- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
26.—(1) Caiff unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd ei rhoi, ei hanfon neu ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn gael ei rhoi, ei hanfon , neu ei chyflwyno naill ai—
(a)drwy ei thraddodi i'r person y mae i'w rhoi , i'w hanfon neu i'w chyflwyno iddo; neu
(b)drwy ei gadael ym mhreswylfa arferol y person hwnnw neu yn ei breswylfa hysbys ddiwethaf neu, os oes cyfeiriad cyflwyno wedi'i roi gan y person hwnnw, yn y cyfeiriad hwnnw; neu
(c)drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio at y person hwnnw yn ei breswylfa arferol neu ei breswylfa hysbys ddiwethaf neu, os oes cyfeiriad cyflwyno wedi'i roi gan y person hwnnw, yn y cyfeiriad hwnnw; neu
(ch)yn achos cwmni neu gorff corfforedig, drwy ei thraddodi i'w hysgrifennydd neu i'w clerc yn eu swyddfa gofrestredig neu eu prif swyddfa neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig at yr ysgrifennydd neu'r clerc yn y swyddfa honNo.
(2) Os yw hysbysiad neu ddogfen i'w rhoi, neu i'w hanfon, neu i'w chyflwyno i unrhyw berson fel un sydd â buddiant yn y safle neu os yw'n ofynnol neu os awdurdodwyd rhoi, neu anfon, neu gyflwyno yr hysbysiad neu'r ddogfen i berchennog neu feddiannydd unrhyw safle ac nad yw'n ymarferol darganfod ar ôl ymchwiliad rhesymol enw a chyfeiriad y person y dylid ei rhoi, ei hanfon neu ei chyflwyno iddo, neu os nad yw'r safle wedi'i feddiannu, gellir rhoi, anfon neu gyflwyno'r hysbysiad neu'r ddogfen drwy ei chyfeirio at y person sydd o dan sylw yn y disgrifiad o “berchennog” neu “feddiannydd” y safle (gan eu henwi) ac—
(a)drwy ei thraddodi i ryw berson ar y safle; neu
(b)os nad oes unrhyw berson ar y safle y gellir ei thraddodi iddo, drwy ei roi, neu roi copi ohoni, yn sownd wrth ryw ran amlwg o'r safle.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: