Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1730 (Cy.164)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

4 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

1 Medi 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

i)

ar ôl ymgynghori â'r pwyllgor a sefydlwyd(1) o dan adran 140(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(2);

ii)

ar ôl cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol ag adran 140(6)(b) o'r Ddeddf honno;

iii)

ar ôl ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â'r hysbysiad hwnnw;

o'r farn ei bod yn briodol gwneud y Rheoliadau hyn er mwyn atal y sylweddau neu'r eitemau a bennir ynddynt rhag llygru'r amgylchedd a niwedio iechyd anifeiliaid, ac felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 140 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Gwahardd defnyddio cetris sy'n cynnwys peledi plwm

3.  Ni chaiff neb ddefnyddio peledi plwm er mwyn saethu gyda gwn cetris—

(a)ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;

(b)ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu

(c)unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau.

Pwerau mynediad er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau

4.—(1Gall person sy'n ymddangos yn addas i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol i arfer, yn unol â thelerau'r awdurdod, unrhyw un o'r pwerau a bennir ym mharagraff (2) isod at ddiben penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.

(2Dyma'r pwerau y gall person awdurdodedig gael ei awdurdodi i'w harfer o dan baragraff (1) uchod—

(a)mynd i mewn ar unrhyw adeg resymol i unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig le i gredu ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn iddo;

(b)wrth fynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd is-baragraff (a) uchod bod gydag ef—

(i)unrhyw berson awdurdodedig arall;

(ii)os bydd sail resymol dros ddisgwyl unrhyw rwystr difrifol a fyddai'n atal y person awdurdodedig rhag cyflawni ei ddyletswydd, gwnstabl; ac

(iii)unrhyw gyfarpar (heblaw cyfarpar trwm) neu ddefnyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben mae'r pŵer mynediad ar ei gyfer;

(c)wneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad sy'n angenrhediol o dan yr amgylchiadau;

(ch)cymryd unrhyw aderyn gwyllt sy'n farw neu wedi'i anafu neu beri bod samplau yn cael eu cymryd o unrhyw eitemau neu sylweddau sy'n cael eu darganfod mewn neu ar unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig bŵ er i fynd i mewn iddo ac i beri bod unrhyw aderyn neu sampl felly yn cael ei ddadansoddi neu'i brofi;

(d)yn achos unrhyw aderyn neu sampl a grybwyllir yn is-baragraff (ch) uchod, cymryd meddiant ohono a'i gadw gyhyd ag y mae ei angen at y cyfan neu unrhyw rai o'r dibenion canlynol, sef—

(i)ei archwilio, neu beri iddo gael ei archwilio, ac i wneud unrhyw beth iddo y mae gan y person awdurdodedig bŵ er i'w wneud o dan yr is-baragraff hwnnw neu beri i hynny gael ei wneud;

(ii)sicrhau na fydd neb yn ymyrryd ag ef cyn bod yr archwiliad ohono wedi'i gwblhau;

(iii)sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos llys ar gyfer tramgwydd.

(3Pan fydd person awdurdodedig yn bwriadu mynd i mewn i unrhyw safle a—

(a)bod mynediad wedi cael ei wrthod a bod y person awdurdodedig yn disgwyl ar seiliau rhesymol y gall fod yn angenrheidiol defnyddio grym i lwyddo i fynd mewn; neu

(b)bod y person awdurdodedig yn disgwyl, ar seiliau rhesymol, y bydd mynediad yn debyg o gael ei wrthod ac y gall fod yn angenrheidiol i ddefnyddio grym i lwyddo i fynd i mewn,

rhaid mynd i mewn i'r safle hwnnw yn rhinwedd y rheoliadau hyn o dan awdurdod gwarant yn rhinwedd paragraff (4) isod yn unig.

(4Os dangosir i ynad heddwch drwy dystiolaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod yna seiliau rhesymol dros arfer, mewn perthynas ag unrhyw safle, bŵer o dan y rheoliad hwn (gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn unol â gwarant o dan y paragraff hwn), a

(b)bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (5) isod wedi ei gyflawni,

gall yr ynad awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol trwy warant i ddynodi person a awdurdodir i arfer y pŵer mewn perthynas â'r safle, yn unol â'r warant a thrwy rym os bydd angen.

(5Yr amodau a grybwyllir yn is-baragraff 4(b) uchod yw—

(a)bod arfer y pŵer mewn perthynas â'r safle wedi'i wrthod;

(b)y disgwylir yn rhesymol y bydd yn cael ei wrthod;

(c)bod y safle heb ei feddiannu;

(ch)bod y meddiannydd yn absennol dros dro o'r safle a bod yr achos yn un brys; neu

(d)y byddai cais am fynediad i'r safle yn trechu diben y mynediad arfaethedig.

(6Bydd pob gwarant a roddwyd o dan baragraff (4) uchod yn parhau mewn grym nes bod y dibenion y rhoddwyd y gwarant ar eu cyfer wedi eu cyflawni.

(7Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, ddangos tystiolaeth am yr awdurdod neu'r dynodiad (os gofynnir iddo wneud hynny).

(8Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, sydd, trwy arfer unrhyw bŵ er a roddir gan y rheoliad hwn, yn mynd i mewn i unrhyw safle nad yw wedi'i feddiannu neu y mae ei feddiannydd yn absennol dros dro, adael y safle wedi ei sicrhau yn erbyn tresmaswyr yr un mor effeithiol â chyn i'r person hwnnw fynd i mewn iddo.

(9Ni fydd person awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, yn atebol mewn unrhyw achos sifil na throseddol am unrhyw beth a wnaed trwy honni arfer unrhyw bŵ er a roddir gan y rheoliad hwn os bydd y llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi ei chyflawni'n ddidwyll a bod seiliau rhesymol dros ei chyflawni.

Tramgwyddau

5.—(1Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 3 uchod neu sy'n peri neu'n caniatáu i unrhyw berson arall dorri'r rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2Bydd unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro person sy'n gweithredu trwy arfer unrhyw bŵ er o dan reoliad 4 uchod yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Diddymu Rheoliadau 2001

6.  Diddymir Rheoliadau 2001.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Gorffennaf 2002

Rheoliad 3(b)

ATODLEN 1SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol ArbennigDyddiad Dynodi o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981Lleoliad (Cyfeirnod Grid OS) (gweler y nodyn isod)
Nodyn: Mae cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans yn rhoi pwynt o fewn y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Angle Bay04/03/1993SM883025
Beddmanarch-Cymyran25/09/1998SH275790
Broadwater13/01/1993SH582027
Burry Inlet and Loughor Estuary25/09/1989SS135985
Carew and Cresswell Rivers04/03/1993SN025055
Cosheston Pill04/03/1993SM990036
Daugleddau04/03/1993SN003116
Dee Estuary23/09/1998SJ220800
Dyfi14/03/1995SN635950
Flatholm10/03/1993ST220649
Gronant Dunes / Talacre Warren29/01/1998SJ100847
Inner Marsh Farm11/02/1995SJ307735
Laugharne and Pendine Burrows18/02/1990SN290070
Llyn Alaw29/03/1985SH390865
Llyn Syfaddan / Llangorse Lake09/02/1983SO133265
Llyn Traffwll18/02/1986SH325770
Llynnoedd y Fali / Valley Lakes22/05/1986SH310770
Morfa Harlech25/05/2001SH570660
Ynys Llanddwyn / Newborough Warren09/03/1995SH400640
Pembrey Coast10/11/1983SN316054
Pembroke River and Pwll Crochan Flats04/03/1993SM940025
Severn Estuary02/02/1989ST226758
Shotton Lagoon and Reedbeds19/10/1999SJ298709
Sully Island16/12/1986ST167670
Teifi Estuary08/12/1997

SN158502

SN785675

Traeth Lafan24/09/1984SH630750
Whiteford Burrows and Landimore Marsh04/04/1984SS450955

Regulation 3(c)

ATODLEN 2ADAR GWYLLT MEWN PERTHYNAS Å HWY Y MAE'R GWAHARDDIAD AR SAETHU Å PHELENNI PLWM YN GYMWYS IDDYNT

Enw CyffredinEnw Gwyddonol
Nodyn: Mae'r enw neu'r enwau cyffredin yn cael eu cynnwys fel canllaw yn unig; os bydd unrhyw anghydfod neu achos, rhaid peidio â chymryd yr enw neu'r enwau cyffredin i ystyriaeth.
CwtiarFulica Atra
Hwyaid a Gwyddau (holl rywogaethau pob un ohonynt)Anatidae
Iâr Ddŵ rGallinula chloropus

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwahardd defnyddio peledi plwm ar gyfer saethu â gwn cetris—

(a)ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;

(b)ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu

(c)unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau sef hwyaid a gwyddau (pob rhywogaeth o bob un ohonynt), cwtiar ac iâr ddwr (rheoliad 3).

  • Ystyr “peledi plwm” yw unrhyw beledi o blwm neu o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r cyfansoddyn (rheoliad 2).

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer pwerau mynediad ac archwilio, pŵer i gymryd samplau, a phŵer i gymryd unrhyw adar meirw neu rai sydd wedi'u hanafu, er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau.

Mae Rheoliad 5 yn darparu bod torri rheoliad 3, neu rwystro person sy'n arfer unrhyw bŵ er o dan reoliad 4, yn dramgwydd troseddol y gellir ei gosbi drwy ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Cofrestrir hysbysiadau o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 fel pridiannau tir lleol (adran 28(9) o'r Ddeddf honno).

Gellir cael manylion o'r ardaloedd sy'n cael eu cynnwys yn y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2LQ.

Diddymir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4003 (Cy.331)) (rheoliad 6).

(3)

Trosglwyddwyd y pwerau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 / 672).