xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
19.—(1) Ac eithrio'r diwygiadau a wnaed i'r prif Reoliadau gan ddarpariaethau'r rheoliadau a restrwyd ym mharagraff (2) (“y diwygiadau rhestredig”), pan trwy rinwedd rheoliad 6(3) o Reoliadau Diddymu'r Tribwinlys bod achos yn parhau ger bron y Tribwinlys ar ôl 31 Gorffennaf 2002, ni fydd y diwygiadau a restrir yn gymwys i feddyg mewn perthynas â'i achos hyd nes y bydd yr achos wedi dirwyn i ben a bod yr amser ar gyfer gwneud apêl wedi dod i ben, neu bod unrhyw apêl wedi'i dynnu'n ôl, neu bod y meddyg wedi disbyddu'i hawl i apelio, fel y digwydd.
(2) At ddibenion paragraff (1) y diwygiadau rhestredig a restrir yw'r rhai a wnaed gan—
(a)rheoliad 2(1)(c);
(b)rheoliad 4(c);
(c)rheoliad 3;
(ch)rheoliad 15(a)(ii), (d) ac (e);
(d)rheoliad 16.