- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 14 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995 (“Gorchymyn 1995”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod drefnu bod swm o sicredd credyd ar gael ar gyfer rhwymedigaethau cwmnïau sydd, at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”), yn cael eu trin fel cwmnïau a reoleiddir gan yr awdurdod. Mae erthygl 15(1) yn addasu Rhan IV drwy ganiatáu i awdurdod ymdrin â chymeradwyaeth credyd sylfaenol fel pe bai wedi'i chynyddu â'r swm y mae'r cwmnïau a reoleiddir ganddo'n lleihau eu rhwymedigaethau. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 14 o Orchymyn 1995 er mwyn darparu mecanwaith ychwanegol y gall awdurdod ddarparu'r sicredd credyd hwnnw drwyddo.
Mae'r diwygiadau, a nodir yn erthygl 2(2), yn caniatáu i awdurdod ddynodi swm yn ddarpariaeth sicredd credyd, ac i ymdrin â'r swm fel sicredd credyd, a hwnnw'n unrhyw swm yr ymdriniwyd ag ef fel pe bai wedi'i ychwanegu at gymeradwyaeth credyd sylfaenol yr awdurdod yn unol ag erthygl 15 o Orchymyn 1995, lle na wnaed unrhyw benderfyniad mewn perthynas â hi gan awdurdod o dan adran 56(1) o Ddeddf 1989 (defnyddio cymeradwyaethau credyd). Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio erthygl 14(2) a 15(1) o Orchymyn 1995 er mwyn ei gwneud yn glir nad yw'r erthyglau hynny yn cymhwyso'r cyfan o Ran IV i gwmnïau o'r fath.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud diwygiadau sy'n ymwneud ag erthygl 16(1) o Orchymyn 1995. Mae'r diwygiadau'n caniatáu i awdurdod anwybyddu, o ran cwmni sy'n dod yn gwmni rheoleiddiedig mewn perthynas â'r awdurdod—
(a)gwariant a delir gan y cwmni, ar ôl iddo ddod yn gwmni rheoleiddiedig, o arian a gronnwyd cyn iddo ddod yn gwmni rheoleiddiedig, a
(b)rhwymedigaethau cwmni rheoleiddiedig o dan drafodyn credyd, p'un a ymrwymwyd iddo cyn neu ar ôl i'r cwmni ddod yn gwmni rheoleiddiedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: