- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 14
1. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud asesiad priodol o'r goblygiadau i'r safle Ewropeaidd a fydd gan y prosiect sy'n cael ei ganiatáu gan y penderfyniad neu'r caniatâd yng ngoleuni amcanion cadwraeth y safle hwnnw at y diben o benderfynu a fydd y prosiect yn cael effaith andwyol ar integriti'r safle.
2. At ddibenion yr asesiad :—
(a)caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â diddordeb yn y tir perthnasol i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae'n credu'n rhesymol fod angen amdani;
(b)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a chymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wnaed ganddynt o fewn unrhyw amser rhesymol y mae'n ei bennu; ac
(c)caiff y Cynulliad Cenedlaethol , os yw o'r farn bod hynny'n briodol, ymgynghori ag aelodau o'r cyhoedd.
3. Oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn yr asesiad, yn cael ei fodloni na fydd y prosiect a gafodd ei ganiatáu drwy'r penderfyniad neu'r caniatâd yn effeithio'n andwyol ar integriti'r safle Ewropeaidd, ac nad yw paragraff (7) o reoliad 13 yn gymwys, rhaid iddo, yn achos penderfyniad, ddiddymu'r penderfyniad hwnnw ac, yn achos caniatâd, naill ai diddymu'r caniatâd hwnnw neu wneud unrhyw addasiadau i'r caniatâd y mae'n ymddangos iddo eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar integriti'r safle Ewropeaidd a rhaid iddo hysbysu ei benderfyniad i bob person sy'n ymddangos iddo fod ganddynt fuddiant yn y tir perthnasol.
4. Yn ddarostyngedig i baragraff 5 isod, ni chaiff diddymu neu addasu penderfyniad neu ganiatâd y mae gwaith wedi'i ddechrau neu wedi'i gwblhau yn unol ag ef effeithio ar y gwaith hynny sydd eisoes wedi'i wneud.
5. Os, pan fydd prosiect sy'n ddarostyngedig i benderfyniad a wnaed o dan baragraff 3 uchod wedi dechrau, y mae hi'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod angen diogelu integriti safle Ewropeaidd, drwy roi hysbysiad caiff ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n gyfrifol am wneud y gwaith hwnnw neu unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir perthnasol i wneud unrhyw waith adfer sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau a bydd hawl gan unrhyw berson sy'n gwneud gwaith i gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw, wrth wneud hawliad yn unol â pharagraff 8 isod, i adennill iawndal oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol ganddo yn y cyswllt hwnnw.
6. Bydd rheoliad 15 yn gymwys i benderfyniad a wnaed yn unol â pharagraff 3 uchod ac i hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff 5 uchod.
7. Os, yn dilyn penderfyniad o dan baragraff 3 uchod, y mae person wedi tynnu gwariant wrth wneud gwaith sydd bellach yn ddi-fudd oherwydd y diddymiad neu'r addasiad neu os yw fel arall wedi dioddef colled neu ddifrod y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i'r diddymiad neu'r addasiad, bydd hawl ganddo i gael iawndal ar ôl cyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8 isod.
8. Rhaid cyflwyno hawliad am iawndal sydd i'w dalu o dan baragraff 5 neu 7 uchod i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn chwe wythnos o hysbysu'r penderfyniad y mae'r iawndal yn cael ei dalu mewn perthynas ag ef a rhaid i unrhyw dystiolaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn yn rhesymol amdano gael ei darparu gydag ef.
9. Gellir cyfeirio unrhyw anghydfod ynghylch swm yr iawndal sy'n daladwy o dan baragraffau 5 neu 7 uchod at y Tribiwnlys Tiroedd(1) o fewn chwe blynedd o ddyddiad hysbysu'r penderfyniad y mae'r iawndal yn cael ei dalu mewn perthynas ag ef.
Gweler adran 1 o Ddeddf Tribiwnlysoedd Tiroedd 1949 (p.42).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: