- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
25.—(1) Gall unrhyw berson a awdurdodir yn briodol yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol gael mynd ar unrhyw dir a'i archwilio, ar adeg resymol, er mwyn—
(a)canfod a gyflawnwyd tramgwydd o dan reoliad 19, 20, 21, 23, neu 24 ar y tir hwnnw neu mewn perthynas ag ef;
(b)cyflwyno hysbysiad adfer o dan reoliad 24 neu hysbysiad stop o dan reoliad 22 mewn perthynas â'r tir hwnnw; neu
(c)arfer unrhyw swyddogaethau o dan Atodlen 3,
os oes seiliau rhesymol dros fynd arno at y diben dan sylw.
(2) Caiff unrhyw berson a awdurdodir yn briodol ac yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol ac y mae ganddo seiliau rhesymol dros amau bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 21, fynd i mewn i unrhyw safle, ac eithrio safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig, a hwnnw'n safle, neu y mae gan y person hwnnw le rhesymol i gredu ei fod yn safle, sydd wedi'i feddiannu, neu sydd ym meddiant, y person y credir ei fod yn gyfrifol am gyflawni'r tramgwydd, a chaiff archwilio a chymryd copïau o unrhyw gofnodion y mae ganddo le rhesymol i gredu eu bod yn berthnasol i'r tramgwydd sy'n cael ei amau.
(3) Os nad oes unrhyw fesurau sy'n ofynnol o dan hysbysiad adfer neu o dan hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 3 wedi'u cymryd o fewn y cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad—
(a)caiff unrhyw berson a awdurdodir yn briodol ac yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol, fynd, ar unrhyw adeg resymol, ar y tir y mae'r hysbysiad adfer yn ymwneud ag ef a chymryd y mesurau hynny, a
(b)adennill oddi wrth y person sy'n gyfrifol am y diffyg y treuliau a ddaeth i'w ran wrth wneud hynny.
(4) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson a awdurdodir o dan baragraff (1), (2) neu (3) uchod i fynd ar unrhyw dir neu safle, ddangos tystiolaeth o'u hawdurdod cyn mynd yNo.
(5) Caiff person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) uchod i fynd ar unrhyw dir neu safle ddod ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol gyda hwy.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddiannu tir neu safle y mae person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) uchod wedi mynd arno, neu sydd a'r tir neu'r safle hwnnw yn ei feddiant, roi i'r person a awdurdodwyd felly unrhyw gymorth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano er mwyn ei alluogi i arfer unrhyw bŵ er a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn.
(7) Bydd unrhyw berson sy'n mynd ati'n fwriadol i rwystro neu atal unrhyw berson sy'n arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn neu sy'n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â chais sy'n cael ei wneud o dan baragraff (6) yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: