xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU
Wedi'u gwneud
31 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym
14 Awst 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(5) o Ddeddf Trafnidiaeth 2002(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 14 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae gan “gwasanaeth lleol” yr un ystyr ag sydd gan “local service” yn adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985(2);
ystyr “gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr” (“public passenger transport services”) yw'r holl wasanaethau hynny y mae aelodau o'r cyhoedd yn dibynnu arnynt er mwyn symud o le i le, pan nad ydynt yn dibynnu ar eu cyfleusterau preifat eu hunain;
mae gan “man aros” yr un ystyr â “stopping place” yn adran 137(1) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985;
mae gan “person anabl” yr un ystyr â “disabled person” yn adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(3).
3.—(1) Mae gwasanaeth bysiau yn wasanaeth bysiau cymwys at ddibenion adran 152 Deddf Trafnidiaeth 2000 (grantiau i weithredwyr gwasanaethau bysiau) os yw'n perthyn i un o'r dosbarthau canlynol—
(a)gwasanaeth lleol sy'n cael ei ddarparu neu'i sicrhau—
(i)gan awdurdod addysg lleol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 509 o Ddeddf Addysg 1996(4), neu
(ii)ar gyfer personau sydd wedi cyrraedd trigain oed neu bersonau anabl,
ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni mewn perthynas â hwy;
(b)gwasanaeth lleol, nad yw'n wasanaeth a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), ac sy'n defnyddio cerbyd a addaswyd i gario mwy nag wyth o deithwyr (neu gerbyd llai, ond dim ond os yw'r gwasanaethau yn cael eu gweithredu yn unol ag amserlen) ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (3) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef;
(c)gwasanaeth bysiau sy'n cael ei ddarparu gan weithredwr y mae trwydded o dan adran 19 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 wedi ei rhoi iddo ac sy'n dal mewn grym, a hwnnw'n wasanaeth y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (4) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef.
(2) Yr amodau y mae paragraff (1)(a) yn cyfeirio atynt yw—
(a)bod seddau ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod yr aelodau hynny yn defnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd;
(b)bod y mannau aros (ac eithrio'r mannau y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n bennaf iddynt neu ohonynt) wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;
(c)bod yr aelodau hynny o'r cyhoedd yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(ch)bod yr aelodau hynny yn gallu medru talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth; a
(d)bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(3) Yr amodau y mae paragraff (1)(b) yn cyfeirio atynt yw—
(a)bod o leiaf hanner y lle ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;
(b)bod y mannau aros wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;
(c)bod yr aelodau hynny yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(ch)bod aelodau felly o'r cyhoedd yn medru talu'r tâl tocyn mewn man ac mewn ffordd sydd ddim yn eu rhwystro'n fwriadol rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(d)nad oes ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth unrhyw arwydd na disgrifiad sydd wedi'i fwriadu neu sy'n debygol o roi'r argraff bod y gwasanaeth ond ar gael ar gyfer categori penodol o berson; ac
(dd)bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(4) Yr amodau y mae paragraff (1)(c) yn cyfeirio atynt yw bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio yn gyfangwbl neu yn bennaf gan—
(a)personau sydd wedi cyrraedd 60 mlwydd oed;
(b)personau anabl;
(c)personau sy'n cael cymhorthdal incwm o dan adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(5);
(ch)personau sy'n cael lwfans ceisio gwaith o dan Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(6);
(d)pobl sydd yn dioddef rhywfaint o allgáu cymdeithasol oherwydd diweithdra, tlodi neu ffactorau economaidd eraill, digartrefedd, pellenigrwydd daearyddol, afiechyd, neu arferion crefyddol neu ddiwylliannol;
(dd)personau sy'n credu na fyddai'n ddiogel iddynt ddefnyddio unrhyw wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr; neu
(e)gofalwyr neu pobl o dan 16 mlwydd oed sy'n teithio gydag unrhyw rai o'r blaenorol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Gorffennaf 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio “eligible bus services” (“gwasanaethau bysiau cymwys”) at ddibenion adran 154 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (“Deddf 2000”). O dan yr adran honno gellir rhoi grantiau i weithredwyr gwasanaethau bysiau cymwys tuag at eu costau wrth weithredu'r gwasanaeth. Mae'r Rheoliadau hyn yn ail-ddeddfu'r rheolau cymhwyster ar gyfer ad-daliadau treth danwydd o dan adran 92 o Ddeddf Cyllid 1992, sy'n cael ei disodli gan adran 154 o Ddeddf 2000, ond hefyd (rheoliad 3(1)(c) a (4)) yn estyn y nifer o wasanaethau cymwys i gynnwys y rhai sy'n cael eu darparu gan ystod o gyrff trafnidiaeth cymunedol, nad ydynt yn gwneud elw, nad yw eu gwasanaethau yn dilyn llwybr neu amserlen sefydlog ac sydd i'w defnyddio'n bennaf gan gategorïau penodol o deithwyr, yn hytrach na chan y cyhoedd yn gyffredinol.