fydd person a benodwyd yn cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall yn rhinwedd yr Atodlen hon, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi aseswr i eistedd gyda'r person a benodwyd yn yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad ac i'w gynghori ar unrhyw fater sy'n codi, er mai'r person a benodwyd a fydd yn penderfynu'r apêl neu'r mater.
(6) Yn ddarostyngedig i reoliad 15(9), rhaid i gostau ymchwiliad lleol a gynhaliwyd o dan yr Atodlen hon gael eu had-dalu gan y Cynulliad Cenedlaethol.
5.—(1) Pan gaiff penodiad y person a benodwyd ei ddiddymu o dan baragraff 2(c) mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, oni bai ei fod yn bwriadu penderfynu'r apêl neu'r mater ei hun, benodi person arall o dan reoliad 15(8) i benderfynu ar yr apêl neu'r mater yn ei le .
(2) Pan gaiff penodiad newydd o'r fath ei wneud, rhaid i'r broses o ystyried yr apêl neu'r mater, neu unrhyw ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall mewn perthynas ag ef, gael ei dechrau o'r newydd.
(3) Ni fydd dim yn is-baragraff (2) yn ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw berson gael cyfle i wneud sylwadau o'r newydd neu addasu unrhyw sylwadau a wnaed eisoes neu eu tynnu yn eu hôl.
6.—(1) Rhaid ymdrin ag unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud wneud gan berson a benodwyd wrth, arfer, neu'n honni arfer, unrhyw swyddogaeth y mae'r penodiad yn ymwneud â hi i bob pwrpas fel rhywbeth sydd wedi'i wneud neu heb ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Ni fydd is-baragraff (1) uchod yn gymwys—
(a)at ddibenion cymaint o unrhyw gontract a wnaed rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r person a benodwyd ag sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth; neu
(b)at ddibenion unrhyw achos troseddol a gafodd ei ddwyn mewn perthynas ag unrhyw beth a gafodd ei wneud neu na chafodd ei wneud fel y crybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: