RHAN ICyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 9 Awst 2002.

2

Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor;

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu awdurdod Parc Cenedlaethol;

  • ystyr “blwyddyn” (“year”) yw deuddeg mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “bwrdd” (“board”) yw pwyllgor awdurdod lleol a sefydlwyd o dan reoliad 4(1)(a) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 20014;

  • ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 19725;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “dyletswydd a eithrir” (“excluded duty”) yw dyletswydd a gymeradwywyd y mae aelod o awdurdod sy'n gynghorydd yn cael cydnabyddiaeth mewn perthynas â hi heblaw o dan gynllun a wnaed o dan Ran II o'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “dyletswydd a gymeradwywyd” (“approved duty”) yw—

    1. a

      presenoldeb mewn cyfarfod o'r awdurdod neu o unrhyw bwyllgor yr awdurdod neu o unrhyw gorff y mae'r awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu unrhyw bwyllgor corff o'r fath;

    2. b

      presenoldeb mewn cyfarfod o unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohono;

    3. c

      presenoldeb mewn unrhyw gyfarfod arall yr awdurdodir ei gynnal gan yr awdurdod neu gan bwyllgor o'r awdurdod neu gan gyd-bwyllgor o'r awdurdod ac un neu fwy o awdurdodau eraill;

    4. ch

      dyletswydd yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth neu mewn cysylltiad â'u cyflawni os yw'r awdurdod yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth o fewn ystyr “executive arrangements” yn Rhan II o Ddeddf 2000;

    5. d

      dyletswydd yr ymgymerir â hi yn unol â rheol sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan fydd dogfennau tendro yn cael eu hagor;

    6. dd

      dyletswydd yr ymgymerir â hi mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaeth gan yr awdurdod sy'n galluogi neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod archwilio neu awdurdodi archwiliad o safle;

    7. e

      presenoldeb mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddiant neu ddatblygu a gymeradwywyd gan yr awdurdod neu gan ei weithrediaeth neu ei fwrdd; ac

    8. h

      unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwyir felly, ac yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu mewn cysylltiad â'u cyflawni;

  • ystyr “grŵp gwleidyddol arall” (“other political group”) yw grŵp gwleidyddol heblaw grŵp rheoli neu grŵp gwrthbleidiol mwyaf (os o gwbl) sy'n cynnwys dim llai na 10 y cant o aelodau'r awdurdod hwnnw;

  • ystyr “grŵp gwrthbleidiol mwyaf” (“largest opposition group”) yw grŵp gwleidyddol heblaw grŵp rheoli sydd â nifer fwy o aelodau nag unrhyw grŵp gwleidyddol arall yn yr awdurdod;

  • ystyr “grŵp rheoli” (“controlling group”) yw grŵp gwleidyddol:

    1. a

      mewn awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth:

      1. i

        pan fydd y trefniadau hynny'n cymryd ffurf arweinydd a gweithrediaeth gabinet;

      2. ii

        gyda maer a gweithrediaeth gabinet; neu

      3. iii

        gyda maer a rheolwr cyngor; neu

    2. b

      mewn awdurdod sy'n gweithredu trefniadau amgen;

    pan fydd unrhyw rai o'i aelodau yn ffurfio rhan o weithrediaeth neu fwrdd fel a geir yn (a) neu (b) uchod.

  • ystyr “gweithrediaeth” (“executive”) yw gweithrediaeth awdurdod mewn ffurf a bennwyd yn adrannau 11(2) i (5) o Ddeddf 2000;

  • mae “pwyllgor” (“committee”) yn cynnwys is-bwyllgor;

  • ystyr “pwyllgor trosolygu a chraffu” (“overview and scrutiny committee”) yw pwyllgor yr awdurdod y mae ganddo'r pwerau a nodir yn adran 21(2) a (3) neu 32 (1) o Ddeddf 2000;

  • ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw trefniadau i gyflawni swyddogaethau awdurdod o'r math a ddisgrifir yn adran 32(1) o Ddeddf 2000; ac

  • mae i “trefniadau gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive arrangements” gan adran 10(1) o Ddeddf 2000.

Awdurdodau perthnasol a ragnodwyd3

Rhagnodir cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) o Ddeddf 2000.