- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
15.—(1) Caiff y personau canlynol—
(a)person sydd wedi gwneud cais am benderfyniad sgrinio mewn perthynas â phrosiect y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu ei fod yn brosiect perthnasol, neu y bernir ei fod wedi penderfynu hynny o dan reoliad 5(8);
(b)person sydd wedi gwneud cais am ganiatâd ar gyfer prosiect perthnasol y cafodd caniatâd ar ei gyfer ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau (ac eithrio'r rhai a bennir yn rheoliad 13(11)); ac
(c)person y mae hysbysiad o benderfyniad wedi'i gyflwyno iddo yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3 neu y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo yn unol â pharagraff 5 o'r Atodlen honno,
drwy hysbysiad apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn y caniatâd neu'r penderfyniad (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “y penderfyniad perthnasol”) yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i berson y mae paragraff (1) uchod yn berthnasol iddo gyflwyno hysbysiad apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn tri mis o'r dyddiad y cafodd y person hwnnw ei hysbysu o'r penderfyniad perthnasol.
(3) Rhaid i hysbysiad apêl gynnwys—
(a)disgrifiad o'r penderfyniad perthnasol;
(b)datganiad o'r rhesymau dros apelio; ac
(c)datganiad yn nodi a yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu i'w thrin ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(4) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol resymol ar ôl i hysbysiad apêl ddod i law, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno copïau o'r hysbysiad i unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori y gwêl yn dda, i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad perthnasol, ar unrhyw wladwriaeth AEE yr ymgynghorwyd â hi yn unol â pharagraff (4) o reoliad 11 ac i unrhyw awdurdod neu berson a anfonodd eu barn ymlaen i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (3)(b) o'r rheoliad hwnnw, ac i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos iddo bod ganddo ddiddordeb penodol yng nghynnwys yr apêl.
(5) Ni chaiff person y mae copi o hysbysiad apêl wedi'i gyflwyno iddo yn unol â pharagraff (4) uchod gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r apêl oni bai ei fod yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn bwriadu gwneud hynny o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad pan gafodd copi o'r hysbysiad ei gyflwyno iddo.
(6) Cyn penderfynu apêl rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu, os yw'r apelydd wedi nodi ei fod yn dymuno cael ei glywed, p'un a fydd y gwrandawiad ar ffurf ymchwiliad lleol ac, os nad yw'r apelydd wedi nodi ei fod yn dymuno cael ei glywed, p'un a gaiff yr apêl ei benderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig, gwandawiad neu ymchwiliad lleol ac yn y naill achos neu'r llall rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd am ei benderfyniad ac unrhyw bersonau sydd wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (5) eu bod yn dymuno cyflwyno sylwadau felly.
(7) Wrth benderfynu'r apêl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu neu wrthod yr apêl, neu wrth-droi unrhyw ran o'r penderfyniad perthnasol, a chaiff ymdrin â'r apêl yn yr un modd â phetai'n benderfyniad tro cyntaf.
(8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi person i arfer ar ei ran, gyda thaliad neu hebddo, ei swyddogaethau o benderfynu apêl neu unrhyw fater sy'n rhan o'r apêl a bydd i Atodlen (4) effaith mewn perthynas â phenodiad o'r fath.
(9) Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1)(ymchwiliadau lleol, tystiolaeth a chostau) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol sy'n cael eu cynnal yn unol â rheoliad 17 isod yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno, ond fel petai'r cyfeiriadau yno at y Gweinidog ac at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.
(10) Mae adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2) (gorchmynion ynghylch costau pan nad oes unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol o dan reoliad 17 isod fel y mae'n gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honNo.
(11) Ac eithrio fel y darperir fel arall gan y rheoliad hwn neu reoliad 16 neu 17 isod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y weithdrefn (a allai gynnwys darpariaeth ar gyfer ymweliadau safle) ar gyfer penderfynu'r apêl.
(12) Rhaid i'r nifer o gopïau a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyd-fynd ag unrhyw sylwadau, datganiadau neu ddogfennau eraill sydd i'w cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 16 neu 17 isod.
1972 p.70; diwygiwyd adran 250(4) gan Ran III o Atodlen 12 i Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63).
1990 p.8; mewnosodwyd adran 322A gan adran 30(1) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: