xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
4 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym
19 Gorffennaf 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 19 Gorffennaf 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 1970” yw Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970.
2. Bydd y personau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, gan eu bod yn bersonau y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, yn gyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf 1970.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Gorffennaf 2002
Erthygl 2
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cyngor Gofal Cymru
Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 1(5) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (“Deddf 1970”) yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol bennu'n gorff cyhoeddus, at ddibenion Deddf 1970, berson neu ddisgrifiad o bersonau y mae'n ymddangos eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus. Mae'r pŵ er hwn yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Gofal Cymru a Chyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant yn gyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf 1970.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).