- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
11.—(1) Cyn gynted â phosibl ar ôl i gais am ganiatâd ddod i law rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol fynd ati i ystyried a fyddai'r prosiect perthnasol yn debygol hefyd o effeithio'n sylweddol ar amgylchedd Gwladwriaeth AEE arall ac, os yw o'r farn bod hynny'n debygol, neu lle bo Gwladwriaeth AEE y mae'r prosiect yn debygol o effeithio'n sylweddol arni yn gwneud cais i'r perwyl hwnnw, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon i'r Wladwriaeth AEE honno:
(a)manylion natur a lleoliad y prosiect perthnasol ac unrhyw wybodaeth sydd ganddo ynghylch yr effaith debygol ar yr Aelod-wladwriaeth honno; a
(b)arwydd ynghylch a yw'n tybio y bydd caniatâd yn cael ei roi a natur unrhyw ganiatâd o'r fath,
a gofyn i'r Wladwriaeth AEE nodi o fewn amser rhesymol a yw'n dymuno cymryd rhan yn yr weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar eu cyfer.
(2) Os bydd yr Wladwriaeth AEE yn nodi ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r cais am ganiatâd (gan gynnwys y datganiad amgylcheddol) ynghyd ag unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol a rhaid iddo roi gwybodaeth berthnasol iddi ynglŷn â'r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd—
(a)trefnu bod y manylion a'r wybodaeth y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) uchod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol, i'r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o'r Gyfarwyddeb EIA a'r cyhoedd o dan sylw yn nhiriogaeth y Wladwriaeth AEE y mae hyn yn debyg o effeithio'n sylweddol arni; a
(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a'r cyhoedd o dan sylw yn cael cyfle, cyn bod caniatâd ar gyfer y prosiect yn cael ei roi, i anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn amser rhesymol, eu barn ar yr wybodaeth a roddwyd.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb EIA—
(a)dechrau ymgynghori â'r Wladwriaeth AEE o dan sylw ynghylch, ymhlith pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y prosiect ar amgylchedd y Wladwriaeth honno a'r mesurau a ragwelir y bydd rhaid eu cymryd i leihau neu ddileu effeithiau o'r fath; a
(b)ceisio cytuno â'r Wladwriaeth AEE arall ar gyfnod amser rhesymol ar gyfer hyd y cyfnod ymgynghori (gan gynnwys ystyried unrhyw farnau a ddaeth i law yn unol â pharagraff (3)(b) uchod).
(5) Pan fydd gwybodaeth y trefnwyd iddi fod ar gael yn unol ag Erthyglau 7(1) a (2) o'r Gyfarwyddeb EIA (sy'n ymwneud â phrosiectau yn un Wladwriaeth AEE sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar amgylchedd Gwladwriaeth AEE arall) i law'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid iddo—
(a)trefnu i'r wybodaeth honno fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol, i'r cyrff ymgynghori hynny, ac i unrhyw aelodau o'r cyhoedd sydd, yn ei farn ef, yn debyg o fod â diddordeb yn y prosiect; a
(b)sirchau bod y cyrff ymgynghori a'r aelodau o'r cyhoedd y rhoddwyd gwybodaeth iddynt yn unol ag is-baragraff (a) uchod yn cael cyfle yn ystod y cyfnod y cytunwyd arno rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r Wladwriaeth AEE berthnasol yn unol â pharagraff 6(b) isod, i anfon i'r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol, o fewn cyfnod rhesymol, eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd, yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb EIA,—
(a)ymgynghori â Gwladwriaeth AEE y cafwyd gwybodaeth oddi wrthi fel a grybwyllwyd ym mharagraff (5) uchod a honno'n wybodaeth sy'n ymwneud, ymysg pethau eraill, ag effeithiau sylweddol posibl y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a'r mesurau y rhagwelir y bydd eu hangen i leihau neu ddileu effeithiau o'r fath; a
(b)ceisio cytuno â'r Wladwriaeth AEE honno ar gyfnod rhesymol, cyn i ganiatâd gael ei roi ar gyfer y prosiect, pan gaiff cyrff ymgynghori ac aelodau o'r cyhoedd y cyfeirir atynt ym mharagraff (5)(b) uchod anfon eu barn i'r awdurdod cymwys yn yr Wladwriaeth AEE honno yn unol â'r paragraff hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: