Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002

Arbedion

19.—(1Ac eithrio'r diwygiadau a wnaed i'r prif Reoliadau gan ddarpariaethau'r rheoliadau a restrwyd ym mharagraff (2) (“y diwygiadau rhestredig”), pan trwy rinwedd rheoliad 6(3) o Reoliadau Diddymu'r Tribwinlys bod achos yn parhau ger bron y Tribwinlys ar ôl 31 Gorffennaf 2002, ni fydd y diwygiadau a restrir yn gymwys i feddyg mewn perthynas â'i achos hyd nes y bydd yr achos wedi dirwyn i ben a bod yr amser ar gyfer gwneud apêl wedi dod i ben, neu bod unrhyw apêl wedi'i dynnu'n ôl, neu bod y meddyg wedi disbyddu'i hawl i apelio, fel y digwydd.

(2At ddibenion paragraff (1) y diwygiadau rhestredig a restrir yw'r rhai a wnaed gan—

(a)rheoliad 2(1)(c);

(b)rheoliad 4(c);

(c)rheoliad 3;

(ch)rheoliad 15(a)(ii), (d) ac (e);

(d)rheoliad 16.