- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, pan ddaw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd o dan reoliad 9(3) i ben, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried a ddylai roi caniatâd i'r prosiect ai peidio, yng ngoleuni'r datganiad amgylcheddol ac unrhyw sylwadau y mae wedi'u derbyn yn unol â pharagraff (3) o reoliad 9, paragraff (2) neu (3) o reoliad 10 ac, ynghylch prosiectau y mae rheoliad 11 yn gymwys iddynt, yng ngoleuni ymgynghori â'r Wladwriaeth AEE berthnasol ac unrhyw farn sy'n dod i law yn unol â pharagraff (3)(b) o'r rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â dod i benderfyniad o dan baragraff (1) cyn y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—
(a)y dyddiad y daw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddir o dan reoliad 9(3)(b) i ben;
(b)y dyddiad y daw'r cyfnod o 28 diwrnod ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol i ben, sef naill ai'r dyddiad yr anfonwyd unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol i unrhyw gyrff ymgynghori neu'r dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdano yn unol â rheoliad 10(3)n; ac
(c)y dyddiad y daw unrhyw gyfnod y cytunwyd arno rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r Wladwriaeth AEE berthnasol yn unol â rheoliad 11(4)(b) i ben.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi caniatâd ar gyfer prosiect a fyddai'n golygu gwneud unrhyw beth a fyddai'n anghyfreithlon o dan reoliad 39, 41 neu 43 o'r Rheoliadau Cynefinoedd (a rhaid i hynny beidio â chynnwys unrhyw beth y cafodd trwydded ei rhoi ar ei gyfer o dan reoliad 44 o'r Rheoliadau Cynefinoedd).
(4) Bydd paragraffau (5) a (9) isod yn gymwys i benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch a ddylai roi caniatâd ai peidio ar gyfer prosiect sy'n debyg o gael effaith sylweddol ar safle Ewopeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill) (sef prosiect y cyfeirir ato yn y paragraffau hyn fel “y prosiect”.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8) isod, ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol roi caniatâd ar gyfer prosiect oni bai ei fod wedi ystyried y goblygiadau i'r safle Ewropeaidd a'i fod yn fodlon na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar integriti'r safle hwnnw.
(6) Rhaid i'r ystyriaeth a roddir o dan baragraff (5) uchod gynnwys asesiad priodol o oblygiadau'r prosiect i'r safle Ewropeaidd gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle.
(7) Os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni, gan nad oes unrhyw atebion eraill, fod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol sef er budd cyhoeddus tra phwysig (a all, yn ddarostyngedig i baragraff (8) isod, fod o natur cymdeithasol neu economaidd), caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi caniatâd ar gyfer y prosiect er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.
(8) Pan fo math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth ar y safle Ewropeaidd, rhaid i'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) fod naill ai—
(a) yn rhesymau sy'n ymwneud â iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o'r pwys mwyaf i'r amgylchedd, neu
(b)yn rhesymau eraill sydd ym marn y Comisiwn Ewropeaidd yn achos y safle dan sylw yn rhesymau hanfodol, sef bod hyn er budd cyhoeddus tra phwysig.
(9) Os yw caniatâd yn cael ei roi yn unol â pharagraff (7) ar gyfer prosiect, er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i safle Ewropeaidd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod unrhyw fesurau iawndal angenrheidiol yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000 (fel y caiff ei ddiffinio yn y Rheoliadau Cynefinoedd) yn cael ei ddiogelu.
(10) Rhaid i unrhyw ganiatâd a roddir yn unol â pharagraff (1) uchod fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n ofynnol o dan baragraff (11) isod ac i unrhyw amodau ychwanegol a wêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.
(11) Rhaid i bob caniatâd gael ei roi yn ddarostyngedig i amodau i'r perwyl
(a)y daw'r caniatâd i ben os nad yw'r prosiect wedi dechrau (trwy gynnal gweithred o bwys) o fewn blwyddyn o'r dyddiad pan gafodd y caniatâd ei roi;
(b)os na chafodd y prosiect ei gwblhau (sydd, yn y rheoliad hwn, yn golygu bod y gwaith a ganiatawyd gan y caniatâd a roddwyd wedi'i wneud a'i gwblhau a bod pob newid yn nefnydd neu yn lefel y defnydd o'r tir perthnasol a ganiatawyd gan y caniatâd wedi'i roi ar waith) o fewn tair blynedd o'r dyddiad pan roddwyd y caniatâd, y daw'r caniatâd i ben ac fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud hi'n ofynnol i weithgareddau neu'r defnydd a wnaed yn unol â'r caniatâd i stopio hyd nes y bydd wedi rhoi caniatâd pellach yn unol â pharagraff (ch);
(c)mai dim ond fel y disgrifiwyd yn y cais am ganiatâd yr awdurdodir y prosiect gan y caniatâd, yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â chais gan y ceisydd, a bydd angen caniatâd pellach yn unol â pharagraff (ch) os bydd unrhyw newid o bwys yn y gweithgareddau neu'r defnydd a awdurdodwyd.
(ch)y bydd ceisiadau am ganiatâd pellach o dan amodau ym mharagraffau (b) neu (c) uchod yn ddarostyngedig i unrhyw rai o ofynion y Rheoliadau hyn ag y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu gweld yn dda.
(12) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu a fydd yn rhoi caniatâd ai peidio rhaid iddo—
(a)hysbysu'r ceisydd, y cyrff ymgynghori hynny yr anfonwyd copïau o'r cais am ganiatâd atynt yn unol â rheoliad 9(3)(a), unrhyw Wladwriaeth AEE yr ymgynghorwyd â hi yn unol â pharagraff (4) o reoliad 11 ac unrhyw awdurdod neu berson a anfonodd eu barn ymlaen i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (3)(b) o'r rheoliad hwnnw o'i benderfyniad ynghyd â'r rhesymau a'r ystyriaethau llawn sy'n sail i'r penderfyniad;
(b)hysbysu'r cyhoedd am y penderfyniad drwy gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal y mae'r tir perthnasol wedi'i leoli ynddi neu drwy unrhyw ddulliau eraill y mae'n credu eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau; ac
(c)sicrhau bod datganiad sy'n cynnwys y canlynol ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd:
(i)cynnwys y penderfyniad;
(ii)y rhesymau a'r ystyriaethau llawn y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt; a
(iii)disgrifiad, lle bo hynny'n berthnasol, o'r prif fesurau y mae angen eu cymryd er mwyn osgoi, lleihau neu wrthbwyso effeithiau andwyol y prosiect.
(13) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu rhoi caniatâd ar gyfer prosiect—
(a)sy'n cynnwys cyflawni gweithrediadau sy'n debyg o niweidio unrhyw rai o'r fflora, y ffawna neu'r nodweddion daearegol neu ffisiograffyddol y mae safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (fel y diffinnir “site of special scientific interest” gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1)) o ddiddordeb arbennig o'u herwydd;
(b)y mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cynghori peidio â'i ganiatáu neu wedi cynghori mai dim ond o dan amodau penodol y dylid ei ganiatáu; ac
(c)nad yw penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn y cyngor yn is-baragraff (b) uchod mewn perthynas ag ef,
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad i Gyngor Cefn Gwlad Cymru o'i benderfyniad, gan gynnwys datganiad o'r ffordd (os o gwbl) y mae wedi cymryd i ystyriaeth gyngor Cyngor Cefn Gwlad Cymru, a rhaid iddo osod amod ar y caniatâd i atal y prosiect rhag cael ei ddechrau cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod gan ddechrau o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw.
1981 p. 69 (mewnosodwyd y diffiniad yn adran 52(1) gan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (2000 p.37)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: