- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo codau ymarfer er mwyn rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leiafu sŵ n (sy'n cynnwys dirgryniad) a rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo cod ymarfer o'r fath ar gyfer cyflawni gweithfeydd y mae adran 60 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith adeiladu a thrwsio ffyrdd, gwaith dymchwel, gwaith carthu a mathau eraill o weithfeydd adeiladu peirianyddol.
Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i gymeradwyo codau ymarfer wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo'r pedwar cod ymarfer a grybwyllir yn Erthygl 2. Mae'r cod ymarfer ar wybodaeth a gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer rheoli sŵ n a dirgryniad a grybwyllir yn Erthygl 2(a) yn gymwys i bob safle adeiladu a safle agored. Mae'r codau ymarfer a grybwyllir yn Erthygl 2(b), (c) a (ch) yn gymwys, yn ychwanegol, i echdynnu glo arwyneb, gwaith gosod pyst a safleoedd echdynnu mwynau arwyneb yn y drefn honNo.
Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Rheoli Sŵ n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladau a Safleoedd Agored) 1984 a Gorchymyn Rheoli Sŵ n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1987 mewn perthynas â Chymru.
Gellir cael copiau o'r codau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo, yn bersonol neu drwy'r post, oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig (“British Standards Institution”). Eu cyfeiriad yw Customer Services Sales Department, BSI, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL; ffôn 020 8996 7000.
Dyma rifau ISBN y codau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo:
| BS 5228: Rhan 1: 1997 (gyda Diwygiad 1) | ISBN 0 580 26845 4 |
| BS 5228: Rhan 3: 1997 | ISBN 0 580 26874 8 |
| BS 5228: Rhan 4: 1992 | ISBN 0 580 20381 6 |
| BS 5228: Rhan 5: 1997 | ISBN 0 580 28306 2 |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: