Search Legislation

Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2002 Rhif 1795 (Cy.170)

IECHYD CYHOEDDUS, CYMRU

Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002

Wedi'i wneud

9 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

1 Awst 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974(1) ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Awst 2002.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Cymeradwyo codau ymarfer

2.  Mae Codau Ymarfer canlynol y Sefydliad Safonau Prydeinig (“British Standards Institution”) wedi'u cymeradwyo fel codau addas ar gyfer rhoi cyfarwyddyd ar leiafu sŵ n:

(a)y Cod Ymarfer ar wybodaeth a gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer rheoli sŵ n a dirgryniad, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 1: 1997 gan ymgorffori Diwygiad Rhif 1, a ddaeth i rym ar 15 Ebrill 1999 (ac sy'n ymwneud â chyflawni gwaith y mae adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 yn gymwys iddo, ymhlith pethau eraill);

(b)y Cod Ymarfer sy'n gymwys i echdynnu glo arwyneb drwy ddefnyddio dulliau cloddio brig, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 3: 1997, a ddaeth rym ar 15 Mai 1997;

(c)y Cod Ymarfer ar gyfer rheoli sŵ n a dirgryniad sy'n gymwys i waith gosod pyst, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 4: 1992, a ddaeth i rym ar 1 Mai 1992, fel y'i diwygiwyd gan Ddiwygiad Rhif 1 a ddaeth i rym ar 15 Gorffennaf 1993 (ac sy'n ymwneud â chyflawni gwaith y mae adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 yn gymwys iddo, ymhlith pethau eraill); ac

(ch)y Cod Ymarfer sy'n gymwys i safleoedd echdynnu mwynau (heblaw glo) arwyneb, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 5: 1997, a ddaeth i rym ar 15 Tachwedd 1997.

Diddymu

3.  Mae Gorchymyn Rheoli Sŵ n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1984(3) a Gorchymyn Rheoli Sŵ n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1987(4) wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo codau ymarfer er mwyn rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leiafu sŵ n (sy'n cynnwys dirgryniad) a rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo cod ymarfer o'r fath ar gyfer cyflawni gweithfeydd y mae adran 60 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith adeiladu a thrwsio ffyrdd, gwaith dymchwel, gwaith carthu a mathau eraill o weithfeydd adeiladu peirianyddol.

Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i gymeradwyo codau ymarfer wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo'r pedwar cod ymarfer a grybwyllir yn Erthygl 2. Mae'r cod ymarfer ar wybodaeth a gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer rheoli sŵ n a dirgryniad a grybwyllir yn Erthygl 2(a) yn gymwys i bob safle adeiladu a safle agored. Mae'r codau ymarfer a grybwyllir yn Erthygl 2(b), (c) a (ch) yn gymwys, yn ychwanegol, i echdynnu glo arwyneb, gwaith gosod pyst a safleoedd echdynnu mwynau arwyneb yn y drefn honNo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Rheoli Sŵ n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladau a Safleoedd Agored) 1984 a Gorchymyn Rheoli Sŵ n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1987 mewn perthynas â Chymru.

Gellir cael copiau o'r codau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo, yn bersonol neu drwy'r post, oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig (“British Standards Institution”). Eu cyfeiriad yw Customer Services Sales Department, BSI, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL; ffôn 020 8996 7000.

Dyma rifau ISBN y codau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo:

BS 5228: Rhan 1: 1997 (gyda Diwygiad 1)ISBN 0 580 26845 4
BS 5228: Rhan 3: 1997ISBN 0 580 26874 8
BS 5228: Rhan 4: 1992ISBN 0 580 20381 6
BS 5228: Rhan 5: 1997ISBN 0 580 28306 2
(2)

Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources