Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”), sy'n rheoleiddio'r amodau y mae meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“Deddf 1977”) er mwyn gweithredu rhai darpariaethau penodol o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

Mae rheoliad 2 yn ychwanegu rhai diffiniadau ychwanegol at reoliad 2 y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau er mwyn rhwystro meddyg rhag tynnu ei enw oddi ar y rhestrau meddygol, heb ganiatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pan fo'r Awdurdod Iechyd yn ymchwilio i weld p'un a oes rhesymau dros dynnu neu atal dros dro feddyg o'r rhestr feddygol, neu p'un a ydyw'r meddyg wedi methu â chydymffurfio ag amod a osodwyd ar gynnwys y meddyg fel bod modd cyfiawnhau tynnu'r meddyg oddi ar y rhestr.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau fel nad yw'n orfodol i dynnu enw unrhyw feddyg a geir yn euog o lofruddiaeth neu dramgwydd droseddol ac sydd wedi'i ddedfrydu am 6 mis. Mae'r rhesymau hyn yn cael eu symud i reoliad 7C newydd o'r prif Reoliadau, gyda'r newid bod raid i'r ddedfryd bellach fod yn ddedfryd o dros 6 mis, a rhestrir rhesymau eraill. Gwneir mân newidiadau eraill i reoliad 7.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau 7A i 7H newydd sy'n rhoi effaith i bwerau sydd wedi'u rhoi yn adrannau 49F i 49R o Ddeddf 1977 (a fewnosodwyd gan adran 25 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001)—

Mae rheoliad 7A yn ymestyn y diffniad o “health scheme” yn adran 49(8) o Ddeddf 1977;

Mae rheoliad 7B yn pennu'r meini prawf y mae'n rhaid i'r Awdurdod Iechyd eu hystyried pan fo'n arfer ei bwerau dewisol i dynnu enw o dan adran 49F o Ddeddf 1977;

Mae rheoliad 7C yn pennu'r rhesymau sy'n galluogi Awdurdod Iechyd i dynnu'n orfodol enw meddyg oddi ar y rhestr feddygol;

Mae rheoliad 7D yn gwneud darpariaethau i Awdurdod Iechyd hysbysu personau am wybodaeth benodol sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau i dynnu neu atal dros dro feddyg oddi ar y rhestr feddygol;

Mae rheoliad 7E yn darparu'r gweithdrefnau y mae angen i Awdurdodau Iechyd eu dilyn wrth dynnu meddyg oddi ar y rhestr feddygol;

Mae rheoliad 7F yn darparu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd wrth atal dros dro feddyg o'r rhestr feddygol;

Mae rheoliad 7G yn darparu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd pan fo'r Awdurdod Iechyd yn penderfynu adolygu penderfyniad i gynnwys yn amodol, tynnu'n amodol, neu atal dros dro feddyg o'r rhestr feddygol;

Mae rheoliad 7H yn diwygio'r cyfnod statudol ar gyfer adolygu a bennir yn adran 49N o Ddeddf 1977 mewn amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 18E y prif Reoliadau er mwyn cyflwyno meini prawf ychwanegol ar gyfer cymeradwyo ac enwebu meddygon i'r rhestrau meddygol.

Mae rheoliad 7 yn ychwanegu rheoliadau 18EE ac 18EF newydd at y prif Reoliadau. Mae rheoliad 18EE yn pennu'r rhesymau y gall neu y mae'n rhaid i Awdurdod Iechyd wrthod cymeradwyo neu enwebu meddyg i'r rhestrau meddygol, a'r meini prawf y mae'n rhaid i'r Awdurdod Iechyd eu parchu. Mae rheoliad 18EF yn pennu'r amgylchiadau pan y gall Awdurdod Iechyd ohirio penderfyniad ar gais i gymeradwyo neu enwebu meddyg yn y rhestr feddygol, a'r weithdrefn sydd i'w dilyn.

Mae rheoliad 8 yn gwneud mân ddiwygiadau i reoliad 18F y prif Reoliadau, ac yn galluogi Awdurdod Iechyd i roi enw meddyg ar y rhestr yn ddarostyngedig i amodau, gyda chaniatâd y meddyg, hyd nes y bydd unrhyw apêl wedi'i benderfynu.

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 18G y prif Reoliadau fel bod modd apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol ar bwynt cyfreithiol mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir ynghylch hyfedredd ieithyddol meddyg.

Mae rheoliad 10 yn ychwanegu rheoliad 18GG newydd i'r prif Reoliadau fel bod modd apelio i'r FHSAA yn erbyn penderfyniad gan Awdurdod Iechyd i wrthod cymeradwyo neu enwebu meddyg.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn gwneud mân newidiadau i reoliadau 18I a 18J y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 13 yn mewnosod rheoliad 18M newydd yn y prif Reoliadau. Mae hyn yn gwneud darpariaeth i Awdurdod Iechyd osod amodau pan fo'n cynnwys meddyg yn y rhestr feddygol. Gall yr Awdurdod Iechyd adolygu amodau o'r fath a gellir apelio i'r FHSAA. Gall yr Awdurdod Iechyd dynnu enw meddyg am doramod.

Mae rheoliad 14 yn diwygio rheoliad 25 y prif Reoliadau er mwyn galluogi Awdurdod Iechyd i benodi meddyg dros dro i ofalu am gleifion meddyg a gafodd ei atal dros dro gan yr Awdurdod Iechyd.

Mae rheoliad 15 yn amnewid rheoliad 34A newydd yn y prif Reoliadau am fod y pŵer yr oedd yn ddibynnol arno, sef adran 49E o Ddeddf 1977, wedi cael ei diddymu gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, Atodlen 5, paragraff 5. Gwneir darpariaethau newydd ar gyfer talu ymarferwyr sydd wedi'u hatal dros dro o dan y pwerau newydd a fewnosodwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

Mae rheoliad 16 yn diwygio Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (amodau gwasanaeth yr Ymarferwyr Cyffredinol).

Gwneir mân ddiwygiad canlyniadol i baragraff 18A (trefniadau y tu allan i oriau).

Caiff paragraff 22 ei ddiwygio er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i sefydliadau sy'n darparu dirprwy feddygon i ddefnyddio meddygon sy'n cael eu cynnwys yn y rhestr atodol neu'r rhestr feddygol yn unig, neu sy'n cael eu henwi fel rhai sy'n cyflawni gwasanaethau meddygol personol fel cynllun peilot.

Mae paragraff 23A yn gosod rhai gofynion penodol pellach ar feddygon sy'n cyflogi cynorthwywyr neu ddirprwyon.

Ychwanegir gofyniad newydd ym mharagraff 36A i'w gwneud hi'n ofynnol i Ymarferwyr Cyffredinol hysbysu'r Awdurdod Iechyd yn ysgrifenedig ynghylch a oes gan y meddyg, neu gwmni y mae'r meddyg yn gyfarwyddwr ohono, unrhyw euogfarnau troseddol neu faterion eraill a nodir erbyn 31 Hydref 2002, ac i adrodd ynghylch unrhyw ddigwyddiadau dilynol o'r natur hwn o fewn 7 diwrnod.

Mae paragraff 36B yn ei gwneud hi'n ofynnol i feddyg ar restr feddygol Awdurdod Iechyd hysbysu'r Awdurdod Iechyd os yw'r meddyg, neu gwmni y mae'r meddyg yn gyfarwyddwr ohono, yn gwneud cais i ymuno â rhestr arall, neu os yw'r meddyg yn dod yn gyfarwyddwr cwmni sy'n cael ei gynnwys felly, neu sy'n gwneud cais i gael ei gynnwys.

Mae paragraff 50A newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i feddyg gydweithredu ag asesiad gan yr Awdurdod Asesu Clinigol Cenedlaethol Newydd.

Mae rheoliadau 17 a 18 yn gwneud mân ddiwygiadau i Rannau 1 (gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad gan Awdurdod Iechyd wrth wneud cyfeiriad at y Pwyllgor Arferion Meddygol) a 111 (gwybodaeth ac ymgymeriadau i'w rhoi gan ymarferydd mewn cysylltiad â chais ar gyfer enwebu neu gymeradwyo lle gwag mewn practis) o Atodlen 3 i'r prif reoliadau, ac yn darparu ar gyfer darparu mwy o wybodaeth gan y meddyg. Mae'r ymgymeriad sy'n cael ei roi o dan baragraff 25 yn cael ei ymestyn i fynnu bod meddyg yn mynd ati i hysbysu'r awdurdod iechyd am unrhyw newid yn yr wybodaeth sy'n cael ei darparu gyda'r cais, ac i barhau i gyflenwi gwybodaeth i'r Awdurdod Iechyd unwaith y bydd wedi'i gynnwys. Mae paragraff 26 newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r meddyg gytuno i'r Awdurdod Iechyd ofyn i gorff rheoleiddiol y meddyg roi gwybodaeth benodol i'r Awdurdod Iechyd.

Yn ogystal, mae rheoliadau 7 a 25 o'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio i gynnwys cyfeiriad at y gorchmynion atal dros dro sydd ar gael o dan adran 41A o Ddeddf Feddygol 1973.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources