- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “amaethyddol” yr un ystyr ag “agricultural” yn Neddf Amaethyddiaeth 1947(1);
ystyr “caniatâd” (“consent”) yw caniatâd y mae ei angen o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau hyn;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “cyrff ymgynghori” (“consultation bodies”) yw—
ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad—
sy'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan I o Atodlen 2 y mae'n rhesymol ei chael er mwyn asesu effeithiau amgylcheddol y prosiect ac y mae'n rhesymol disgwyl i'r sawl sy'n gwneud cais am ganiatâd eu casglu, gan gymeryd i ystyriaeth yn arbennig wybodaeth a dulliau cyfredol o asesu,
sy'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan II o Atodlen 2 fan lleiaf;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i addaswyd drwy'r Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
ystyr “gwybodaeth amgylcheddol ychwanegol” (“additional environmental information”) yw unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen fel rhan o'r datganiad amgylcheddol yn unol â rheoliad 10(1);
ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(4);
ystyr “y Gyfarwyddeb EIA” (“the EIA Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(5));
ystyr “partïon â buddiant” (“interested parties”) yw'r personau hynny sy'n hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 15(5) eu bod am gyflwyno sylwadau mewn perthynas ag apêl;
ystyr “penderfyniad sgrinio” (“screening decision”) yw penderfyniad sydd wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5(4) neu y bernir ei fod wedi'i wneud ganddo o dan reoliad 5(8);
ystyr “prosiect” (“project”) yw—
gwneud gwaith adeiladu neu gyfarpar neu gynlluniau eraill; neu
unrhyw ymyriaethau eraill yn y tir naturiol oddi amgylch a'r tirlun;
sy'n cynnwys y defnydd o dir heb ei drin neu ardaloedd lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys;
ystyr “prosiect perthnasol” (“relevant project”) yw prosiect y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu (neu y bernir ei fod wedi penderfynu) ei fod yn debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd;
ystyr “prosiect trawsffiniol” (“transborder project”) yw prosiect lle mae'r tir perthnasol wedi'i leoli yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr;
ystyr “y Rheoliadau Cynefinoedd” (“the Habitat Regulations”) yw Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, ac yn y blaen) 1994(6);
ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw'r safleoedd hynny a ddisgrifir ym mharagraffau (a), (b), a (d) o reoliad 10(1) o'r Rheoliadau Cynefinoedd; ac
ystyr “y tir perthnasol” (“the relevant land”) yw'r tir lle y mae'r prosiect i'w gyflawni arno neu, mewn perthynas â phrosiect sydd eisoes wedi'i gyflawni, y mae wedi'i gyflawni arNo.
(2) Oni ddarperir fel arall, bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb EIA neu yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna gwyllt yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion cyfatebol yn y Cyfarwyddebau priodol hynny.
(3) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i bob cais, hysbysiad, sylw, deisyfiad, cymeradwyaeth a chytundeb y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt fod yn ysgrifenedig.
(5) Bydd “yn ysgrifenedig” ym mharagraff (4) uchod, ac eithrio pan fydd yn gymwys i hysbysiadau o dan reoliad 22 neu 24, yn cynnwys cyfathrebu'n electronig o fewn ystyr “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(7) ar yr amod na fydd hysbysiadau y mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi i unrhyw berson yn cael eu rhoi drwy gyfathrebu'n electronig ond os yw'r derbynnydd arfaethedig wedi defnyddio'r ffurf honno ar gyfathrebu'n electronig wrth gyfathrebu â'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu os yw wedi mynegi fel arall fod y ffurf honno ar gyfathrebu'n electronig yn gyfrwng i bersonau gyfathrebu ag ef.
(6) Ceir anfon drwy'r post hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu cyflwyno, eu hanfon neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn.
1947 p.48, adran 109.
Gweler adran 128 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, adran 32 o Deddf Treftadaeth Cenedlaethol 1983 (p.47).
Gweler adran 1(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25).
OJ Rhif L206, 22/07/1992 t.7 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/62/EC, OJ Rhif L305, 8.11.97, t.42.
OJ Rhif L175, 5.7.85, t.40, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.3.97, t.5.
O.S. 1994/2716 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2803, 1996/525, 1997/3055 a 2000/1973.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: