- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 2(1)
1. Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys yn benodol—
(a)disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan a'r anghenion defnydd tir yn ystod y cyfnod adeiladu neu gyfnodau rhoi ar waith a chyfnodau gweithredol eraill ;
(b)disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur a nifer y deunyddiau a ddefnyddir ;
(c)amcangyfrif, yn ôl math a maint, o'r gwaddodion a'r allyriadau disgwyliedig (llygredd dŵ r, aer a phridd, sŵ n, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd, ayb) sy'n deillio o gynnal y prosiect arfaethedig.
2. Amlinelliad o'r prif opsiynau eraill a astudiwyd gan y sawl sy'n gwneud cais am ganiatâd a syniad o'r prif resymau dros y dewis a wnaed gan y ceisydd, gan gymeryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
3. Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dŵ r, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a'r rhyng-berthynas rhwng y ffactorau uchod.
4. Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd, a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byr-dymor, tymor-canolig a hir-dymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fydd yn deillio o:
(a)bodolaeth y prosiect;
(b)y defnydd o adnoddau naturiol; a
(c)allyriad llygrwyr, creu niwsans a dileu gwastraff,
a disgrifiad gan y ceisydd am ganiatâd o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.
5. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac os yw'n bosibl i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.
6. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.
7. Awgrym yngl 246 yn ag unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg arbenigedd technegol) a wynebodd y ceisydd am ganiatâd wrth gasglu'r wybodaeth angenrheidiol.
1. Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys gwybodaeth am safle, cynllun a maint y prosiect.
2. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir y bydd eu hangen er mwyn osgoi, lleihau ac, o bosibl, unioni effeithiau andwyol sylweddol.
3. Y data angenrheidiol i adnabod ac i asesu'r prif effeithiau y mae'r prosiect yn debygol o'u cael ar yr amgylchedd.
4. Amlinelliad o'r prif opsiynau eraill a astudiwyd gan y ceisydd am ganiatâd a syniad o'r prif resymau am ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
5. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 4 o'r Rhan hon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: