Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliad 2(8)

ATODLEN

rheoliad 5A

ATODLEN 3ASYSTEMAU DI-GAWELL

1.  Rhaid i bob system ddi-gawell sy'n cael ei hadeiladu o'r newydd neu ei hail-adeiladu ar gyfer cadw ieir dodwy a phob system gynhyrchu o'r fath y dechreuir ei defnyddio am y tro cyntaf gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.

2.  O 1 Ionawr 2007 ymlaen, rhaid i bob system ddi-gawell ar gyfer cadw ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.

3.  Rhaid i bob system gael ei chyfarparu mewn ffordd sy'n golygu bod gan bob iâr ddodwy:

(a)naill ai bwydwr llinol sy'n rhoi o leiaf 10 cm i bob iâr neu fwydwr crwn sy'n rhoi o leiaf 4 cm i bob iâr;

(b)naill ai cafn yfed parhaol sy'n rhoi 2.5 cm i bob iâr neu gafn yfed crwn sy'n rhoi 1 cm i bob iâr, a hefyd, os defnyddir pigynnau dŵr neu gwpanau, rhaid cael o leiaf un pigyn dŵ r neu gwpan i bob 10 iâr. Os yw'r mannau yfed wedi'u plymio, rhaid cael o leiaf ddau gwpan neu ddau bigyn dŵ r o fewn cyrraedd i bob iâr;

(c)o leiaf un nyth i bob saith iâr. Os defnyddir nythod grŵp, rhaid cael o leiaf 1 m2 o le nythu ar gyfer uchafswm o 120 o ieir;

(ch)clwydi, heb ymylon miniog ac sy'n rhoi o leiaf 15 cm i bob iâr. Rhaid peidio â gosod clwydi uwchben y llaesodr a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y clwydi fod yn 30 cm o leiaf a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y glwyd a'r wal fod yn 20 cm o leiaf; a

(d)o leiaf 250 cm2 o fan o dan laesodr i bob iâr, a'r llaesodr dros o leiaf un traean o arwynebedd y llawr.

4.  Rhaid adeiladu lloriau gosodiadau fel y gallant gynnal pob un o grafangau'r iâr sy'n wynebu ymlaen ar bob troed.

5.  Yn ychwanegol at ofynion paragraffau 2 a 3—

(a)os defnyddir systemau magu lle gall yr ieir dodwy symud yn rhydd rhwng gwahanol lefelau—

(i)rhaid peidio â chael mwy na phedair lefel;

(ii)rhaid i'r uchder rhwng y lefelau fod yn 45 cm o leiaf;

(iii)rhaid i'r cyfleusterau yfed a bwydo gael eu dosbarthu mewn ffordd sy'n golygu bod cyfle cyfartal i bob iâr fynd atynt; a

(iv)rhaid i'r lefelau gael eu trefnu i atal dom rhag cwympo ar y lefelau islaw.

(b)os gall ieir dodwy fynd i libart agored:

(i)rhaid cael sawl twll yn arwain yn uniongyrchol i'r fan allanol, o leiaf 35 cm o uchder a 40 cm o led ac yn ymestyn am hyd cyfan yr adeilad; a beth bynnag rhaid sicrhau bod agoriad sy'n gyfanswm o 2 m ar gael am bob grŵp o 1,000 o ieir; a

(ii)rhaid i libartau agored fod o arwynebedd sy'n briodol ar gyfer y dwysedd stocio a natur y tir, er mwyn atal unrhyw halogi, a bod wedi'u cyfarparu â chysgod rhag tywydd drwg ac ysglyfaethwyr ac, os oes eu hangen, â chafnau yfed priodol.

6.  Yn ddarostyngedig i baragraff 7, rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na naw iâr ddodwy i bob metr sgwâr o le y gellir ei ddefnyddio.

7.  Os oedd y sefydliad ar 3 Awst 1999 yn defnyddio system yr oedd y lle y gellid ei ddefnyddio yn cyfateb i'r arwynebedd tir a oedd ar gael, a bod y sefydliad yn dal i ddefnyddio'r system hon cyn 6 Awst 2002, awdurdodir dwysedd stocio o 12 iâr i bob metr sgwâr tan 31 Rhagfyr 2011.

ATODLEN 3BSYSTEMAU CEWYLL CONFENSIYNOL

1.  O 1 Ionawr 2003 rhaid i bob system gewyll ar gyfer magu ieir dodwy nad ydynt wedi'u gwella gydymffurfio â'r gofynion canlynol:

(a)rhaid darparu o leiaf 550 cm2 i bob iâr o arwynebedd cawell, wedi'i fesur mewn plân llorweddol, a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad, yn benodol heb gynnwys platiau ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff sy'n tueddu i gyfyngu ar yr arwynebedd sydd ar gael, ar gyfer pob iâr ddodwy, ond os yw'r plât ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff wedi'i osod er mwyn peidio â chyfyngu ar yr arwynebedd sydd ar gael i'r ieir ei ddefnyddio, yna gall yr arwynebedd hwnnw gael ei gynnwys yn y mesuriad;

(b)rhaid darparu cafn bwydo a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad. O ran hyd, rhaid iddo fod yn 10 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell o leiaf;

(c)oni bai bod pigynnau dŵ r neu gwpanau dŵ r wedi'u darparu, rhaid i bob cawell gael sianel yfed barhaol yr un mor hir â'r cafn bwydo y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) uchod. Os yw'r mannau yfed wedi'u plymio, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dŵr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob cawell;

(ch)rhaid i'r cewyll fod yn 40 cm o leiaf o uchder dros o leiaf 65% o arwynebedd y cawell ac nid llai na 35 cm ar unrhyw bwynt (ceir yr uchder drwy gyfrwng llinell fertigol o'r llawr i'r pwynt agosaf yn y to a cheir yr arwynebedd drwy luosi 550cm2 â nifer yr adar a gedwir yn y cawell);

(d)rhaid adeiladu lloriau'r cewyll fel y gallant gynnal pob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed i bob iâr. Rhaid i ogwyddiad y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd os yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryal ac 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr;

(dd)rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.

2.  Gwaherddir magu ieir dodwy yn y cewyll y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon o 1 Ionawr 2012 ymlaen.

3.  Ni ellir adeiladu cewyll o'r math y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon, na dechrau eu defnyddio am y tro cyntaf, o 1 Ionawr 2003 ymlaen.

ATODLEN 3CSYSTEMAU CEWYLL GWELL

1.  Rhaid i bob system gewyll ar gyfer magu ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon o 1 Ionawr 2012 ymlaen.

2.  Rhaid i bob system gewyll sy'n cael ei hadeiladu neu y dechreuir ei defnyddio er mwyn magu ieir dodwy ar 1 Ionawr 2003 neu ar ôl hynny gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.

3.  Rhaid i ieir dodwy gael—

(a)o leiaf 750 cm2 o arwynebedd cawell i bob iâr, y mae'n rhaid i 600 cm2 ohono allu cael ei ddefnyddio; rhaid i uchder y cawell heblaw'r uchder uwchben y lle y gellir ei ddefnyddio fod yn 20 cm o leiaf ym mhob pwynt ac ni all unrhyw gawell fod yn llai na 2000 cm2 o gyfanswm arwynebedd;

(b)nyth;

(c)llaesodr sy'n golygu ei bod yn bosibl pigo a chrafu;

(ch)clwydi priodol sy'n caniatáu o leiaf 15 cm i bob iâr.

4.  Rhaid darparu cafn bwydo a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad. O ran hyd, rhaid iddo fod yn 12 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell o leiaf.

5.  Rhaid i bob cawell gael system yfed sy'n briodol ar gyfer maint y grŵp; os darperir pigynnau dŵr, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dŵ r neu ddau gwpan o dŵ r fewn cyrraedd i bob iâr.

6.  Er mwyn hwyluso archwilio, gosod a diboblogi'r ieir rhaid cael ale o 90 cm o led o leiaf rhwng haenau o gewyll a rhaid caniatáu 35 cm o leiaf rhwng llawr yr adeilad a haen isaf y cewyll.

7.  Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.

ATODLEN 3ChAMODAU SY'N GYMWYS I BOB SYSTEM

1.  Rhaid i bob iâr gael ei harchwilio gan y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol amdanynt o leiaf unwaith y dydd.

2.  Rhaid cadw lefel y sŵ n i'r lleiaf posibl. Rhaid osgoi sŵ n cyson neu sydyn. Rhaid i wyntyllau awyru, peiriannau bwydo neu offer eraill gael eu hadeiladu, eu lleoli, eu gweithredu a'u cynnal mewn ffordd sy'n golygu eu bod yn cadw cyn lleied â phosibl o sŵ n.

3.  Rhaid cael lefelau digonol o olau ym mhob adeilad i ganiatáu i bob iâr weld ei gilydd a chael ei gweld yn glir, ymchwilio i'w hamgylchoedd yn weledol a dangos lefelau gweithgarwch arferol. Os oes goleuni naturiol, rhaid trefnu'r agoriadau goleuni mewn ffordd sy'n golygu bod y goleuni'n cael ei wasgaru'n gyfartal yn y llety.

Ar ôl y dyddiau cyntaf o ymgyfarwyddo, rhaid i'r gyfundrefn oleuo fod yn gyfryw ag i atal problemau iechyd ac ymddygiad. Gan hynny, rhaid iddi ddilyn rhythm 24-awr a chynnwys cyfnod di-dor digonol o dywyllwch sy'n para tua un rhan o dair o'r diwrnod, er mwyn i'r ieir gael gorffwys ac i osgoi problemau megis gostwng imwnedd ac anhwylderau ar y llygaid. Dylid darparu gwyll digon hir, pan gaiff y golau ei bylu, er mwyn i'r ieir setlo heb gael eu haflonyddu na'u hanafu.

4.  Rhaid i'r rhannau hynny o adeiladau, offer neu lestri sydd mewn cysylltiad â'r ieir gael eu glanhau a'u diheintio'n rheolaidd a phob tro y ceir diboblogi beth bynnag a chyn dod â llwyth newydd o ieir i mewn. Tra bydd ieir yn y cewyll, rhaid i'r arwynebau a'r holl offer gael eu cadw'n foddhaol o lân. Rhaid i dom gael ei symud ymaith mor aml ag y bydd angen a rhaid symud ieir marw oddi yno bob dydd.

5.  Rhaid cyfarparu'r cewyll yn addas i atal yr ieir rhag dianc.

6.  Rhaid i lety sy'n cynnwys dwy neu fwy o haenau o gewyll gael dyfeisiau neu rhaid cymryd mesurau priodol i ganiatáu i bob haen gael ei harchwilio heb anhawster ac i hwyluso symud ieir oddi yNo.

7.  Rhaid i ddyluniad a dimensiynau drws y cawell fod yn gyfryw ag i iâr lawndwf gael ei thynnu oddi yno heb ddioddef yn ddiangen a heb ei niweidio.

8.  Yn ddarostyngedig i baragraff 9, ni chaiff unrhyw berson lurgunio unrhyw iâr ddodwy.

9.  Er mwyn osgoi plubigo a chanibaliaeth, hyd at 31 Rhagfyr 2010 caniateir tocio pigau adar yn yr holl systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C ar yr amod ei fod yn cael ei wneud—

(a)gan bersonau dros 18 oed;

(b)i ieir sy'n llai na 10 diwrnod oed y bwriedir hwy ar gyfer dodwy; ac

(c)yn unol â Gorchymyn Llawfeddygaeth Filfeddygol (Esemptiadau) 1962(1)..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources